Beirniadu'r cwricwlwm addysg newydd am 'ddiffyg hanes Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr addysg wedi beirniadu'r cwricwlwm newydd gan honni na fydd disgyblion Cymru yn cael dysgu am hanes eu gwlad.
Bu Dr Huw Griffiths yn cynghori'r llywodraeth y tro diwethaf i arholiadau TGAU hanes gael eu newid, ond dywedodd ei fod wedi'i siomi gyda’r newidiadau diweddaraf.
Daw ei sylwadau ar ôl i gorff Cymwysterau Cymru gymeradwyo cwricwlwm newydd TGAU hanes fydd yn cael ei gyflwyno o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Mae Dr Griffiths yn dweud na fydd unrhyw ysgol yn dysgu am hanes diweddar Cymru - sef yr 19eg a’r 20fed ganrif.
Dywed Llywodraeth Cymru bod hanes Cymru wedi bod yn orfodol fel rhan o’r cwricwlwm ers 2022.
'Y Natsïaid ac America - nid Cymru'
Yn ôl Dr Griffiths, uwch ddarlithydd addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae rhai o’r pynciau wedi eu dewis gan rywun ag ychydig iawn o wybodaeth o hanes Cymru.
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru, eglurodd mai dim ond un modiwl allan o bedwar sy’n edrych ar Gymru – ond bod hwnnw'n gofyn am "astudiaeth fanwl" o un cyfnod.
Dywedodd mai "edrych ar gyfnodau byr iawn yn hanes Cymru ma' fe yn hytrach na’r hyn oedden i’n gobeithio".
Eglurodd bod y cwricwlwm newydd yn rhoi rhyddid i ddewis pynciau penodol o fewn gwahanol gyfnodau o hanes.
O fewn cyfnod hanes modern, er enghraifft, gall athrawon ddewis dysgu gwrthryfeloedd a phrotestiadau yng Nghymru 1831–1891 neu Cymru rhwng 1914–1959, neu ddewis pynciau poblogaidd yn hanes Ewrop a'r byd.
“Yn y cyfnod modern galla'i dd'eud wrthoch chi nawr fydd pob ysgol yng Nghymru yn edrych ar naill ai y Natsïaid neu hanes yr Unol Daleithiau o America," meddai.
“Beth mae hynny’n golygu ydy fydd hanes modern Cymru ddim yn mynd i gael ei astudio mewn unrhyw ysgol yma yng Nghymru.
"Cyfnod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyfnod yr ugeinfed ganrif - gallwch chi anghofio am hynny yn llwyr - fydd e ddim yn cael ei ddysgu i’n pobl ifanc yn ein ysgolion ni."
Pedwar mis o'r Arglwydd Rhys yn 'lladdfa'
Roedd Dr Griffiths hefyd yn feirniadol o’r diffyg pwyslais ar hanes lleol yn y cwricwlwm.
Mae Cymru, meddai, yn dysgu llai am hanes ei gwlad o’i gymharu efo’r Alban a Gogledd Iwerddon a bod darnau enfawr o hanes Cymru yn cael eu hanwybyddu’n llwyr o dan y drefn newydd.
Tu hwnt i’r cyfnod modern, y pynciau eraill am Gymru fydd yn cael eu cynnig ydi Owain Glyndŵr, y Tuduriaid, Cymru yn y Rhyfel Cartref, a’r Arglwydd Rhys.
Dywed Dr Griffiths mai Lloegr oedd canolbwynt y Rhyfel Cartref, bod y Tuduriaid yn stori am ufudd-dod i Loegr a bod treulio pedwar mis yn dysgu Owain Glyndŵr a’r Arglwydd Rhys i ddisgyblion TGAU yn anodd.
"Mae’r Arglwydd Rhys efo stori arbennig yn ein hanes ni fel gwlad ond byddai disgyblion yn edrych arno am bedwar mis," meddai.
"Pedwar mis yn astudio’r Arglwydd Rhys - mae hynny am fod yn lladdfa i unrhyw ddisgybl, a’r unig wybodaeth fydden nhw’n gael am hanes Cymru yw am yr Arglwydd Rhys - cyfnod cymharol fyr yn ein hanes ni fel gwlad.
“Does dim byd yn y manyleb newydd am Hywel Dda, does dim byd am y ddau Llywelyn sy’n rhan annatod o’r stori o pwy y’n ni.
“Mae pob ysgol gynradd yn edrych ar gestyll… wel os chi moyn dilyn hynny drwy, pam bod gymaint o gestyll yma yng Nghymru, yna mae’n allweddol bwysig bod ni’n edrych ar y ddau Llywelyn."
Dywed Dr Griffiths ei fod wedi codi ei bryderon gyda Chymwysterau Cymru a bwrdd arholi CBAC ond na chafodd unrhyw ymateb.
Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "hanes Cymru wedi bod yn orfodol fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru ers 2022".
"Dysgir i ddysgwyr sut mae hanes, iaith, amrywiaeth a diwylliant wedi siapio Cymru i ddod yn genedl falch ac unigryw ydyw heddiw," meddai.
"Rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys haneswyr ac academyddion i ddatblygu'r Cwricwlwm i Gymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2022