Cyn-weinidog Ceidwadol eisiau sefyll dros Reform

Sarah AthertonFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Sarah Atherton adael y Blaid Geidwadol ym mis Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-weinidog Ceidwadol, Sarah Atherton, yn dweud ei bod wedi ymuno â Reform UK a'i bod eisiau sefyll dros y blaid yn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Mae hi eisiau bod yn ymgeisydd yn etholaeth newydd Fflint Wrecsam, a dywedodd wrth y BBC fod hynny oherwydd ei phryderon ynghylch "colli hunaniaeth genedlaethol a phwysau ar wasanaethau cyhoeddus".

Ychwanegodd ei bod wedi "cael digon ar y 26 mlynedd o ddirywiad yng Nghymru o dan y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru".

Mae Reform ar hyn o bryd yn y broses o benderfynu pwy fydd eu hymgeiswyr ar gyfer mis Mai nesaf.

Fe wnaeth Ms Atherton adael y Blaid Geidwadol ym mis Awst, ar ôl dweud y llynedd y dylai'r Ceidwadwyr "gofleidio" Nigel Farage a Reform.

Fe ddywedodd ar y pryd fod y Ceidwadwyr yn "analluog" ac nad oedden nhw bellach yn "cyd-fynd â'm gwerthoedd".

WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sarah Atherton oedd y Ceidwadwr cyntaf i gynrychioli etholaeth Wrecsam, ers ei chreu ym 1918

Collodd Ms Atherton sedd Wrecsam yn San Steffan i Lafur, yn etholiad cyffredinol 2024.

Bu - am gyfnod byr yn 2022 - is-ysgrifennydd gwladol dros y gweithlu amddiffyn, cyn-filwyr a theuluoedd y lluoedd arfog.

O dan drefn newydd etholiad y Senedd, bydd 16 sedd yn ethol chwe aelod yr un, gyda'r aelodau yn cael eu dewis o restrau'r pleidiau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.