Caerdydd i gynnal gêm gyntaf pencampwriaeth Euro 2028

Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gêm gyntaf Euro 2028 yn cael ei chwarae yn Stadiwm Principality ar 9 Mehefin 2028

  • Cyhoeddwyd

Caerdydd fydd yn cynnal y gêm gyntaf ym mhencampwriaeth bêl-droed Euro 2028.

Stadiwm Principality fydd cartref y gêm ar ddydd Gwener 9 Mehefin 2028.

Bydd chwe gêm yn cael eu chwarae yn y brifddinas i gyd, gan gynnwys gêm yn y rownd o 16 a rownd yr wyth olaf - yn hwyrach yn y gystadleuaeth.

Fe wnaeth UEFA gyhoeddi y byddai Cymru yn cyd-gynnal y bencampwriaeth ochr yn ochr â Lloegr, Iwerddon a'r Alban, yn ôl yn 2023.

Dywedodd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, bod y newyddion yn "anrhydedd aruthrol i Gaerdydd ac yn dyst i enw da ein dinas fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau mawr".

Cwpan Euro 2028Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd y gwledydd sy'n cynnal Euro 2028 yn derbyn lle yn awtomatig, ond bydd dau le yn cael eu cadw rhag ofn iddyn nhw beidio â llwyddo i ennill lle

Hwn fydd y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i gael ei gynnal gan wledydd y DU ac Iwerddon.

Bydd y gemau'n cael eu cynnal mewn naw stadiwm mewn wyth dinas, sydd hefyd yn cynnwys Wembley yn Llundain, Hampden Park yn Glasgow a Stadiwm Aviva yn Nulyn.

Yn ôl Huw Thomas mae'n "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth".

"Bydd yn dod â phobl at ei gilydd, yn ysbrydoli balchder, ac yn creu buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol i'n cymunedau.

"Gyda llai na 1,000 diwrnod i fynd tan i'r bencampwriaeth ddechrau, rydyn ni'n gweithio'n agos gydag UEFA a'n dinasoedd partner i helpu i gyflwyno dathliad go iawn o'r cyfan mae pobl yn ei garu am y gêm," meddai.

Gareth Bale gyda'r cwpanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Bale yn rhan o gyhoeddiad UEFA yn y Swistir ar 10 Hydref, 2023

Ychwanegodd Huw Thomas y bydd "llygaid y byd pêl-droed ar Gaerdydd", gan ddweud y bydd awyrgylch y ddinas yn drydanol ar gyfer y gemau i gyd.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr o bob cwr o Ewrop a'r tu hwnt fydd yn cael blas ar letygarwch a diwylliant gwych Cymru."

Mae asesiad annibynnol yn rhagweld y bydd Euro 2028 yn cynhyrchu hyd at £3.6bn mewn buddion economaidd-gymdeithasol rhwng y gwledydd o 2028 at 2031.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.