Torri cymorth tramor yn 'newyddion mor siomedig' - Cymorth Cristnogol

Bydd y gyllideb cymorth tramor yn gostwng o 0.5% i 0.3% o gynnyrch domestig gros erbyn 2027, gyda'r DU yn gwario £13.4bn yn fwy ar amddiffyn
- Cyhoeddwyd
Mae torri gwariant y Deyrnas Unedig ar gymorth rhyngwladol er mwyn ariannu amddiffyn yn "newyddion mor siomedig", yn ôl pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru.
Dywedodd Mari McNeill bod "cymorth rhyngwladol yn ffordd mor bwysig i ni gefnogi pobl sy'n wynebu rhai o'r argyfyngau mwyaf dwys yn y byd heddiw".
Ond dywedodd y gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith, "ein bod ni mewn cyfnod digynsail" o fygythiadau Rwsiaidd i Ewrop gan gynnwys y DU.
Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer yn bwriadu cynyddu gwariant amddiffyn i 2.5% o incwm cenedlaethol erbyn 2027 drwy dorri gwariant ar gymorth rhyngwladol.
Bydd y gyllideb cymorth tramor yn gostwng o 0.5% i 0.3% o gynnyrch domestig gros erbyn 2027, gyda'r DU yn gwario £13.4bn yn fwy ar amddiffyn bob blwyddyn o 2027 ymlaen.
'Swm aruthrol'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd Mari McNeill mai "ein pryder mwyaf wrth gwrs yw'r gost dynol, mae'r toriad o 0.5% i 0.3% yn golygu tua £6bn... mae'n swm aruthrol".
"Mae'r newyddion yn siomedig," meddai.
"Pan o'dd Llafur 'di dod i rym yn San Steffan o'dd addewid i ail-osod safle y DU yn fyd eang i fod yn bartner parchus i wledydd sy'n datblygu, ac mae'r newyddion yna'n gwrth-wneud hynny."
Dywedodd Claire O'Shea ar ran elusen Hub Cymru Affrica - sy'n hyrwyddo prosiectau rhwng Cymru ac Affrica - y bydd torri cymorth rhyngwladol yn golygu na fydd y Deyrnas Unedig "yn cyfrannu at rai o'r heriau byd-eang mwyaf".
"Rydyn ni wedi bod yn bryderus ers 2021 pan ddaeth y toriad enfawr cyntaf i'r gyllideb cymorth gan lywodraeth flaenorol y DU," meddai.
"Ers hynny mae grwpiau wedi cael trafferth i barhau i wneud eu gwaith.
"Ar y pwynt hwnnw roedd llawer o waith ymchwil wedi'i wneud a ddywedodd mai menywod a merched oedd yn dioddef fwyaf o ganlyniad i doriadau cymorth felly rydym yn disgwyl gweld y patrwm hwnnw'n parhau.
"Rydyn ni'n gwybod bod y gyllideb cymorth yn cefnogi prosiectau pwysig iawn felly mae yna bryder."
Mynegodd AS Llafur o Gymru, yn siarad ar yr amod eu bod yn ddienw, bryderon hefyd.
"Tra fy mod yn deall yr angen i gydbwyso cyllidebau mae'n anodd gwylio cymorth tramor yn cael ei dorri'n sylweddol," medden nhw wrth BBC Cymru.
"Bydd torri'r achubiaeth ariannol hon yn arwain at fyd mwy anniogel gan y bydd pobl mewn argyfwng, boed trwy dlodi, erledigaeth neu ryfel, yn teimlo rheidrwydd i adael eu mamwlad i geisio bywyd gwell.
"Bydd hyn yn cynyddu nifer yr ymfudwyr ledled y byd.
"Rwy'n derbyn bod y llywodraeth wedi addo ei gynyddu eto ond nid oes gennym amserlen glir ar gyfer hyn."
'Bygythiadau'
Ond cyfeiriodd y Fonesig Nia Griffith nid yn unig at y rhyfel yn Wcráin ond hefyd at "lawer o fathau eraill o ymosodiadau".
"Cawsom yr ymosodiad ar Skripal ar ein tir ein hunain [gwenwyno Sergei Skripal yng Nghaersallog], rydym wedi cael llawer o ymosodiadau na ellir eu priodoli fel y ceblau [tanfor] yn cael eu torri, rhyfela rhyngrwyd.
"Rhaid i ni wir wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa i ddelio â'r holl fygythiadau hyn."
Dydd Mawrth, dywedodd Syr Keir Starmer nad oedd "yn benderfyniad yr oeddwn am ei wneud" ond dyletswydd gyntaf ei lywodraeth oedd "cadw'r wlad yn ddiogel".
Dywedodd mai dim ond trwy "ddewisiadau hynod anodd a phoenus" y gellir ariannu'r hwb i wariant ar amddiffyn.
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan y Ceidwadwyr, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am drafodaethau ar wario 3% o gynnyrch domestig gros (GDP) ar amddiffyn cyn gynted â phosib.
Ond mae'n "gamgymeriad strategol" meddai Liz Saville Roberts ar ran Plaid Cymru, gan fod cymorth tramor yn "atal gwrthdaro, adeiladu democratiaeth a ffrwyno gormeswyr".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd20 Chwefror