Louis Rees-Zammit yn ymuno â'r Jacksonville Jaguars

Louis Rees-ZammitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Rees-Zammit yn erbyn y Jaguars mewn gêm baratoi yn ystod yr haf

  • Cyhoeddwyd

Mae Louis Rees-Zammit wedi ymuno â charfan hyfforddi'r Jacksonville Jaguars.

Daw'r cyhoeddiad yma wedi i'r cyn-chwaraewr rygbi Cymru beidio cael ei gynnwys yng ngharfan NFL y Kansas City Chiefs.

Fe gyhoeddodd Reez-Zammit, 23, ym mis Ionawr ei fod yn gadael clwb rygbi Caerloyw i geisio sicrhau cytundeb yn yr NFL.

Wedi iddo gael ei dderbyn i'r International Player Pathway (IPP) - sy'n rhoi cyfle i athletwyr elît sicrhau cytundebau gyda phrif glybiau'r Unol Daleithiau - fe arwyddodd gytundeb tair blynedd gyda'r Chiefs.

Er iddo chwarae tair gêm i Kansas City dros yr haf, chafodd o ddim ei gynnwys yn y brif garfan o 53 chwaraewr.

Roedd ei enw ar y rhestr drosglwyddiadau - ac o hynny, mae wedi ei gynnwys yng ngharfan hyfforddi'r Jacksonville Jaguars.

Mae gan y Jaguars dipyn o ddilyniant yn y DU, ac fe fydd y tîm o Florida yn chwarae dwy gêm yn Llundain y tymor hwn.

Pynciau cysylltiedig