Parc Cenedlaethol newydd yn 'gyfle unwaith mewn cenhedlaeth'

Fe allai Llyn Efyrnwy ym Mhowys ddod o fewn ffiniau'r parc newydd
- Cyhoeddwyd
Mae rownd nesaf cyfnod ymgynghori wedi dechrau ar gyfer creu parc cenedlaethol newydd fyddai'n ymestyn ar draws gogledd-ddwyrain Cymru a Phowys.
Parc Cenedlaethol Glyndŵr yw'r enw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y parc - a allai ymestyn o'r arfordir ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych, hyd at Sir y Fflint, Wrecsam a gogledd Powys.
Fel rhan o'r ymgynghoriad 12 wythnos o hyd mi fydd cyfres o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein i bobl allu mynegi barn.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy'n cydlynu'r ymgynghoriad, "mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i amddiffyn natur, cefnogi cymunedau, a llunio dyfodol gwell i'r rhan hyfryd hon o Gymru".

Fe allai Parc Cenedlaethol Glyndŵr gynnwys Bryniau Clwyd a chopaon fel Moel Famau, ger yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Ychwanegodd Ash Pearce o CNC eu bod yn "gwybod y gall newid fod yn anodd, ond gyda'r dull cywir, gallai Parc Cenedlaethol newydd ddod â manteision go iawn i bobl, bywyd gwyllt a'r economi leol".
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru fe esboniodd Keith Davies o CNC eu bod wedi bod wrthi yn casglu tystiolaeth dros y blynyddoedd.
Mae'r dystiolaeth bellach i'w gweld ar wefan y prosiect sydd, yn ôl Keith Davies, yn dangos pam fod yr ardal yn "ateb y meini prawf i fod yn barc cenedlaethol".
Ymhlith y meini prawf hynny mae'r angen i allu arddangos "harddwch naturiol mewn cyd-destun cenedlaethol" a chynnig "cyfleoedd addas ar gyfer mwynhau gweithgareddau awyr agored".
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd1 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024
Mewn ymgysylltiad cyhoeddus cychwynnol yn 2023 roedd 51% o'r rhai gafodd eu holi o blaid parc newydd, gyda 42% yn ei erbyn.
Roedd y rhai a oedd yn gwrthwynebu parc newydd yn poeni am yr effeithiau ar y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal.
Roedd y pryderon yn cynnwys cynnydd posib yn nifer yr ymwelwyr, effaith ar brisiau tai a newidiadau posib i reolau cynllunio.
Ar yr ochr arall, dywedodd y rhai sydd o blaid cael parc newydd y gallai'r parc amddiffyn ardaloedd gwledig rhag cal eu gorddatblygu, a byddai'n rhoi cydnabyddiaeth i'r ardal.
Parciau presennol yn denu 12 miliwn o ymwelwyr
Fe gafodd CNC eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i ystyried yr achos dros gael parc cenedlaethol newydd.
Gofynnwyd iddyn nhw ystyried tirwedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, gan gynnwys mannau prydferth fel copa Moel Famau, ger yr Wyddgrug, Sir y Fflint, Rhaeadr yr Oernant yn Llangollen, Sir Ddinbych, yn ogystal â thirnodau fel Dyfrbont Pontcysyllte yn Wrecsam a Llyn Efyrnwy ym Mhowys.
Mae gan Gymru dri pharc cenedlaethol ar hyn o bryd - Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.
Mae'r parciau hyn yn denu mwy na 12 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, sy'n gwario mwy na £1bn, yn ôl Parciau Cenedlaethol y DU.
Mae gan bob un ei awdurdod ei hun, gyda'r pŵer i wneud penderfyniadau cynllunio.
Maen nhw'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru - a oedd yn cyfateb yn 2024 i ychydig dros £11m ar gyfer y tri pharc.
Ar wahân i'r parciau hynny, mae gan Gymru dri llwybr cenedlaethol gan gynnwys Llwybr Glyndŵr, sy'n 135 milltir (217km) o hyd ym Mhowys.
Mi fydd y cyfnod ymgynghori hwn yn rhedeg tan 2 Rhagfyr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.