O golli aren ar y beic i gystadlu am deitl byd ar y trac

Ioan Hepburn yn Felodrom Geraint Thomas, Casnewydd
- Cyhoeddwyd
I'r rhan fwyaf o bobl, byddai colli aren yn 13 oed yn ddigwyddiad bywyd enfawr, ond mae Ioan Hepburn yn ei weld yn wahanol.
Bellach yn 17 oed, mae'r bachgen o Groesonnen, Sir Fynwy wedi bod yn beicio mynydd ers ei fod yn wyth oed.
Roedd eisiau "mynd yn gyflym drwy'r amser" pan gafodd ddamwain cyn ras gan ddinistrio un o'i arennau.
Er iddo ddychwelyd i feicio mynydd, yr wythnos yma bydd yn targedu teitl byd mewn seiclo ar y trac, ar ôl iddo gael ei recriwtio mewn sioe amaethyddol.

Roedd Ioan yn gwybod beth oedd eisiau gwneud o oedran ifanc iawn
Dechreuodd Ioan seiclo yng nghanolfan Coedwig y Ddena [Forest of Dean], yr ochr arall i'r ffin o Drefynwy.
Ond y wefr o feicio i lawr mynydd oedd ei hoff ran o'r gamp o'r cychwyn.
"Roeddwn i'n casáu dringo," meddai. "Es i'n syth i'r grŵp uwch a dysgu sut i wneud triciau yn yr awyr, tynnu llaw i ffwrdd yn yr awyr.
"Roeddwn i eisiau copïo'r hyn roedd pawb arall yn ei wneud."
'Teimlo fel llosgi yn fy nghorff'
Ond un bore Sul yn 2011, fe gafodd ddamwain a fyddai'n newid ei fywyd wrth baratoi ar gyfer ras.
Er bod Ioan yn gyfarwydd â'r llwybr gradd du - y gradd anoddaf - yr oedd arni, roedd glaw dros nos wedi effeithio ar un gornel yn arbennig. Dyna ble syrthiodd Ioan.
"Roedd pawb yn ymlacio cyn y rhediad cyntaf, ond na, roeddwn i yna eisiau mynd yn hollol gyflym."
"Roedd damweiniau'n digwydd", meddai, ond roedd yn gwybod bod hon yn wahanol.
Roedd gwaed drosto, ond yn waeth na hynny, "roedd teimlad fel llosgi yn dod o fy nghorff ac roeddwn i'n gwybod 'o dyw hyn ddim yn dda'".
"Ceisiais symud ond allwn i ddim."

Roedd Ioan yn hoffi rasio o oedran ifanc
Ar waelod y trac roedd rhieni Ioan, Jim a Nanette, wedi gweld y faner goch oedd yn golygu bod damwain ar y cwrs.
Arhosodd Nanette gyda chwaer Ioan, Bella, oedd yn cystadlu hefyd, tra rhedodd Jim i fyny at Ioan i ddisgwyl am ambiwlans.
Roedd wedi syrthio ar foncyff, ac er ei fod yn gwisgo arfwisg roedd wedi glanio ar ei ochr ac anafu aren yn ddifrifol.
Er ei fod yn fwy trist am y ffaith bu rhaid torri ei grys seiclo newydd sbon er mwyn ei drin ar frys, mae'n cytuno y byddai pethau'n fwy difrifol pe na bai'r ddamwain wedi digwydd mewn ras.
"O fewn tua 30 eiliad o orwedd mewn poen roedd meddygon. Roeddwn i ar stretsier yn cael fy nghario i fyny i ben y trac ac yna'n aros am ambiwlans."
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
Ar ôl cyrraedd Ysbyty Brenhinol Plant Bryste, dywedodd y meddygon nad oedd modd achub yr aren.
Bu yn yr ysbyty am dair wythnos, ond beth oedd yn fwy rhwystredig i Ioan oedd peidio cael mynd ar ei feic.
"Un o'r cwestiynau cyntaf a ofynnais i'r meddygon oedd 'Pryd alla i fod yn ôl ar fy meic?'"
Yn y diwedd roedd hi'n dri mis, ac ar Ddydd San Steffan 2021 fe ddychwelodd i'r un llwybr ble cafodd yr anaf.
"Dyna pwy fu Io erioed, fo a'i feic", meddai Jim. "Ac roedd peidio â gallu gwneud hynny am gyfnod yn anodd iddo.
"Ond, doedden ni ddim yn siŵr sut fyddai hi pan fyddai'n dychwelyd ar ei feic, ond yn llythrennol y daith gyntaf allan roedd o 'nôl i normal."

