Rees-Zammit yn arwyddo cytundeb newydd gyda'r Jacksonville Jaguars

Cafodd Rees-Zammit ei gynnwys yng ngharfan hyfforddi'r Jaguars y llynedd ond fe wnaeth o fethu sicrhau lle yn y brif garfan
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Louis Rees-Zammit wedi arwyddo cytundeb arall gyda thîm pêl-droed Americanaidd y Jacksonville Jaguars.
Mae'n golygu y bydd cyfle arall i'r Cymro geisio gwireddu ei freuddwyd o chwarae yn yr NFL drwy sicrhau lle ym mhrif garfan y tîm erbyn dechrau'r tymor.
Fe gyhoeddodd Rees-Zammit ym mis Ionawr y llynedd ei fod yn gadael clwb rygbi Caerloyw i geisio sicrhau cytundeb yn yr NFL.
Yn dilyn cyfnod gyda'r Kansas City Chiefs, cafodd Rees-Zammit ei gynnwys yng ngharfan hyfforddi'r Jaguars y llynedd, ond fe wnaeth o fethu sicrhau lle yn y brif garfan o 53 o chwaraewyr.
Fe fydd tymor newydd yr NFL yn dechrau ym mis Medi.
- Cyhoeddwyd16 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Awst 2024
- Cyhoeddwyd28 Awst 2024
Wrth siarad ar Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd y sylwebydd chwaraeon Dyfed Cynan bod y cytundeb yn "galonogol iawn".
"Mae hwn yn gam ymlaen neu'n gam i fyny o'r sefyllfa amser yma'r llynedd yn sicr pan odd e'n dechre allan gyda'r NFL, ond drwy gydol y tymor pan o'dd e yn y practice squad y garfan ymarferol.
"Mae'r ffaith bod e wedi derbyn y cytundeb yma gan y Jacksonville Jaguars yn ffaith fod 'na gnewyllyn o botensial fan hyn ac yn amlwg mae Jacksonville eisiau ei gadw e a bydde fe'n ddiddorol gwybod sawl tîm arall oedd allan yn bidio hefyd."

Fe fydd Rees-Zammit yn cystadlu am le yn y garfan o 53 ar gyfer y tymor NFL nesaf
Ychwanegodd Dyfed Cynan bod "cyfle fan hyn iddo fe dyfu ac i godi'n gyflym".
"Mae e wedi newid safle a dwi'n falch iawn ei fod e nawr yn wide receiver - mae hyn yn fwy nodweddiadol o beth sydd ganddo i'w gynnig a dwi'n credu ei fod e wedi ffeindio ei le.
"Dwi'n credu geith e fwy o gyfle fel wide receiver ac i fod yn returner hefyd. Mae'r tactegau a'r rheolau o fewn yr NFL wedi newid felly yn sicr ni llawn gobaith ar ôl y cyhoeddiad 'ma neithiwr."

Dywedodd Dyfed Cynan, sy'n sylwebydd chwaraeon ei fod "llawn gobaith ar ôl y cyhoeddiad" am Louis Rees-Zammit
"Falle bod ishe tynnu'r brêcs yn ôl chydig bach oherwydd ma' sefyllfa'r Jaguars a'r timau o amgylch yr NFL yn mynd i newid yn ddrastig iawn dros yr wythnosau nesa'.
"Ni ar fin mynd i gyfnod y ffenestr drosglwyddo ac y draft ym mis Ebrill felly cyfle mawr i Louis i 'neud y garfan gychwynnol o 90 tan iddi gael ei chwynnu i 53 o gwmpas mis Awst."
Mae Rees-Zammit yn un o'r 90 chwaraewr fydd yn cystadlu am le yn y garfan o 53 ar gyfer tymor nesa'r NFL, fydd yn dechrau ym mis Medi.