Kurtz yn rhybuddio yn erbyn cael gwared â Badenoch

Kemi BadenochFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er iddi fod yn y swydd am lai na blwyddyn, mae cwestiynau am ddyfodol Badenoch

  • Cyhoeddwyd

Mae Ceidwadwr blaenllaw o Gymru wedi rhybuddio'i blaid rhag cael gwared â'u harweinydd Kemi Badenoch, hyd yn oed os fydd y Torïaid yn perfformio'n wael yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol Lloegr ym mis Mai.

Mae Samuel Kurtz yn cydnabod y bydd yr etholiadau'n "brawf" o arweinyddiaeth Ms Badenoch, ond dywedodd mai cael gwared â'r arweinydd yw'r peth olaf y dylai'r blaid ei ystyried ar hyn o bryd.

Er iddi fod yn y swydd am lai na blwyddyn, mae cwestiynau am ddyfodol Ms Badenoch - ond dywedodd Mr Kurtz wrth BBC Cymru ei bod hi'n haeddu "ychydig o deyrngarwch".

Pan ofynnwyd iddo a ydy dyfodol Ms Badenoch yn dibynnu ar ganlyniadau mis Mai, dywedodd: "Efallai y bydd rhai'n meddwl hynny, ond dwi'n credu mai cael gwared â'r arweinydd yw'r peth olaf y dylai fy mhlaid fod yn meddwl amdano."

Samuel Kurtz
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Samuel Kurtz fod y Ceidwadwyr wedi mynd trwy arweinwyr yn rhy sydyn yn y gorffennol

Dywedodd Mr Kurtz fod y Ceidwadwyr wedi mynd trwy arweinwyr fel "cyllell boeth trwy fenyn" yn y gorffennol - gyda phedwar arweinydd yn y tair blynedd diwethaf - gan bwysleisio nad oedd wedi helpu delwedd y blaid.

Anogodd gydweithwyr i ddangos "ychydig o deyrngarwch" i Ms Badenoch, a dywedodd ei bod yn "gwneud gwaith da iawn o ddod â phawb yn ôl at ei gilydd, o weithio'n galed a dwyn llywodraeth Lafur y DU i gyfrif".

Yn breifat, mae rhai ASau Torïaidd yn dweud bod Ms Badenoch dan bwysau cynyddol.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru'r wythnos diwethaf cyfaddefodd Ms Badenoch na fyddai'n newid ffawd y blaid "dros nos", rhywbeth y mae hi wedi'i ailadrodd yng nghynhadledd y blaid ym Manceinion.

Cyfaddefodd Mr Kurtz y byddai etholiadau Senedd Cymru yn "anodd" oherwydd bod y blaid yn dal i ddioddef yn sgil blynyddoedd diwethaf y blaid mewn llywodraeth.

Ond dywedodd ei fod yn credu bod arolygon barn diweddar yn tan-amcangyfrif lefel y gefnogaeth i'r Torïaid, gyda rhai pleidleiswyr yn rhy "swil" i gyfaddef y byddent yn pleidleisio dros y blaid.

Bydd Mr Kurtz yn ail ar restr yr ymgeiswyr Ceidwadol, y tu ôl i Paul Davies, yn etholaeth Ceredigion Penfro o dan system gynrychiolaeth gyfrannol newydd Cymru.

Dywedodd Mr Kurtz ei fod yn credu y byddai 20% o'r bleidlais yn yr etholaeth newydd yn ddigon iddo ef a Mr Davies gael eu hethol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.