Trwsio cloch eglwys a dorrodd yn 1880
- Cyhoeddwyd
Gyda'r Nadolig yn nesáu, mae clywed clychau yn atseinio yn rhywbeth cyffredin ar hyd a lled pentrefi a threfi Cymru.
Ond ers 1880, mae cloch eglwys Llanfihangel y Creuddyn yng Ngheredigion wedi bod yn canu tiwn anarferol iawn.
Yn ystod priodas ym 1880, fe darodd rhywun y gloch gyda morthwyl sled, gan ddifrodi rhannau ohoni.
Ers hynny, mae trigolion Llanfihangel wedi arfer clywed sain wahanol yn cael ei chanu.
Bellach, mae'r gloch a gafodd ei chreu yn 1686 wedi'i thrwsio, diolch i waith caled trigolion yr ardal.
Trysorydd yr Eglwys, Rhian Davies oedd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn adrodd hanes y gloch.
“Mae tipyn o hanes i’r gloch.
"Cafodd ei neud draw yn Limerick yn 1686. Daeth e draw ar gwch i Aberystwyth ac wedyn ar gart a cheffyl i Lanfihangel.
"Fe gafodd hi ei roi ar ben y tŵr ac yna mae hi wedi bod yn hongian 50 metr i fyny’r tŵr.
"Yn 1880 roedd rhywun yn dathlu priodas ac yn teimlo nad oedd y gloch yn gwneud digon o sŵn, felly fe wnaethon nhw daro’r gloch gyda morthwyl sledge ac yn anffodus fe wnaeth dau ddarn ohono fe gwympo bant a nath y gloch byth ganu’n iawn ers hynny," meddai.
Fe dyfodd Rhian fyny yn Abermagwr ger Llanfihangel, ac mae hi wastad wedi bod yn mynychu'r eglwys. Mae ganddi gof plentyn o'r gloch yn cael ei chwarae, a sŵn anarferol iawn yn dod ohoni.
Ond, mae degawdau wedi pasio ers i'r gloch gael ei chlywed diwethaf yn yr ardal.
“Roedd y gloch yn cael ei chanu tan tua’r 1980au, ond wedyn, oherwydd cyflwr y coed oedd yn dal y gloch, doedd e ddim yn saff i’w chanu hi rhagor," meddai.
'Cynnal y Cardi'
Yn 2018 fe ddaeth criw o’r eglwys a thrigolion Llanfihangel a’r cyffiniau at ei gilydd a gwneud cais i'r Loteri Treftadaeth Genedlaethol.
Roedd dyfodol yr eglwys yn flaenllaw yn eu hymgais i geisio trin tamprwydd, a dŵr oedd yn llifo i lawr y waliau yn ystod y gaeaf.
Mi fuon nhw yn ffodus i gael grant i wneud gwaith i geisio atal y dŵr, hefyd i ail adeiladu’r grisiau oedd yn arwain i fyny’r twr.
Bu’r gloch yn eistedd yn yr Eglwys tan eleni pan gaethon nhw grant arall, sef Cynnal y Cardi.
Dyma'r grant oedd yn galluogi'r criw i anfon y gloch draw i Soundweld yn Northampton i drwsio'r darnau oedd wedi torri yn ôl at ei gilydd.
Cafodd y gloch ei chlywed am y tro cyntaf ers dros 40 mlynedd nos Wener.
Y tro hwn roedd hi'n swnio'n gywir a dyw sŵn tebyg heb atseinio dros Lanfihangel ers y diwrnod priodas hwnnw yn 1880.
Dywedodd Helen: “Mae’r gloch nawr yn ôl yn yr Eglwys ac mae’n cael ei ail hongian yr wythnos hon a byddwn yn ail ganu’r gloch nos Wener.
“Mae'n pwyso tua trydydd rhan o dunnell dwi’n meddwl ac mae hi’n mesur 35 modfedd mewn diamedr ac mae hi’n dipyn o broses ei chael hi lan a lawr."
"Roedd Merched Bro’r Mwyn a disgyblion Ysgol Llanfihangel yma'n canu ac mae croeso cynnes i bawb ddod lawr i weld a chlywed y gloch ar ei newydd wedd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd9 Mai 2024