Louis Rees-Zammit i adael yr NFL a mynd yn ôl i chwarae rygbi

Ymunodd Rees-Zammit â'r Jacksonville Jaguars yn 2024, ar ôl methu â gwneud argraff gyda'r Kansas City Chiefs
- Cyhoeddwyd
Mae Louis Rees-Zammit wedi penderfynu gadael pêl-droed Americanaidd a dychwelyd i chwarae rygbi.
Daw'r cyhoeddiad 18 mis ers i'r chwaraewr 24 oed droi ei gefn ar rygbi, er mwyn ceisio dilyn gyrfa yng nghynghrair yr NFL yn yr UDA.
Cafodd Rees-Zammit gyfnodau gyda'r Kansas City Chiefs a'r Jacksonville Jaguars, ond dywedodd mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod hi'n "amser dod adref".
"Dwi wedi penderfynu mai dyma'r amser gorau i wneud y penderfyniad yma, er mwyn rhoi amser i mi fy hun gael popeth yn ei le ar gyfer y tymor nesaf," meddai.

Mae Rees-Zammit wedi chwarae 32 o weithiau i dîm rygbi Cymru
Dywedodd Zammit mai "dim ond un peth sydd ar fy meddwl i, sef dod yn ôl at rygbi a gwneud yr hyn dwi'n ei wneud orau".
Ychwanegodd na allai "esbonio pa mor gyffrous ydw i!".
Y Kansas City Chiefs oedd y tîm cyntaf i Rees-Zammit lofnodi iddyn nhw ar ôl y newid gyrfa, ond cafodd ei ryddhau ar ôl methu â chreu argraff cyn tymor 2024.
Yna ymunodd â'r Jacksonville Jaguars, lle treuliodd dymor cyfan 2024 fel rhan o'u carfan ymarfer.
Ni chafodd Rees-Zammit erioed chwarae i'r tîm cyntaf gan y Jaguars, hyd yn oed pan chwaraeon nhw ddwy gêm yn Llundain.
Bydd ei gyn-glwb, Caerloyw, yn dychwelyd i chwarae yn yr Uwch Gynghrair ar 25 Medi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd29 Awst 2024
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2024