Bron i 3,000 o rywogaethau mewn perygl yng Nghymru

Britheg FrownFfynhonnell y llun, Dom William
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Glöyn Byw y Fritheg Frown yn un o'r rhywogaethau sydd mewn perygl

  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiad newydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud bod 2,955 o rywogaethau mewn perygl yng Nghymru.

Cymru ydy'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i nodi eu rhywogaethau mwyaf prin yn seiliedig ar ba mor gyfyngedig yn ddaearyddol ydyn nhw - yn hytrach na defnyddio dulliau asesu traddodiadol.

Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r angen am weithredu ar frys i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac i adeiladu gwytnwch ecosystemau.

Mae'r astudiaeth hefyd yn datgelu bod y bron i 3,000 o rywogaethau yn bodoli mewn pum lleoliad neu lai ar draws Cymru.

Pa rywogaethau sydd mewn perygl?

  • 2,017 - infertebratau

  • 321 - cennau (lichens)

  • 309 - ffyngau

  • 155 - planhigion fasgwlaidd

  • 107 - mwsoglau a llysiau'r afu (liverworts)

  • 27 - adar

  • 7 - llysiau'r cerrig (stoneworts)

  • 6 - mamal

  • 5 - pysgod a lamprei

  • 1 - amffibiad

'Cyflwyno ffordd wahanol'

Dywedodd Mannon Lewis, rheolwr prosiectau cadwraeth natur gyda CNC: "Mae'r arbenigwyr rhywogaethau sydd gennym ni wedi dod at ei gilydd ac wedi creu'r adroddiad yma.

"'Da ni'n ymwybodol fod yna argyfwng natur a 'da ni'n ymwybodol bod ni angen 'neud mwy i warchod ein rhywogaethau.

"Be' 'da ni wedi neud ydy edrych ar y rhywogaethau prin sydd gennym ni yng Nghymru ac wedyn wedi edrych ar le maen nhw'n byw.

"Felly os ydy'r rhywogaethau yma m'ond i'w cael mewn pum safle neu lai yng Nghymru, 'da ni wedyn yn eu dosbarthu nhw fel rhywogaethau mewn perygl."

Mannon Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mannon Lewis yn dweud fod yr adroddiad newydd yn "declyn gwych" ar gyfer gwaith cadwraeth

Ers troad y mileniwm mae 11 o rywogaethau wedi diflannu yng Nghymru, gan gynnwys y Turtur a'r gwyfyn Rhisgl y Morfa.

Dywedodd Ms Lewis fod llunio'r adroddiad yn "cyflwyno ffordd wahanol" ynglŷn â'n rhywogaethau ni.

"Mae 'na frys i wneud y gwaith ac mae'r wybodaeth sydd yn yr adroddiad yma yn mynd i fod yn eithriadol o ddefnyddiol ar gyfer gwaith cadwraeth ar frys.

"Mae'n dangos lle mae'r rhywogaethau yma a pha mor brin ydyn nhw hefyd.

'Ffocysu lle mae angen gwaith ar frys'

Cymru ydy'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i nodi eu rhywogaethau prinnaf yn seiliedig ar ba mor gyfyngedig yn ddaearyddol ydyn nhw.

Ychwanegodd Ms Lewis: "Mae o'n ffordd wahanol o wneud pethau... beth mae o'n 'neud rŵan ydy ffocysu lle mae angen gwneud gwaith ar frys.

"Mae o'n declyn gwych ar gyfer pobl sy'n 'neud gwaith cadwraeth".

Mae gan Gymru gyfrifoldeb unigryw am 56 o rywogaethau, nad oes modd eu gweld yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.

Mae rhai mannau cadwraeth fel coedwig Niwbwrch yn unig yn cefnogi 130 o rywogaethau sydd mewn perygl.

Chwilen amryliw’r WyddfaFfynhonnell y llun, Alastair Hotchkiss
Disgrifiad o’r llun,

Mae chwilen amryliw'r Wyddfa, neu'r chrysolina cerealis, wedi ei chyfyngu i ardal yr Wyddfa yn unig

Dywedodd Mary Lewis, pennaeth polisi rheoli adnoddau naturiol CNC: "Mae'r adroddiad hwn yn ei gwneud hi'n glir nad ydym yn unig 'mewn perygl' o weld rhywogaethau yn diflannu yng Nghymru, mae eisoes yn digwydd.

"Fel gwlad, mae angen i ni gymryd y bygythiad o ddifrif."

Mae'r adroddiad yn awgrymu fod modd amddiffyn llawer o'r rhywogaethau sydd mewn perygl yn well drwy gamau cost-effeithiol.

Ychwanegodd Ms Lewis: "Mae'n galonogol bod modd gwneud llawer i amddiffyn y rhywogaethau hyn trwy fuddsoddi cymedrol a gwneud newidiadau cymharol fach i'r ffordd yr ydym yn rheoli ein tirweddau.

"Mae'r newidiadau yma'n aml yn ymwneud ag addasu pan fydd llystyfiant yn cael ei dorri, rheoli twf llystyfiant diangen, neu wneud yn siŵr bod y patrymau pori cywir yn eu lle.

"Mae'r adroddiad Rhywogaethau mewn Perygl yn rhoi'r fframwaith i ni wneud y newidiadau hynny."

Gobaith CNC ydy y gallai'r dull newydd yn yr adroddiad fod yn dempled i genhedloedd ledled y byd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.