Miloedd yn dal heb drydan wedi Storm Darragh
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o gartrefi yn parhau heb drydan a'r gwaith clirio yn parhau ar ôl i Storm Darragh daro Cymru dros y penwythnos.
Erbyn nos Llun, dywedodd National Grid fod tua 17,000 o gartrefi yng Nghymru yn parhau heb drydan yn y de a'r gorllewin.
Dywedodd cwmni SP Energy Networks fod 4,196 o gartrefi heb drydan yng ngogledd a chanolbarth Cymru am 22:00 nos Lun.
Mae cwmnïau yn rhybuddio y gallai rhai fod heb bŵer tan ddydd Mawrth.
Roedd degau o ysgolion ar gau ddydd Llun o ganlyniad i effeithiau'r tywydd garw, a phroblemau'n parhau ar y ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Hefyd ddydd Llun, mae Dŵr Cymru wedi dweud bod gwasanaethau'n parhau i gael eu heffeithio gan faterion cyflenwad pŵer.
Fe allai hynny arwain at broblemau gyda chyflenwadau dŵr, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig, meddai'r cwmni, dolen allanol.
Un o'r rheiny sydd wedi ei effeithio yw'r cyflwynydd ffasiwn Huw 'Fash' Rees, ag yntau'n ddibynnol ar drydan er mwyn medru derbyn dialysis i helpu ei arennau.
Dywedodd fod angen gwell cynllun ar gyfer pobl sy'n dibynnu ar gyflenwadau trydan ar gyfer eu hiechyd.
Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd nad yw wedi cael trydan trwy'r penwythnos ym Mrynaman a'i fod wedi gorfod mynd i'r ysbyty nos Sul er mwyn cael profion gwaed.
'Mawr obeithio' cael y trydan yn ôl
"Pan chi ddim yn cael dialysis, mae'r toxins i gyd yn aros yn y corff," meddai.
"Ond nid just hynny. Mae'n oer yn y tŷ hefyd a phan i chi ar ddialysis neu gyda phroblemau arennau, mae'r oerfel yn beth mawr - chi wastad yn oer," meddai.
"Fi 'di bod yn gorwedd yn y gwely dros y penwythnos, dau duvet, canhwyllau just ar gyfer golau ac i drio cynhesu," meddai.
Er ei fod yn mynd i'r ysbyty fore Llun i dderbyn dialysis, dywedodd ei fod yn "mawr obeithio" y bydd y cyflenwad trydan yn dychwelyd yn fuan.
Dywedodd nad yw wedi derbyn galwad gan y bwrdd trydan yn cynnig cymorth, er ei fod ar restr blaenoriaethu am ei fod yn fregus.
"Fi'n teimlo'n lwcus iawn bod y sgil effeithiau heb fod yn fawr iawn. I fod yn onest, fi lot gwell na beth o'n i'n meddwl y byddwn i."
Dywedodd cyfarwyddwr Scottish Power Manweb eu bod yn gobeithio gallu adfer cyflenwadau pob cwsmer sydd wedi bod heb drydan ers dydd Sadwrn erbyn nos Lun.
Ond yn ôl Liam O'Sullivan, mae'n bosib y bydd nifer fach o gwsmeriaid yn gorfod aros tan ddydd Mawrth oherwydd "y difrod sylweddol sydd wedi ei achosi i'r rhwydwaith".
"Ry'n ni'n ceisio blaenoriaethu cwsmeriaid bregus cymaint a fedrwn ni. Ry' ni'n deall bod colli trydan yn gallu bod yn anodd i bawb, yn enwedig pobl fregus, a dyna pam ein bod ni wedi cyflwyno mesurau i gefnogi'r cwsmeriaid hynny tan fod y pŵer yn ôl," meddai.
"Rydyn ni wedi ceisio gwneud y mwyaf o'r holl adnoddau sydd ar gael i ni, ac wedi cydweithio gyda chwmnïau eraill o wahanol rannau o'r DU sydd heb gael eu heffeithio gymaint gan Storm Darragh."
Mae perchennog Pier Llandudno, Adam Williams yn dweud bod gwerth hyd at £100,000 o ddifrod wedi ei achosi gan y tywydd garw.
"Roedd y gwynt yn ddychrynllyd, yn feiblaidd hyd yn oed... ar un pwynt ro'n i'n meddwl y gallai'r pier i gyd ddiflannu," meddai.
"Roedden ni'n gwylio'r storm o bell ac roedd uchder y tonnau a phŵer y cyfan yn anhygoel.
"Mae'r pier yma wedi gweld miloedd o stormydd dros y degawdau a dau ryfel byd, ond hon - o bosib - oedd y gwaethaf."
Ychwanegodd fod y gwaith clirio, a'r gwaith o gyfri'r gost yn parhau: "Ry' ni wedi gwario eithaf tipyn ar fesurau i gryfhau sylfaen y pier yn ystod y flwyddyn, a dwi'n meddwl bod hynny wedi dal y cyfan at ei gilydd.
"Mae pawb yn saff, ac unrhyw beth sydd wedi malu - fedrwn ni ei drwsio.
