Cyngor Sir Ddinbych yn gwrthod cefnogi parc cenedlaethol newydd

Llun o ddau berson yn cerdded ar hyd llwybr ym mynyddoedd Bryniau Clwyd. Mae'r fenyw i'r dde yn gwisgo crys-t pinc a throwsus du. Mae'r dyn i'r chwith ohoni yn gwisgo crys-t gwyrdd a jîns glas. Mae ganddyn nhw gi yn cerdded ar eu hôl nhw. Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai Parc Cenedlaethol Glyndŵr gynnwys bryniau Clwyd

  • Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i wrthod cefnogi'r cynllun i greu parc cenedlaethol newydd yng Nghymru.

Yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, byddai Parc Cenedlaethol Glyndŵr yn cynnwys tua 46% o dirwedd Sir Ddinbych ac 13% o'i phoblogaeth.

Wrth ateb yn swyddogol i'r ymgynghoriad mae'r cyngor yn rhannu pryderon am drefniadau llywodraethu, cynllunio ac ariannu'r parc newydd.

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i aros tan ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai 2026 gan obeithio am fwy o sicrwydd dros gyllido corff newydd o'r fath.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy'n cydlynu'r ymgynghoriad, "mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i amddiffyn natur, cefnogi cymunedau, a llunio dyfodol gwell i'r rhan hyfryd hon o Gymru".

'Rhoi'r cert o flaen y ceffyl'

Mae gan Gymru dri pharc cenedlaethol yn barod - Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.

Mae'r parciau hyn yn denu mwy na 12 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, sy'n gwario mwy na £1bn, yn ôl Parciau Cenedlaethol y DU.

Mae gan bob un ei awdurdod ei hun gyda'r pŵer i wneud penderfyniadau cynllunio.

Maen nhw'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru - a oedd yn cyfateb yn 2024 i ychydig dros £11m ar gyfer y tri pharc.

Os yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, Parc Cenedlaethol Glyndŵr fyddai'r pedwerydd, a'r cyntaf i gael ei greu yng Nghymru ers 1957.

Ar hyn o bryd y nod yw creu parc sy'n ymestyn o'r arfordir ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych, hyd at Sir y Fflint, Wrecsam, Llandderfel ger Y Bala yng Ngwynedd a gogledd Powys.

Mae'n gynllun sydd wedi hollti barn ymlith y cyhoedd.

Llun o'r afon Dyfrdwy gyda rhan o dref Llangollen yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Byddai tref Llangollen, Sir Ddinbych yn rhan o'r parc newydd

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud eu bod nhw'n cytuno gyda'r egwyddor o amddiffyn tirweddau Cymru ac yn gallu gweld bod yna gyfleoedd datblygu cynaliadwy y gallai'r parc newydd eu cynnig.

Ond gwrthod y cynnig maen nhw ac mae pryderon am ariannu'r parc newydd yn un o'r rhesymau.

Dywedodd y cynghorydd Rhys Thomas o Blaid Cymru: "Ni wedi bod yn trafod pethau fel ffiniau'r parc ers tro... Ond ni heb glywed am y pethau hanfodol bwysig sef, pwy sy'n mynd i ariannu hwn? Beth fydd yr effaith ar y cyngor? Sut mae'n mynd i gael ei ariannu? Mae'r awdurdodau wedi rhoi'r cert o flaen y ceffyl."

Ychwanegodd: "Dwi yn bersonol yn gefnogol iawn i barciau cenedlaethol ac mi fyddwn i'n pleidleisio dros hyn heddiw os oedd y pethau yma wedi cael eu gweithio allan ond tydi'r pethau sylfaenol heb gael eu gwneud eto."

Roedd y cynghorydd Delyth Jones yn cytuno gan ddweud: "Byddai cymryd y cam yma ar yr adeg hon yn anghywir."

Mae'r llythyr y mae'r cyngor yn bwriadu ei anfon i GNC yn nodi effaith bositif bosib ar yr economi leol, yr amgylchedd a'r iaith Gymraeg o greu parc cenedlaethol newydd.

Ond mae'n rhannu pryderon hefyd am gor-dwristiaeth, rheolau cynllunio a phwysau ychwanegol ar seilwaith y sir, yn enwedig y ffyrdd.

Dyma farn y Cynghorydd Arwel Roberts hefyd.

"Dwi ddim yn meddwl bod angen parc cenedlaethol newydd ac felly dwi ddim am bleidleisio dros hyn. Gwell i Lywodraeth Cymru edrych ar wella ein ffyrdd ni cyn bod sôn am gael parc cenedlaethol," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd yn asesu cynllun i greu parc cenedlaethol newydd; rhywle ble fyddai ecosystemau a mynediad i bawb yn rhan annatod o'i DNA.

"Rydyn ni hefyd wedi dechrau ystyried y gost o greu awdurdod parc cenedlaethol newydd, pe bai CNC yn ei argymell, a byddwn yn cynnwys y rhain mewn unrhyw gynlluniau ariannol yn y dyfodol yn ogystal â chostau ychwanegol i unrhyw awdurdodau lleol o fewn y ffiniau."

Mae disgwyl i'r cyngor anfon eu hymateb i Gyfoeth Naturiol Cymru cyn diwedd y cyfnod ymgynghori ar ddechrau Rhagfyr 2025.

Pynciau cysylltiedig