Y diwygiad tawel: Mwy o oedolion ifanc yn troi at ffydd

Mae Rhys Thomas yn aelod newydd o gapel Tabernacl, Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae llawer o bobl ifanc yn nodi eu pen-blwydd gyda dathliad arbennig ond yr hyn y mae Rhys Thomas o Gaerdydd yn dymuno ei wneud yw cael ei fedyddio.
Ers rhai misoedd mae wedi dechrau mynd i gapel a hynny wedi marwolaeth ei dad-cu.
Mae ymchwil newydd gan YouGov yn dangos bod mwy o bobl ifanc wedi troi at ffydd Gristnogol - mae cynnydd o 12% yn y nifer y bobl rhwng 18 a 24 oed yng Nghymru a Lloegr sy'n mynychu'r eglwys o leiaf unwaith y mis.
Mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn siarad â phobl ifanc gan ofyn beth mae'n ei olygu darganfod ffydd yn eu hugeiniau.
Archwilio ffydd drwy gyfrwng y Gymraeg
Dyw Rhys ddim wedi cael ei fagu ar aelwyd Gristnogol ond rai misoedd yn ôl ymunodd â chapel Cymraeg Tabernacl yng Nghaerdydd a hynny wedi iddo gael ei ysbrydoli gan ffydd ei ddiweddar dad-cu.
"Doedd gen i ddim cyfle i adnabod fy nhad-cu'n dda iawn, derbyniodd diagnosis o ddementia erbyn i mi gyrraedd oedran lle gallen ni gael sgyrsiau ystyrlon," meddai.
"Ond mae'r eglwys wedi fy helpu i ddysgu mwy am ei fywyd a'i dreftadaeth, gan wneud i mi deimlo'n agosach ato."
Yn yr amser byr yma, mae ffydd wedi dod yn rhan annatod o fywyd Rhys.
Mae'n darllen yr Ysgrythur, darllen o'r pulpud, mynychu sesiynau gweddi ac wedi bod ar bererindod i rai o eglwysi hynaf a mwyaf arwyddocaol Cymru.

Rhys a'i 'deulu Tab' ar bererindod diweddar i Fro Morgannwg
Mae archwilio ffydd drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn hynod bwysig i Rhys.
"Drwy'r eglwys, fy nheulu a'm ffydd, rydw i wedi dysgu gwerthfawrogi'r Gymraeg — nid yn unig fel iaith, ond fel symbol o hunaniaeth, cymuned a chysylltiad dwfn â Chymru," meddai.
"Mae'r profiad hwn wedi bod yn rhan annatod o'm hunaniaeth, yn enwedig wrth i mi sylweddoli pwysigrwydd yr iaith ar ôl colli rhywfaint o gysylltiad â hi yn ystod fy mywyd."
Yn ddiweddar, mae Rhys wedi bod yn paratoi i gael ei fedyddio cyn ei ben-blwydd yn 24 oed, gyda grŵp o aelodau ifanc o'r eglwys.
"Drwy fy ffydd, cefais fy adfer i gymryd rheolaeth ar fy mywyd – rhoi'r gorau i yfed, adeiladu dygnwch trwy ffitrwydd, a gwasanaethu fy nghymuned.
"Bydd cael fy medyddio yn arwydd o fy ymrwymiad llawn i Dduw."

Mae Siân Wyn Rees wedi bod yn bennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru ers mis Hydref 2022
Siân Wyn Rees o Bontypridd yw pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru, a nhw gomisiynodd yr ymchwil newydd gan YouGov o'r enw 'The Quiet Revival'.
Cafodd dros 30,000 o oedolion yng Nghymru a Lloegr eu holi rhwng 2018 a 2024 am eu perthynas â Christnogaeth.
Canfu'r adroddiad fod y nifer o bobl o 18 i 24 oed sy'n mynychu'r eglwys o leiaf unwaith y mis wedi cynyddu o 4% i 16% yn ystod y cyfnod yma.
"Rydyn ni'n ei alw'n diwygiad tawel oherwydd ei fod yn digwydd yn raddol, yn aml mewn ardaloedd gwledig, nid dim ond mewn dinasoedd," meddai Siân.
"Mae'r bobl yma yn troi lan i'r eglwys heb wahoddiad — ac wedyn maen nhw'n aros."
Mae'n credu mai effaith y pandemig ar bobl ifanc yw'r ffactor pwysicaf y tu ôl i'r newid hwn.
"Dyma'r genhedlaeth gafodd ei dysgu ar-lein... Rwy'n dychmygu, ar ôl y pandemig, bod llawer wedi dechrau gofyn cwestiynau dyfnach — fel, 'Oes mwy i fywyd na astudio, gweithio, neu fyw ar gyfer y penwythnos?"
'Y llyfr hunangymorth gorau yn y byd'
Un o'r rhai sydd wedi bod yn ystyried y cwestiynau mawr yma yw Abbie Girona-Centurión, sy'n byw ac yn astudio yng Nghaerdydd.
Ar ddechrau ei hugeiniau roedd hi'n teimlo ar goll yn ei bywyd ac roedd hi'n delio â phroblemau iechyd meddwl ac ariannol.
"Roeddwn i'n gwneud llawer o benderfyniadau gwirion iawn... Roedd rhaid i mi fenthyg arian gan fy nhad. Roeddwn i mewn cyflwr hollol ofnadwy," meddai.
Y llynedd dywed ei bod wedi clywed llais Duw am y tro cyntaf.
"Syrthiais ar fy ngliniau ac roeddwn i'n crio... Dywedais yn llythrennol, 'Duw, os wyt ti yno, mae arna i angen dy help'.
"Dyma'r tro cyntaf i mi fod o ddifrif yn gweddïo… ac roeddwn i wir yn meddwl fy mod i'n siarad â rhywun."

Mae Abbie, sy'n 23 yn astudio cyfryngau chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd
Yn ôl Abbie, fe wnaeth yr eiliad yna newid ei bywyd.
"Ar ôl y diwrnod hwnnw, dechreuodd yr holl bethau yma syrthio i'w lle," meddai.
Yn y misoedd dilynol, ymunodd Abbie â chymdeithas Gristnogol ei phrifysgol a phenderfynodd wneud newidiadau sylfaenol i'w ffordd o fyw, gan roi'r gorau i alcohol ac ymrwymo i ymatal rhywiol.
"Y Beibl yw'r llyfr hunangymorth gorau yn y byd. Dydy o ddim yn trio dwyn eich hwyl — mae'n trio eich amddiffyn rhag niwed.
"Mae pob penderfyniad rwy'n ei wneud nawr yn cael ei arwain gan Dduw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf