Teyrnged i fenyw oedd ag 'awch am fywyd' wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr ddydd Sul wedi ei disgrifio fel "person oedd ag awch am fywyd".
Bu farw Nicola Webb, 50 ac o Beniel, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng ei beic modur a char ar yr A4069 rhwng Llangadog a Llanymddyfri.
Mewn datganiad, dywedodd ei theulu ei bod yn mwynhau bywyd "ym mhopeth y byddai'n ei wneud, o gerdded gyda'i chŵn neu ffrindiau, i reidio beiciau a beiciau modur".
Dywedodd y datganiad ei bod yn weithiwr gyda'r Gwasanaeth Iechyd am y rhan helaeth o'i gyrfa, a'i bod yn "ymgorffori gwasanaeth cyhoeddus".
Bu farw wrth wneud "un o'i hoff bethau, reidio ei beic modur i gyfarfod ffrindiau", meddai'r teulu.
Diolchodd ei theulu i'r rhai wnaeth geisio achub Ms Webb, gan ddweud y bydd "colled fawr ar ei hôl gan bawb oedd yn ei 'nabod a'i charu hi".
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad a ddigwyddodd am tua 10:30 ar 27 Hydref.
Dywedodd y llu mai Volkswagen du a beic modur KTM du oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un allai roi cymorth gyda'u hymchwiliad i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref