'Casglu cardiau post er mwyn dishgwl nôl'

Ieuan LewisFfynhonnell y llun, Ieuan Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Ieuan Lewis

  • Cyhoeddwyd

Sgwrs gyda warden tra'n dringo yn Eryri wnaeth danio diddordeb Ieuan Lewis o Landeilo mewn casglu cardiau post.

Dyma gychwyn hobi sy' wedi arwain at gasgliad o filoedd o gardiau, gyda'r cynharaf yn dyddio yn ôl i 1870. Bu Ieuan, sydd newydd droi’n 90 oed, yn rhannu ei stori mewn sgwrs ar Bore Cothi ar BBC Radio Cymru:

Yr hadyn cyntaf

O’n i’n cerdded lan llwybr y Watcyn yn Eryri ac (wedi) cwrdd â un o’r wardeniaid a wedodd e bod ei ferch e wedi prynu carden yn yr Alban o Blas Cwm Llan. Chi’n gweld y plas ar yr ochr dde (o’r llwybr) ond mae’n dangos pobl yn byw ‘na yn y cerdyn post.

Dyna’r hadyn cyntaf yn fy feddwl i a dechreuais i brynu cardiau post fel bod fi’n gallu dishgwl nôl ar y llwybrau o’n i wedi bod yn cerdded yn Eryri.

Dechreuais i gasglu yn 1979 – yn y dechreuad dim ond casglu cardiau post o Eryri a’r llwybrau o’n i wedi bod yn cerdded fel bod fi’n gallu dishgwl nôl rhyw ddiwrnod pan o’n i ddim yn gallu cerdded ar y llefydd o’n i wedi bod yn cerdded.

O’n i ddim yn gwybod am neb yn casglu cardiau post ac o’n i ddim yn gwybod sut i fynd ambutu fe ond o’n i’n gwybod fod ‘na un menyw ym marchnad Abertawe o’r enw Olwen Patsert. O’n i’n gwybod fod hi’n gwerthu cardiau post.

Es i lawr i Abertawe i weld beth oedd ganddi hi. Welais i garden o Landeilo ac o’n i'n ffaelu credu beth o’n i’n dishgwl ar a wedes i yn y fan a’r lle, mae’n rhaid i fi gasglu cardiau post o Landeilo.

Disgrifiad o’r llun,

Un o gasgliad Ieuan o gardiau post Llandeilo

Daeth lot o gardiau post Llandeilo mas o siop dyn o’r enw Arthur Williams, Rutland House.

Yr enghraifft hynaf

Y garden post hynaf sy’ gyda fi yn y casgliad yw’r carden post cynta’ ga'th ei werthu ym Mhrydain Fawr a ga'th e ei werthu ar 1 Hydref 1870. ‘Na’r unig un dwi wedi gweld erioed sy’ wedi ei bostio yn Sir Gaerfyrddin o’r teip yna o gerdyn post ac mae yma yn y casgliad.

Disgrifiad o’r llun,

Y garden post hynaf yng nghasgliad Ieuan

Mae wedi cael ei bostio yn Llangadog ar 29 Hydref 1870. Parodd y teip ‘na o postcard dim ond chwe wythnos achos y seis ‘na, mae honno’n 88mm o uchder. Newidion nhw’r seis lawr i 74mm achos o’n nhw’n clymu’r post ‘da cordyn rownd nhw ac yn ffeindio bod y carden post yn cael ei damageo yn y post am fod y carden post yn fwy o seis na lot o’r amlenni.

Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn o 1873 yng nghasgliad Ieuan

Dim stamp

Y cardiau cyntaf ddaeth mas doedd dim hawl gyda chi roi adhesive stamp am 24 mlynedd. Yn 1894 daeth e i fodolaeth.

Blynyddoedd cynta’ o’ch chi’n gallu prynu’r cardiau post yma dim ond yn y swyddfeydd post. Ac roedd y cardiau wedi cael eu printio ac oedd stamp wedi ei brintio arni nhw gan gwmni o'r enw Dellarue.

Y diwrnod cynta’ ddaeth y cardiau post ‘ma mas ar 1 Hydref 1870 oedd y ciws yn rhai o’r swyddfeydd post mor fawr oedden nhw’n gorfod cael y police i controlo’r ciws. Doedd dim hawl gyda chi i ysgrifennu dim byd ond am y cyfeiriad oeddech chi’n hala’r garden ar ochr y stamp.

Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn post o Gastell Dinefwr

Gwerthu a phrynu

Mae lot o dealers yn gwerthu cardiau ar (wefan) eBay. Tair mlynedd yn ôl ga'th carden o Landeilo oedd yn dangos y county school ar ôl iddi gael ei losgi lawr yn 1914 ac aeth y garden post ‘na am £215 ar eBay.

Mae ‘da fi bedwar carden yn dangos yr ysgol ‘na wedi llosgi lawr a se i ‘di talu mwy na £6 am un ohoni nhw. Dyna beth sy’n digwydd ar eBay! Sut mae carden o Landeilo ‘di mynd i’r pris ‘na?

Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn post o Landeilio yn 1902

Maint y casgliad

Fi ddim wedi cowntio nhw erioed a dwi ddim moyn cowntio nhw. Mae cwpl o filoedd siŵr o fod.

Mae ‘da fi albwm gyfan o gardiau Eryri. A mae ‘da fi chwech albwm arall ar y go ac mae cannoedd ymhob albwm.

Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn yn dangos Coleg Winchester

Y blynyddoedd cynharaf o’n i arfer rwtio’r pris mas fel bod fy ngwraig ddim yn gweld faint o arian o’n i’n hala. Dwi ‘di gofyn caniatâd am un neu ddwy o’r cards – dyw e ddim yn broblem nawr! Ond blynyddoedd yn ôl oedd hi yn broblem!

Mae’n job i gofio beth sy' gyda chi achos un o’r pethau pertaf yw prynu carden sy’ gyda chi’n barod. Mae’n gallu digwydd...

Pynciau cysylltiedig