Gwario mwy ar amddiffyn yn 'gyfle gwych i Gymru' - gweinidog

Bydd y gyllideb cymorth tramor yn gostwng o 0.5% i 0.3% o gynnyrch domestig gros erbyn 2027, gyda'r DU yn gwario £13.4bn yn fwy ar amddiffyn
- Cyhoeddwyd
Gallai Cymru elwa o gynlluniau i hybu gwariant y DU ar amddiffyn, meddai gweinidog yn y Trysorlys.
Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu gwariant amddiffyn i 2.5% o incwm cenedlaethol erbyn 2027, wedi'i ariannu gan doriadau i gymorth tramor.
Wrth ymweld ag Airbus yng Nghasnewydd dywedodd Darren Jones ei fod yn "gyfle gwych i economi'r DU gan gynnwys yma yng Nghymru".
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, ei fod yn disgwyl i "gyfran" o'r arian ychwanegol gael ei wario yn y wlad.
Mae mwy na 160 o gwmnïau yn cefnogi'r sector amddiffyn yng Nghymru, gan gyflogi dros 20,000 o bobl.
Mae'r cwmnïau'n cynnwys BAE Systems, sydd â chyfleuster arfau rhyfel yn Sir Fynwy, a General Dynamics sy'n adeiladu ei gerbydau arfog AJAX ym Merthyr Tudful.

Mae Darren Jones ar daith o amgylch y DU cyn yr adolygiad o wariant
Ddydd Iau bu Mr Jones a Mr Drakeford yn ymweld ag Airbus ar gyrion Casnewydd, sy'n darparu systemau diogelwch ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn a chwmnïau preifat eraill.
Mae gweinidog y Trysorlys ar daith o amgylch y DU cyn adolygiad gwariant y Trysorlys - cyhoeddiad mawr fydd yn nodi sut mae Llywodraeth y DU yn dyrannu arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Pan ofynnwyd iddo a allai Cymru elwa o'r cyhoeddiad amddiffyn dywedodd prif ysgrifennydd y Trysorlys wrth BBC Cymru: "Gallai."
"O bosib byddwn yn gwario mwy o arian ar gwmnïau amddiffyn a thechnolegau amddiffyn, sy'n gyfle gwych i economi'r DU, gan gynnwys yma yng Nghymru."
Dywedodd y byddai "digon" o gyfleoedd i fusnesau a gweithwyr mewn cwmnïau fel Airbus.
"Mae gennym ni'r adolygiad amddiffyn strategol yn digwydd ar hyn o bryd, bydd yr adolygiad gwariant yn dod i ben ym mis Mehefin.
"Unwaith y byddwn ni wedi gwneud hynny i gyd, wedi penderfynu ar y strategaeth a'r gyllideb fe fyddwn ni'n bwrw ymlaen â gwario'r arian."
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd25 Chwefror
Dywedodd Mr Drakeford: "Mae Cymru eisoes yn gwneud cyfraniad cymesur mwy na rhannau eraill o'r DU i'n lluoedd arfog.
"Byddem yn sicr yn gallu gweld Cymru yn cael ei siâr o fuddsoddiad ychwanegol pwysig iawn."
Pan ofynnwyd iddo sut roedd yn teimlo am y toriadau i gymorth rhyngwladol i ariannu'r fyddin, ychwanegodd y cyn-brif weinidog: "Mae rhai penderfyniadau anodd iawn.
"Mae'r byd yn newid o'n cwmpas ac nid yw'n newid mewn ffordd lle mae'n hawdd gweld sut bydd y darnau i gyd yn cwympo yn y pen draw."
Mae Plaid Cymru wedi galw'r penderfyniad yn "gamgymeriad strategol", tra bod pennaeth elusen wedi dweud bod y newyddion yn "siomedig".
Daeth yr ymweliad cyn cyfarfod rhwng Darren Jones, Mark Drakeford a gweinidogion cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon.