Casnewydd: Fy ardal i

  • Cyhoeddwyd
Andrew OgunFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae'n rapiwr, sylfaenydd cangen Black Lives Matter Gwent ac yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Bellach mae'n byw yng Nghaerdydd, ond dinas Casnewydd sydd wedi siapio Andrew Ogun.

Yma mae'r cerddor 24 oed yn ein tywys ni o amgylch ei Gasnewydd o - y bobl, y lleoliadau a'r atgofion.

Parc Bellevue, Beechwood a Checker's Pizza

Disgrifiad o’r llun,

Parc Bellevue

Roedd 'na haf, ma'n rhaid mod i tua 14, 15 mlwydd oed, pan oedden ni'n mynd i le yn Pill (Pilgwenlli) o'r enw Checkers Pizza. Oedd bwyd mor rhad yno. Mewn cyfnod lle oedd rhywun yn sgint trwy'r amser a fyddai rhaid i £3-£5 wneud am gwpl o ddiwrnodau, roedd trio bwyta a mynd allan a chael hwyl yn anodd. Yn Checkers roedd pizzas naw modfedd yn bunt! Byrgyr a sglodion... punt! Wings... punt!

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw

Roedd y rhan fwyaf o fy ffrindiau yn byw yn Pill tra o'n i'n byw yn Somerton, felly fyswn i'n deffro, doedd na'm rhaid i mi hyd yn oed cysylltu efo neb, jysd deffro, cael cawod, croesi'r bont i fynd i Checkers Pizza, prynu bwyd, ac erbyn i mi fod hanner ffordd trwy'r pizza fydda 'na 10, 12, 13 o fy ffrindiau yno. A dyna sut oedd pob diwrnod yn cychwyn yr haf hwnnw.

Fe wnaeth y lle gau lawr yn sydyn tua diwedd yr haf. I unrhyw un arall fyddai'r lle jysd yn le bwyd hollol ddi-nod ar y strip yn Pill, ond i ni oedd o fel rhyw fath o Feca!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yr hogia. Andrew Ogun a'i ffrindiau pan yn iau

Ar ôl Checkers Pizza, roedden ni bob tro'n mynd syth i Bellevue Park. Yn chwarae run-outs, cael chill, reidio'n beics, cyn symud ymlaen. Beechwood Park hefyd. Roedd 'na un haf lle roedden ni'n mynd i Beechwood Park bob nos. Fyddai ganddon ni ddiodydd, fyddai 'na rhywun yn dod â speaker, ac roedden ni'n cael amser da.

Fydden ni byth yn diflasu, dim unwaith, dim ots beth.

So bob tro dwi'n dod trwy Gasnewydd ac yn mynd heibio'r parc dwi wastad yn edrych arno a meddwl "Waw, am le oedd hwn."

Ysgolion St Joseph a St Andrew

Es i Ysgol Uwchradd St Joseph, ac fe chwaraeodd yr ysgol ran fawr yn fy mhlentyndod. Dyna lle nes i gyfarfod fy ffrindiau, yr holl bobl sy'n chwarae rhan bwysig yn fy mywyd nawr... dyna lle ddaru ein taith ni gychwyn mewn gwirionedd.

O'n i'n mynd i ysgol gynradd St Andrew. Roedd hynny'n brofiad. Fyswn i'n anonest taswn i'n dweud fod tyfu fyny wedi bod yn hawdd... doedd e ddim. Ddaethon ni yma fel ceiswyr lloches oherwydd nifer o ffactorau, ac mae'r holl system honno yn rhywbeth chi'n gorfod delio gydag e, ac mae'n heriol. Ond fe ddaethon ni drwyddi.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Ogun yn un o sylfaenwyr Black Lives Matter Gwent, fu'n trefnu protestiadau yng Nghasnewydd

Mae'n ddoniol, wrth edrych yn ôl... nes i erioed werthfawrogi Casnewydd, achos do'n i ddim yn gwerthfawrogi Prydain na Chymru. Nes i ddim teimlo'n Gymreig tan o'n i'n llawer hŷn. Mae'n siŵr yn y tair blynedd diwethaf, dyna pryd nes i ddechrau cofleidio'r ffaith mod i'n Gymro ac yn falch o'r ffaith.