Ioan yn paratoi i fynd ar ei feic am y tro cyntaf ers y ddamwain
Ond daeth trobwynt nesaf ei fywyd wrth gwrdd â dwy seiclwr rhyngwladol mewn sioe amaethyddol ym Mrynbuga o bobman.
Roedd Rachel Draper a'i chwaer Ffion James yn chwilio am bobl ifanc i roi cynnig ar seiclo trac.
Roedd y ddwy, sydd wedi cynrychioli Cymru a Phrydain yn rhyngwladol, yn gofyn i bobl reidio beiciau sy'n mesur pŵer crai - yn y gobaith o ganfod yr Emma Finucane neu Geraint Thomas nesaf.
Dywedodd Rachel mai Ioan oedd uchafbwynt y diwrnod, ond ar yr un pryd yn "rhwystredig iawn bod gennym ni blentyn talentog iawn nad oedd ganddo unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn dod i lawr i'r trac".
Roedd Ioan wedi dweud mai beiciwr mynydd oedd o drwyddi draw, a bod seiclo ar y trac yn "ddiflas".
I Rachel a Ffion, roedd yn arbennig o anodd gan nad oedd llawer o dalent ifanc yn dod drwy'r system yng Nghymru ar y pryd.
"Roedd y rhaglen sbrint yn eithaf gwag ar lefel ieuenctid ac iau, sydd bob amser yn bryder wedyn o ran cael beicwyr yn y dyfodol i symud i fyny i raglenni Prydeinig."

Fel cyn-bencampwr byd seiclo'r trac, mae Rachel Draper yn gwybod beth sydd ei angen i lwyddo yn y gamp
Mis yn ddiweddarach, cafodd Ioan dro arall arni yn Ysgol Gyfun Trefynwy, pan alwodd Rachel i mewn.
Fe gafodd y canlyniadau gorau ar y beic unwaith eto - ond y tro yma roedd 'na anogaeth fawr iddo roi cynnig arni yn Felodrom Geraint Thomas yng Nghasnewydd.
Gyda'r teulu yn mynd i Gaerdydd i weld gêm rygbi a chyngerdd, llwyddodd tad Ioan i'w "lusgo" i'r trac yng Nghasnewydd.
Mae Ioan yn dal i gofio ei dro cyntaf yn y felodrom, "wrth gerdded i lawr y ramp i'r trac, roeddwn i wedi dychryn".
"Doeddwn i erioed wedi bod mewn felodrom o'r blaen. Doeddwn i erioed wedi bod yn yr amgylchedd yna. Ac roeddwn i wir yn ofnus. Dyma'r tro cyntaf i mi deimlo fel 'na mewn gwirionedd."

Enillodd Ioan fedal aur ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop gyda'i gyda-aelodau yn nhîm Prydain
Erbyn hyn mae Ioan yn teithio i Fanceinion yn gyson i ymarfer yn y Ganolfan Seiclo Cenedlaethol, gan ddilyn trywydd cewri'r gamp fel Mark Cavendish, Chris Hoy ac wrth gwrs Geraint Thomas.
Mae wedi ennill teitlau drwy Gymru a Phrydain, a fis diwethaf enillodd aur gyda thîm Prydain ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop.
Ei darged nesaf yw cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.
I Rachel Draper, bydd siwrne Ioan i gyrraedd y trac a'r anaf ddifrifol a gafodd, yn ei alluogi i oroesi'r sialensau sy'n dod nesaf.
"Mae'n dda iawn am gymryd anawsterau fel profiadau dysgu, rhywbeth sy'n anodd i berson ifanc", meddai.
"Pryd bynnag mae pethau wedi mynd o chwith iddo, mae wedi bod yn dda iawn am fod yn wrthrychol iawn, gan ei gymryd fel rhywbeth i ddysgu."
Ychwanegodd: "Peidiwch camddeall, mae'n gystadleuol iawn a bydd eisiau ennill pob ras. Ond os nad yw'n llwyddo, mae'n gwybod bod mwy i ddod yn y dyfodol."