"Heb weld yr adroddiadau yn llawn, 'dwi methu dweud yn union beth fydd y gost, ond dwi'n rhagweld costau o thua £100,000."
Mae dros 20 ysgol mewn o leiaf saith sir ar gau ddydd Llun yn sgil y difrod a gafodd ei achosi gan y tywydd garw.
Mae rhai eisoes wedi dweud na fyddant ar agor ddydd Mawrth chwaith, fel Ysgol Botwnnog, Gwynedd.
Gwiriwch pa ysgolion sydd ar gau yn eich ardal chi:
Does dim rhybuddion tywydd mewn grym gan y Swyddfa Dywydd bellach, ond mae ambell rybudd llifogydd yn dal mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.
Gyda'r gwyntoedd dros y penwythnos wedi codi dros 90mya mewn mannau, cafodd cyflenwadau trydan eu heffeithio ar hyd y wlad.
Roedd tua 100,000 o gartrefi a busnesau heb drydan ddydd Sadwrn, gyda digwyddiad difrifol yn cael ei gyhoeddi yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys.
Roedd nifer o ffyrdd ar gau dros y penwythnos, ac mae rhai lonydd yn parhau ynghau, dolen allanol ar draws y wlad wrth i'r gwaith o glirio'r difrod barhau.
Mae trafferthion yn parhau ar y rheilffordd hefyd, gyda chwmni Trafnidiaeth Cymru yn galw ar bobl i wirio amserlenni cyn teithio.
Dyw gwasanaethau rhwng y llefydd canlynol ddim yn rhedeg fore Llun:
Caergybi a Chaer
Caerfyrddin a Doc Penfro
Caerfyrddin a Harbwr Abergwaun
Caerfyrddin ac Aberdaugleddau
Llandudno a Blaenau Ffestiniog
Mae 'na ddifrod hefyd i Borthladd Caergybi, gyda dim byd yn cyrraedd na gadael y porthladd am y tro.
Bydd y porthladd ar gau tan o leiaf 18:00 nos Fawrth.
Mwy o goed wedi disgyn mewn noson na 20 mlynedd
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod mwy o goed wedi disgyn mewn un noson dros y penwythnos na mewn 20 mlynedd yn arferol.
Dywedon nhw eu bod wedi derbyn 300 o alwadau dros y penwythnos yn sgil effaith y storm, gydag adroddiadau o dros 189 o goed wedi eu heffeithio ar draws y ddinas.
Mae 111 o'r coed yna wedi eu sefydlogi bellach, gyda 78 o goed yn weddill mewn parciau sydd ddim yn peryglu'r cyhoedd.
Dywedon nhw y bydd timau'n parhau i weithio er mwyn cael gwared â'r coed sydd wedi disgyn.
Bu'n rhaid i un cwpl o ogledd Cymru ohirio eu priodas oherwydd y tywydd garw.
Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Elan Hughes o Benrhyndeudraeth ei bod wedi cael galwad gan y cofrestrydd i ddweud nad oedd modd iddyn nhw briodi ddydd Sadwrn oherwydd y storm.
Fe wnaeth y ddau benderfynu priodi yn ddistaw ddydd Gwener, a hynny heb fawr o amser i baratoi.
Dywedodd fod gorfod gohirio'r briodas yn "siom fawr", ond eu bod bellach wedi trefnu dyddiad arall i ddathlu gyda theulu a ffrindiau.
A hithau wedi gorfod ffonio ei gŵr, a oedd dal yn gweithio brynhawn Gwener, i ddweud am y newid, dywedodd mai dim ond "awr oedd gyda ni i gael ein hunain yn barod" gan ddweud "o'n i ddim yn gwisgo make up, roedd gwallt fi'n ofnadwy".
Ond dywedodd ei bod hi "mor falch bo' ni wedi 'neud y penderfyniad i briodi ar y dydd Gwener".
Mae'r storm hefyd wedi cael effaith ar fusnesau ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd Nils Kirk, perchennog tarfan The Ancient Briton ym Mhencae ger Ystradgynlais, fod y busnes wedi colli o leiaf £15,000 ers iddyn nhw golli cyflenwad trydan ddydd Sadwrn.
"Roedd 'na lawer o bobl wedi bwcio ar gyfer cinio a phartïon Nadolig, ac fe gollon ni'r pŵer i gyd," meddai.
"Roedd 150 wedi bwcio ar gyfer dydd Sadwrn a 130 ar ddydd Sul. Ro'n ni'n llawn dop."
Dywedodd fod 'na ystafelloedd aros yn rhan o'r dafarn ond bod pobl wedi gadael rheiny hefyd oherwydd y diffyg trydan.
"Mae wedi bod yn anodd," ychwanegodd.
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2024
Yn y cyfamser, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau ar gau ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran y llyfrgell: "Mae cyflenwad trydan ardal Aberystwyth yn parhau i fod yn ansefydlog yn dilyn Storm Darragh.
"Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd bydd y Llyfrgell ar gau ddydd Llun 9 Rhagfyr.
"Rydym yn disgwyl y byddwn ar agor fel arfer ddydd Mawrth."