Carcharu cyn-gapten RGC am droseddau cyffuriau a gyrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten clwb Rygbi Gogledd Cymru wedi cael ei garcharu am droseddau'n ymwneud â chyffuriau a gyrru'n beryglus.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Maredydd Francis, 31 oed o Wrecsam, wedi gyrru ar gyflymder o 139mya wrth geisio ffoi rhag yr heddlu ar yr M56 yn Sir Caer.
Mewn gwrandawiad blaenorol roedd wedi cyfaddef bod â chocên a chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, gwyngalchu arian, a gyrru'n beryglus.
Cafodd Francis ei ddedfrydu i bedair blynedd a phedwar mis o garchar.
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2019
Cafodd Francis ei ddedfrydu i 21 mis o garchar ym mis Mawrth 2020 am achosi niwed corfforol difrifol i heddwas.
Yn ystod yr achos diweddaraf dywedodd yr erlyniad fod oriawr Rolex a £18,000 wedi cael eu cymryd gan Francis, yn ogystal â chocên oedd â gwerth posib o £21,000.
Clywodd y gwrandawiad hefyd ei fod wedi anwybyddu golau coch a tharo cerbyd arall tra'n ceisio ffoi rhag yr heddlu, gan anafu dau o bobl oedd yn y cerbyd arall.
Dywedodd y barnwr Niclas Parry fod Francis yn "ddeliwr stryd amlwg" a bod y swm o arian a gafodd ei ddarganfod yn brawf ei fod yn droseddwr "difrifol".
"Wrth geisio dianc roeddech chi'n rhan o achos difrifol o yrru yn beryglus," meddai'r Barnwr Parry.
"Roeddech chi'n benderfynol o ddianc, ac ar un pwynt roeddech chi'n gyrru ar gyflymder o 139mya".
Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, bydd Francis yn cael ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar, a bydd rhaid iddo sefyll ei brawf eto.