Tlodi plant: Galw am brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd

Pryd ysgolFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhoi prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd wedi cael gwared ar stigma yn achos plant o aelwydydd mwy tlawd, medd Comisiynydd Plant Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Comisiynydd Plant Cymru'n galw ar arweinwyr gwleidyddol i gynnig atebion i broblem gynyddol tlodi dwfn yng Nghymru yn ymgyrch etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.

Dywed Rocio Cifuentes bod niferoedd cynyddol o blant o fewn teuluoedd ag incwm llai na 40% yr incwm cyfatalog.

Mae hi wedi amlinellu rhestr o flaenoriaethau er mwyn lleihau tlodi plant, gan gynnwys budd-dal plant neilltuol ar gyfer yr aelwydydd mwyaf tlawd a phrydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd.

Fe gafodd targed blaenorol i ddileu tlodi plant yng Nghymru erbyn 2020 ei ollwng gan Lywodraeth Cymru yn 2016.

Yn ôl y diffiniad swyddogol, mae plentyn yn byw mewn tlodi os yw'n byw ar aelwyd ag incwm sy'n 60% o'r cyfartaledd cenedlaethol, ac yn byw mewn tlodi dwfn pan fo'r incwm yn 40% o'r cyfartaledd.

Ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd Rocio Cifuentes: "Mae'r dystiolaeth yn dangos i ni nid yn unig bod un o bob tri phlentyn yn dal yn byw mewn tlodi, sy'n ffigwr cyson dros yr ugain mlynedd diwethaf, ond mae cyfran gynyddol o blant yn profi tlodi dwfn iawn".

Golyga hynny, meddai, bod y plant yma "mor bell o'r safonau byw isafswm derbyniol nes bod eu bywydau bob dydd yn hynod anghysurus".

Mae taliad budd-dal plant neilltuol ar gyfer yr aelwydydd mwyaf tlawd eisoes wedi ei gyflwyno gan Lywodraeth Yr Alban - cynllun y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi.

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cwestiynu a oes gyda nhw'r pwerau i gyflwyno taliad o'r fath yng Nghymru.

Merch ifanc yn syllu trwy ffenest gan gadw'n gynnes dan flancedFfynhonnell y llun, Achub y Plant
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder bod nifer cynyddol o blant bellach yn byw mewn tlodi dwfn

Yn yr wythnosau diwethaf, mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi codi mater tlodi plant trwy alw ar Lywodraeth y DU i ddileu'r cap dau blentyn ar dderbyn budd-daliadau penodol.

Mae Ysgrifennydd Addysg y DU, Bridget Phillipson, sy'n ymgeisio i fod yn ddirpwy arweinydd y Blaid Lafur, hefyd wedi galw am ddileu'r cap, gan awgrymu y gallai Llywodraeth y DU wneud hynny yn y dyfodol agos.

Dywedodd Ms Cifuentes ei bod yn galw "am amrywiaeth o gamau a mesurau, gan gynnwys ehangu prydau ysgol am ddim er mwyn eu cynnig mewn ysgolion uwchradd.

Fe fyddai hynny, meddai, "yn gwneud hi'n haws i deuluoedd gael y budd-daliadau yng Nghymru y mae hawl iddyn nhw i'w cael".

Mae hi hefyd yn galw am drafnidiaeth gyhoeddus di-dâl ar gyfer plant a phobl ifanc.

Rocio Cifuentes yn siarad ar raglen Politics Wales
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rocio Cifuentes bod ei galwadau am gamau gweithredu ar sail "y dystiolaeth rwy' wedi ei chlywed gan blant a phobl ifanc" ers ei phenodiad yn Gomisiynydd Plant Cymru

"Yn 2022, fe wnaeth fy swyddfa holi dros 8,000 o blant a phobl ifanc mewn arolwg," dywedodd MS Cifuentes.

"Dywedodd bron i hanner ohonyn nhw wrtha'i eu bod yn poeni o ddydd i ddydd a oes gyda'u teuluoedd ddigon ar gyfer anghenion dyddiol, gan gynnwys digon o fwyd.

"Rydym wedi gweld buddion gwirioneddol o'r [cynllun prydau am ddim] mewn ysgolion cynradd ac mae hynny wedi cael gwared ar y stigma.

"Mae hynny'n rhan enfawr o dlodi plant na allwn ni ei anwybyddu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig