Plaid Cymru: Torri cymorth tramor yn gamgymeriad moesol

Bu milwyr byddin Prydain yn cymryd rhan mewn ymarferion hyfforddiant Nato yng Ngwlad Pwyl y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae torri gwariant Prydain ar gymorth rhyngwladol er mwyn ariannu amddiffyn yn gamgymeriad strategol, meddai Plaid Cymru.
Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu gwariant amddiffyn i 2.5% o incwm cenedlaethol erbyn 2027.
Cododd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ofnau y gallai ganiatáu i China gamu i mewn a hybu ei dylanwad byd-eang.
Dywedodd Syr Keir nad oedd "yn benderfyniad yr oeddwn am ei wneud" ond dyletswydd gyntaf ei lywodraeth oedd "cadw'r wlad yn ddiogel".
'Anodd a phoenus'
Mae'r cyhoeddiad wedi'i groesawu gan y Ceidwadwyr, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am drafodaethau ar wario 3% o gynnyrch domestig gros (GDP) ar amddiffyn cyn gynted â phosibl.
Mae'r Arlywydd Trump wedi bod yn annog gwledydd Ewropeaidd i wario mwy ar amddiffyn yng nghanol ymdrech i ddod â'r rhyfel yn Wcráin i ben.
Dywedodd Syr Keir mai dim ond trwy "ddewisiadau hynod anodd a phoenus" y gellir ariannu'r hwb i wariant ar amddiffyn.
Bydd y gyllideb cymorth tramor yn gostwng o 0.5% i 0.3% o gynnyrch domestig gros erbyn 2027, gyda'r DU yn gwario £13.4bn yn fwy ar amddiffyn bob blwyddyn o 2027 ymlaen.

Mae cymorth tramor yn "atal gwrthdaro, adeiladu democratiaeth a ffrwyno gormeswyr" meddai Liz Saville Roberts
Yn Nhŷ'r Cyffredin dywedodd Liz Saville Roberts, sy'n arwain pedwar AS Plaid Cymru yn Senedd y DU, fod ei phlaid yn sefyll yn gadarn "gyda'r angen i ddiogelu sofraniaeth Wcráin".
Gan ddwyn i gof sylwadau gan yr Ysgrifennydd Tramor David Lammy i'r Guardian y gallai toriadau'r Unol Daleithiau i gymorth tramor ganiatáu i China roi hwb i'w dylanwad, ychwanegodd yr AS: "O ystyried pwysigrwydd cymorth tramor i atal gwrthdaro, adeiladu democratiaeth a ffrwyno gormeswyr rhyfelgar - ac aralleirio ei ysgrifennydd tramor - yn sicr mae hwn hefyd yn gamgymeriad strategol a moesol enfawr?"
Atebodd Syr Keir yr oedd yn foment "lle mae'n rhaid i ni gamu i fyny".
"Byddai pawb yn y tŷ hwn yn dymuno nad dyna oedd y sefyllfa.
"Rydym wedi cael budd o'r heddwch ers blynyddoedd lawer - mae hynny wedi dod i ben.
"Ein dyletswydd gyntaf yw cadw'r wlad yn ddiogel," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024