'Ofn i dad farw'n bell o adref yn sgil system sydd wedi torri'

Mae ymweld â'i dad, Bernard, mewn ysbyty arbenigol yn Northampton yn golygu bron i dair awr o daith o sir Wrecsam i Danny Mendoza
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o'r gogledd yn dweud ei fod yn cael ei amddifadu rhag treulio amser hollbwysig gyda'i dad oedrannus, sydd mewn ysbyty iechyd meddwl bron 140 o filltiroedd o'i gartref.
Bu'n rhaid symud Bernard Mendoza, sy'n 83 oed ac yn byw gyda dementia, o gartref gofal yn Wrecsam wedi i'w gyflwr achosi iddo ymddwyn yn ymosodol at aelodau staff a chyd-breswylwyr.
Ond roedd y gwely priodol agosaf yn Northampton.
Mae'r "system wedi torri", yn ôl ei fab, Danny, sy'n ofni i'w dad "farw yna, mor bell oddi cartref".
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro, gan ddweud eu bod eisiau cael Bernard yn nes at adref cyn gynted â phosib.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisiau i wasanaethau iechyd meddwl fod ar gael mor agos â phosib at y rheiny sydd ei angen.
'Dydy o ddim yn gwybod lle mae o'
Wrth siarad â BBC Cymru yn gynharach eleni, fe ddywedodd Danny, sy'n 54 ac yn byw yng Ngresffordd, ei fod wedi gofalu am ei dad, ar ben ei hun a heb dâl, wedi iddo gael dementia dair blynedd yn ôl.
Dywedodd bod unigrwydd y sefyllfa wedi amharu'n ddifrifol ar ei iechyd meddwl, ac fe lwyddodd i gael lle i'w dad yn y cartref gofal.
Fe ymgartrefodd yn dda yno, ac roedd Danny'n gallu mynd i'w weld bob dydd, ond mae cyflwr ei dad wedi gwaethygu yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yn dilyn sawl digwyddiad ymosodol tuag at staff a phreswylwyr, fe gytunodd Danny bod angen i'w dad fynd i ysbyty iechyd meddwl, a hynny dan orchymyn y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Cafodd wybod wedyn bod yr unig le addas ar ei gyfer yn Northampton - taith o ryw ddwy awr a 40 munud mewn car ar gost o £40, y gall Danny ond ei fforddio unwaith neu ddwywaith yr wythnos.

Mae'r sefyllfa'n destun gofid i Danny, sy'n awyddus i wneud y mwyaf o'r amser sydd ganddo ar ôl gyda'i dad oedrannus
"Mae'n warthus," meddai. "Does dim un gwely yng ngogledd Cymru, neu Gymru gyfan?
"Dydy hynny ddim yn fy helpu i, na Dad, na'r staff sy'n gofalu amdano a'i setlo. Dydi o ddim yn iawn.
"Mae'r amser sydd gen i ar ôl efo fy nhad yn werthfawr.
"Does wybod faint o amser sydd ar ôl, a dyna pam dwi angen iddo fod rywle'n agos at adre, fel y galla i dreulio pa bynnag amser sydd ar ôl efo fo.
"Mae ofn iddo farw yna, mor bell oddi cartref... mae'n fy ypsetio weithiau, ei weld wedi drysu'n llwyr.
"Dydy o ddim yn gwybod lle mae o. Mae o mewn ysbyty dieithr."
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
- Cyhoeddwyd27 Mai
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
Dywed Danny ei fod yn teimlo'n "ddi-rym" ac yn llawn "euogrwydd".
"Dwi jyst eisiau bod yna i Dad," meddai.
Mae'n deall bod angen symud ei dad i le mwy arbenigol am ei fod yn bellach yn peri risg i'w hun a phobl eraill.
Ond mae'n poeni bod sawl teulu arall ag anwyliaid yn cael gofal ymhell o'u cartrefi, gan ddweud bod yn daer angen ariannu mwy o welyau a gofal yn agosaf at adref.
"Mae ganddon ni boblogaeth sy'n heneiddio. Oni bai bod yr ariannu'n cadw i fyny â'r galw, mae'r system yn mynd i dorri'n llwyr."
Ychwanegodd bod pobl "yn haeddu mwy o barch na hynny wrth fynd yn hŷn ac yn sâl gyda dementia. Mae'n ofnadwy."
'Rhaid sortio hyn, ac yn sydyn'
Mae'r sefyllfa'n un "eithaf cyffredin", yn ôl pennaeth polisi a materion cyhoeddus elusen Carers Cymru, Rob Simkins.
"Mae'n druenus yn 2025, yn un o wledydd cyfoethocaf y byd, bod pobl yn gorfod teithio am ddwy awr a hanner i weld y bobl maen nhw'n darparu'r gofal ar eu cyfer.
"Rwy'n meddwl gallwn ni wneud yn well na hynny yng Nghymru.
"Rhaid sortio hyn, ac yn sydyn."
Ymddiheuriad gan y bwrdd iechyd
Dywedodd Teresa Owen o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei bod yn "ddrwg iawn gen i" am sefyllfa Danny a Bernard Mendoza.
"Yn anffodus, rydyn ni'n gweithio mewn system sydd dan bwysau ac weithiau does gennym ni ddim y capasiti yn ein cyfleusterau ein hunain mewn achosion cymhleth fel hyn.
"Rydyn ni mewn cyswllt parhaus gyda'r rheiny sy'n trin Mr Mendoza ac yn asesu ein capasiti ein hunain yn ddyddiol.
"Rydyn ni'n canolbwyntio ar roi'r gofal gorau iddo a'i gael yn ôl adref cyn gynted â phosib."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu £12.7m yn flynyddol i fyrddau lleol fel rhan o'u Cynllun Gweithredu Dementia.
Ychwanegodd llefarydd mai nod strategaeth y llywodraeth ydy sicrhau bod pobl yn gallu cael gofal, cefnogaeth neu driniaeth mor hawdd ac mor agos at adref â phosib.