Ceisio achub un o blanhigion mwyaf prin y byd yn Eryri

Llun o Heboglys Eryri sy'n edrych fel dant y llewFfynhonnell y llun, Robbie Blackhall-Miles
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond pedwar enghraifft o Heboglys Eryri rydyn ni'n gwybod amdanyn nhw sydd ar ôl yn y gwyllt

  • Cyhoeddwyd

Mae un o'r planhigion mwyaf prin yn y byd wedi blodeuo mewn meithrinfa a gafodd ei sefydlu i geisio atal dirywiad rhywogaethau Arctig-Alpaidd Cymru.

Dim ond pedwar enghraifft o Heboglys Eryri rydyn ni'n gwybod amdanyn nhw sydd ar ôl yn y gwyllt.

Y gred oedd ei fod wedi diflannu cyn i'r planhigyn gael ei ddarganfod ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn 2002.

Fe ddringodd yr ecolegydd Robbie Blackhall-Miles glogwyn yn Nyffryn Ogwen uwchben Bethesda yn 2023 i ddogfennu'r planhigion a chymryd sampl i'w hailblannu.

Bellach mae tua 50 o Heboglys Eryri wedi blodeuo mewn lleoliad cyfrinachol fel rhan o brosiect o'r enw Tlysau Mynydd Eryri, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Llun o Robbie yn wynebu clogwyn llawn blodau gwylltFfynhonnell y llun, Alex Turner
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddringodd yr ecolegydd Robbie Blackhall-Miles wyneb clogwyn i ganfod un o'r enghreifftiau olaf o Heboglys Eryri

Dywedodd Mr Blackhall-Miles fod ei waith i Plantlife Cymru, o dan fenter o'r enw Natur Am Byth, yn cynnwys y 10 rhywogaeth sydd dan y bygythiad mwyaf yn yr amgylchedd tebyg i'r Arctig ar gopaon mynyddoedd Cymru.

"Mae hon yn rhywogaeth sydd wedi bod yma'n hirach nag unrhyw un arall yng Nghymru," meddai, gan esbonio ei fod wedi goroesi o gyfnod yr oes iâ ddiwethaf.

"Wrth i'r rhewlifoedd gilio, fe wnaeth y planhigion yma gropian i lawr y mynyddoedd, a nhw oedd y pethau cyntaf yn nhirwedd newydd Cymru," meddai.

Roedd yr Heboglys a rhywogaethau eraill oedd yn ffynnu mewn amgylchedd Arctig-Alpaidd yn goroesi'n iawn ochr yn ochr â phobl i ddechrau.

Ond dechreuodd bobl bori a chloddio'r planhigion er mwyn eu gwerthu yn ystod chwilfrydedd am rywogaethau egsotig yn ystod y 19eg Ganrif.

'Cyfle i gywiro camgymeriadau'r gorffennol'

"Mae gen i'r cyfle i gywiro camgymeriadau'r gorffennol," meddai, gan ychwanegu bod Gardd Fotaneg Treborth a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru bellach yn helpu gyda'i feithrinfa.

Mae cynlluniau i blannu Heboglys yng Nghwm Idwal ar safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ble mae modd rheoli anifeiliaid sy'n pori.

Mae'r rhywogaeth yn perthyn i deulu dant y llew ac yn deillio o grŵp o blanhigion sy'n esblygu'n gyflym.

Yn ôl Mr Blackhall-Miles, mae hyn yn eu gwneud nhw'n bwysig er mwyn ein helpu i ddeall sut y bydd rhywogaethau'n ymdopi â newid hinsawdd.

Llun o'r planhigyn Heboglys Eryri mewn habwrdd duFfynhonnell y llun, Robbie Blackhall-Miles
Disgrifiad o’r llun,

Heboglys Eryri yn blodeuo mewn lleoliad cyfrinachol

Roedd hi'n anodd iawn cyrraedd y rhywogaeth, meddai Mr Blackhall-Miles.

"Ym Mhrydain, lle rydyn ni'n meddwl bod popeth yn hygyrch ac yn agored, mae yna leoedd sy'n anodd iawn eu cyrraedd a dyma un o'r lleoedd hynny.

"Mewn gwirionedd, mae 'na glogwyni yma yn Eryri ble dydyn ni ddim yn gwybod beth sy'n tyfu yno."

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio mynd yn ôl at y planhigion ar ochr y clogwyn yr haf hwn, hyd yn oed os allai ond eu gweld trwy ysbienddrych.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.