Felly, doedd hi ddim 'cŵl' i fod yn dod o Gasnewydd yn y cyfnod hwnnw. Ond erbyn hyn dwi fel... "Yeah, Newport man" - dyna'r sbot, dyna o le dwi'n dod.

Pan o'n i'n tyfu fyny, Casnewydd oedd brawd bach annoying Caerdydd. Yr un doedd pobl ddim yn talu fawr o sylw iddo. Dros y blynyddoedd dwi 'di gweld y lle'n trawsnewid a dechrau magu ei hunaniaeth glir ei hun.

Clwb Courtyard

Pan chi'n dechrau mynd allan i glybio, Courtyard ydi lle chi'n mynd. Blocks ydi enw'r lle erbyn nawr dwi'n meddwl. Mae pobl yn ei garu a'i gasáu, mae pobl yn lladd ar y lle achos ei fod yr un peth pob wythnos, yr un wynebau. Ond eto, mae rhai o'r nosweithiau gorau dwi erioed wedi eu cael wedi bod yn Courtyard.

Ffynhonnell y llun, Google

Yr egni yna sydd i'w deimlo pan mae pawb yn dod at ei gilydd ar nos Sadwrn, gweld y bobl chi'n nabod, y sgyrsiau chi'n eu cael. Yn enwedig pan chi yn yr oed yna pan mae pawb yn mynd i'r brifysgol, neu lawr llwybrau gyrfa wahanol... ac yna yn ystod y Nadolig, neu wythnos ddarllen y brifysgol, chi'n dod 'nôl ac mae pawb yn gweld ei gilydd unwaith eto.

Doeddwn i ddim rili'n mynd i dafarndai, ond Courtyard oedd Y lle.

Jamie Winchester a'r Play It Loud Studio

Fy arwr lleol, a wnaiff hyn byth newid tra mod i ar dir y byw, ydi Jamie Winchester. Wnes i gychwyn creu cerddoriaeth yng Nghasnewydd a dwi'n siŵr mod i wedi recordio'r rhan fwya' o fy ngherddoriaeth mewn un stiwdio yng Nghasnewydd sef Play it Loud Studio.

Dw i wedi byw yn Birmingham, Llundain, Berlin, pob math o lefydd... dw i wastad yn ffeindio fy hun nôl yng Nghasnewydd ac mae hynny diolch i Jamie Winchester.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Jamie Winchester ydy'r peiriannydd sain sy'n recordio gydag Andrew Ogun

Mae wedi gwneud gymaint i'r gymuned, cynnig amser stiwdio yn rhad (ac ar adegau yn rhad ac am ddim) i bobl, dod â phobl ifanc oddi ar y stryd a'u gosod yn y stiwdio er mwyn sianelu eu hegni i mewn i rywbeth positif.

Roedd Play it Loud Studio yn wreiddiol wedi ei leoli yng Nghanolfan Glan-yr-Afon, ond cwpl o flynyddoedd yn ôl fe symudodd o dan gampfa bocsio St Joseph. Mae hyn yn creu perthynas ddiddorol - achos mae campfa St Joseph hefyd yn bwysig yn y gymuned ac wedi gwneud pethau tebyg i Jamie yn nhermau cymryd pobl ifanc oddi ar y stryd a rhoi rhywbeth iddyn nhw ffocysu arno.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan ogun

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan ogun

Dwi'n caru cerddoriaeth, pob arddull. Mae gen i hometown gig yn dod fyny, yn Tiny Rebel Fest rhwng 1-3 o Orffennaf. Allai'm disgwyl i berfformio am y tro cyntaf yng Nghasnewydd.

Rydyn ni angen rhywbeth yng Nghasnewydd sy'n denu sylw a phobl i'r ddinas. Mae'r ffordd mae pobl yn sôn am Gasnewydd yn y gorffennol a sut roedd yn hwb cerddorol... mae cymaint o artistiaid wedi pasio drwy Gasnewydd i berfformio... rhai o artistiaid mwya'r byd.

Roedden ni arfer bod yn ddinas fel'na, felly mae i gyd am ail-gydio yn yr egni yna nawr.

Y Pill

Disgrifiad o’r llun,

Ardal Pilgwenlli, Casnewydd

Mae gan Gasnewydd deimlad cryf o gymuned. A dwi'n defnyddio'r gair cymuned yn yr ystyr ehangaf posib - mae'n dibynnu beth mae cymuned yn ei olygu i chi. I fi, fel hogyn ifanc du mewn lle fel Pill o'n i'n teimlo mor gartrefol achos bod y lle mor ddiwylliannol-amrywiol. Mae yna ryw egni yn perthyn i'r lle.

Mae fy marbwr i yno, mae fy ffrindiau'n byw yno. Mae'n le deinamig a bywiog yn ei ffordd ei hun... er bod ganddo'i wendidau, fel unrhywle arall. Mae 'na bostifrwydd yno.

Casnewydd - y da a'r drwg

Y da. Wrth i mi dyfu'n hŷn, dwi'n credu fod Casnewydd wedi cychwyn datblygu a meithrin ei hunaniaeth ei hun. A dwi'n golygu hynny yn nhermau hunaniaeth gelfyddydol hefyd. Dwi'n gweld llawer o waith da, o gelfyddyd dda, yn dod o Gasnewydd - lle o'r blaen falle doedd 'na ddim gymaint, neu yn sicr doeddwn i ddim yn ymwybodol fod yna. Falle nad oedd gen i fy mys ar y pyls. Nawr mae jysd yn teimlo fel "Waw!"

Dwi'n falch iawn o'r ffaith fod Casnewydd wedi cychwyn sefyll ar ei draed ei hun. Mae fel coming-of-age story, sut mae Casnewydd wedi gorfod ymladd ei ffordd allan o gysgod Caerdydd a Bryste.

A'r drwg? Pan gawson nhw wared â champws y brifysgol - fe gollon ni yr egni myfyrwyr 'na sy'n gallu dod å bywyd a lliw i ddinas, fel sydd gan Gaerdydd. Ry'n ni'n brin ar bethau i wneud yma yn gyffredinol - does dim gymaint â hynny i gadw pobl yn y ddinas, yn enwedig pobl ifanc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Afon Wysg yn llifo drwy ddinas Casnewydd

Hefyd, be' sy'n ddrwg ydi canfyddiad pobl o Gasnewydd. Mae'r ffordd mae pobl yn siarad am Gasnewydd, hyd yn oed pobl sy' 'di tyfu fyny yno, yn fychanol. Dwi'n meddwl fod hyn yn cyfrannu at y tueddiad 'ma i feddwl fod Casnewydd yn le negyddol, diflas a llwm, ond dydy hynny ddim o reidrwydd yn wir.

Mae Mam wastad yn dweud bod Casnewydd wedi rhoi popeth oedd hi angen mewn bywyd. Ac er fod fy anghenion hi a'i hanghenion hi ychydig bach yn wahanol, a dyna pam dwi 'di crwydro a mynd i lefydd gwahanol, dwi dal i ddod yn ôl ac yn gwerthfawrogi fod fy seiliau yn y ddinas yma.

Dwi'n meddwl am y sefyllfa gyda Black Lives Matter er enghraifft... dros 1500 yn troi allan i brotestio yn Nghasnewydd, mewn protest BLM! Pan mae'r ddinas eisiau troi fyny, a dod at ei gilydd, mae'n gallu... mae jysd angen rhyw bwynt ffocws.

Mae pobl angen deffro a gweld charm a phrydferthwch y ddinas. Mae'n ryff, ddim y lle harddaf, ond mae 'na brydferthwch yn perthyn iddi. Dwi bob amser yn cario Casnewydd yn fy nghalon.

  • Gallwch weld Andrew Ogun yn perfformio yng Ngŵyl Tiny Rebel ar 1 Gorffennaf.