Dechrau canu'n 'help mawr' i ferch gollodd ei chwaer fach
- Cyhoeddwyd
Mae cantores ifanc wedi rhannu sut y gwnaeth dechrau canu ei helpu i ddelio gyda marwolaeth sydyn ei chwaer fach.
Bu farw chwaer Efa Dafydd, Mabli, yn sydyn yn Ebrill 2022, a hithau'n 13 oed.
Nid yw profion wedi gallu darganfod achos y farwolaeth, gan adael y teulu o Ddyffryn Conwy heb unrhyw atebion.
Ers colli Mabli, mae caneuon Cymraeg yn enwedig wedi bod yn "help mawr i'r daith galar" i Efa a'i mam oherwydd eu bod "yn gallu uniaethu â'r geiriau".
'Dweud diolch byth yn ddigon i mi'
"Dim ond blwyddyn oedd rhyngon ni ac felly wrth dyfu fyny, roedden ni'n debycach i efeilliaid," eglurodd Efa, 17, sydd wedi rhoi llawer o'i hamser ers marwolaeth Mabli i godi arian i hosbis Tŷ Gobaith.
Rhoddodd yr hosbis yn Sir Conwy le i Mabli er mwyn i'w theulu allu ffarwelio â hi wedi ei marwolaeth.
Er y golled, dywedodd Efa bod y teulu yn "ceisio edrych ar y pethau cadarnhaol".
"Roedd yn gyfnod anodd iawn ac mae'n dal yn anodd. Mae dwy ffordd o edrych ar hyn. Er nad oes esboniad, rydym yn falch na welsom hi'n dioddef salwch."
"Ar ôl marwolaeth fy chwaer, yn lle bod Mabli yn cael ei chadw yn yr ysbyty, cynigiodd hosbis Tŷ Gobaith le i ni yn ystafell Pluen Eira.
"Mi wnaethon nhw ofalu amdani rhwng y diwrnod y bu hi farw a'i hangladd, gan wneud ei gwallt yn dlws a chwarae ei hoff ganeuon, ac un ohonynt oedd Hafan Gobaith."
Y gân honno wnaeth Efa berfformio gyda'r canwr Aled Jones fel rhan o raglen Canu Gyda Fy Arwr ar S4C, a hynny yn yr ardal gerllaw Tŷ Gobaith.
Mae Aled Jones wedi bod yn un o noddwyr yr hosbis ers 20 mlynedd, a dywedodd Efa ei fod yn ysbrydoliaeth "oherwydd ei haelioni a'i garedigrwydd".
Dim ond un waith yr oedd Efa wedi canu ar ei phen ei hun o'r blaen, a dywedodd bod canu gydag Aled Jones yn "fythgofiadwy".
"Mae Tŷ Gobaith yn edrych dros Afon Conwy lle magwyd fy chwaer a minnau. Byddem yn aml yn dawnsio efo'n gilydd a chael partïon ystafell wely ond nid oedd llawer o ganu yn mynd ymlaen.
"Hi oedd yr un doniol ac mi fyddai wedi tynnu fy nghoes yn ddi-baid petai hi wedi fy ngweld i'n canu ar y teledu!"
"Roedd o'n brofiad emosiynol iawn mynd 'nôl i Tŷ Gobaith gyda'r camerâu yn ffilmio a chofio'r tro diwethaf i fi fod yno, ond roedd hefyd yn gysylltiad ro'n i'n rhannu gyda Mabli, ac rwy'n teimlo ei fod o'n rhyw fath o aduniad."
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr
I Efa, sy'n mynychu Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst, mae'r awydd i helpu Tŷ Gobaith yn parhau: "Fyddai dweud diolch byth yn ddigon i mi.
"Gwnaeth Tŷ Gobaith bopeth yn eu gallu i helpu a hyd yn oed rŵan, maen nhw'n dal i ofalu amdanom ni.
"Un o'r pethau wnaeth frifo fwyaf ar y dechrau oedd methu codi o'r gwely.
"Mae'n rhywbeth sydd wedi glynu gyda fi oherwydd erbyn hyn, yr unig bwrpas dwi'n teimlo mewn bywyd yw helpu pobl ac ro'n i wir eisiau helpu Tŷ Gobaith fel y gallwn barhau i'w chofio."
Bydd Efa'n ymddangos ar raglen Canu Gyda Fy Arwr ar S4C ar Ddydd Nadolig.