Croesawu cynllun i ddatblygu ardaloedd gwyrdd ar ôl tirlithriad

Bydd y cynllun yn cynnwys plannu planhigion a llysiau a chreu ardaloedd i fyd natur ddatblygu
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun newydd wedi ei lansio yn ardal Cwmtyleri er mwyn dod â 'chydig o wyrddni yn ôl i'r ardal yn dilyn tilithriad o domen lo wedi Storm Bert.
Fel rhan o'r prosiect - sy'n cael ei ddatblygu gan elusen Cyfeillion y Ddaear - mae garddwr proffesiynol wedi ei benodi i weithio â'r gymuned.
Mae nifer o drigolion lleol wedi bod ynghlwm â'r prosiect, ac un o'r rheiny yw Rhyan Parry sy'n dweud ei fod yn braf gweld y gymuned yn dod at ei gilydd.
Dywedodd fod "bod yn rhan o'r gymuned a'r gweithgareddau wedi rhoi syniad o bwrpas newydd gwych i fi.
"Mae canolfannau fel hyn mor bwysig i gymunedau sydd wedi colli cymaint dros y blynyddoedd."

Dywedodd Dan Minty sy'n hanu o'r ardal fod yr hen byllau glo wedi "creu bwlch yma"
Un arall sy'n angerddol am y cynllun yw Dan Minty, Swyddog Cymunedol Cwmtyleri.
Ag yntau wedi'i fagu yn yr ardal, dywedodd: "Pan oeddwn i'n blentyn fe ddywedodd fy nhad-cu mai Abertyleri yw'r tir y mae amser wedi anghofio.
"Daeth y glofeydd ac ar ôl sbel caeodd y glofeydd a does dim byd wedi dod ac yn anffodus mae wedi creu bwlch yma yn yr ardal.
"Mae prosiectau fel yr un yma gyda Chyfeillion y Ddaear yn helpu ni i adnabod ein potensial ni."

Nod y prosiect yw cynnwys y gymuned wrth feddwl am syniadau ac am ardaloedd sydd angen gwaith plannu
Erbyn diwedd yr haf mae Cyfeillion y Ddaear a Banc Coop - sy'n ariannu'r prosiect - yn gobeithio y bydd chwe ardal yng Nghymru â 'garddwr côd post'.
Yn y misoedd nesaf fe fydd y prosiect yn cael ei gyflwyno i ardal Penlle'r-brain yn Abertawe, Rhyl yn Sir Ddinbych a Glynrhedynog yng Nghwm Rhondda.
Yn ôl Swyddog Gweithredu Lleol ac Ymgyrchoedd Cymunedol Cyfeillion y Ddaear Jennifer Lloyd, gobaith y garddwr proffesiynol yw dod â phobl at ei gilydd er mwyn gwneud newidiadau ar y cyd.
"Rôl y garddwr proffesiynol lleol yma yw cefnogi pobl mewn cymunedau er mwyn gwella eu llefydd nhw," meddai.
"Rydyn ni'n gwneud hyn trwy gynnal gweithgareddau i blannu blodau gwyllt a llysiau er mwyn dod â natur 'nôl i lefydd sydd wedi cael eu hanghofio."

Garddwr côd post Cwmtyleri yw Jamie Thomas
Yn ogystal â'r cyfle i adfywio natur yr ardal leol, mae gan Gyfeillion y Ddaear dystiolaeth fod y prosiect yn cael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl leol.
Yn ôl arolygon, fe welodd 90% o bobl a fynychodd ddigwyddiadau garddwr côd post welliant yn eu lles, tra bod 96% wedi dweud eu bod nhw'n teimlo mwy o gysylltiad â natur.
Wrth i'r prosiect barhau mae'r Swyddog Cymunedol, Dan Minty, yn gobeithio y gwnaiff y prosiect barhau i fynd o nerth i nerth.
"Mae e mor bwysig really ac mor hyfryd bod Cyfeillion y Ddaear wedi adnabod ni yn yr ardal yma.
"Rydyn ni'n gweithio gyda'r gymuned oherwydd y gymuned sy'n penderfynu popeth, mae'r model yma yng Nghwmtyleri fod grymuso'r gymuned leol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2024