Caerffili: Cadarnle Llafur ers 1918, ond pethau'n 'wahanol' y tro hwn

Mae'r bleidlais yma'n "wahanol iawn" i etholiadau arferol Caerffili, yn ôl Ann Lewis
- Cyhoeddwyd
Mae sawl etholiad wedi bod ers i Ann Lewis symud i Gaerffili i fyw 40 mlynedd yn ôl, ond yr un canlyniad sydd wedi bod yma bob tro.
"Ym mhob un mae hi wedi bod yn gwbl glir o'r dechre' bod y blaid Lafur yn mynd i ennill - doedd dim gwerth aros lan i wrando ar ganlyniadau," meddai.
"Ond mae'r etholiad yma yn wahanol iawn, yn ddiddorol iawn, achos fe allai fynd i fwy nag un cyfeiriad."
Daeth Ann i gwrdd â fi y tu allan i fynedfa Castell Caerffili - castell mwyaf Cymru ac un o gaerau mwyaf diogel y blaid Lafur.
Llafur sydd wedi mynd â hi yma ym mhob etholiad i San Steffan ers sefydlu'r etholaeth yn 1918, a phob etholiad i Fae Caerdydd ers y cyntaf yn 1999.
Ac yn wir, yn yr etholiad diwethaf i'r Senedd yn 2021 fe enillodd yr aelod Llafur Hefin David gyda'r mwyafrif mwyaf yng Nghaerffili ers dechrau datganoli.
Ond yn dilyn marwolaeth sydyn Mr David fis diwethaf, ydy'r hanes hir yna o lwyddiant ar fin dod i ben?

Mae etholaeth Caerffili wedi bod yn gadarnle i'r Blaid Lafur ym mhob etholiad cyffredinol ers 1918
Gyda'r arolygon barn diweddar - yng Nghymru a thrwy Brydain - yn awgrymu bod Llafur o dan warchae mae Plaid Cymru a Reform yn gweld cyfle euraidd i brofi pwynt pan ddaw'r is-etholiad ar 23 Hydref.
Does ryfedd felly bod yr ymgyrchu yng Nghaerffili wedi bod yn "bur wahanol i'r arfer", yn ôl Ann Lewis, gyda "ffigurau mawr" wedi bod yn curo ar ddrysau.
Cysylltwch â ni
Dy Lais, Dy Bleidlais
Ond, beth sy'n poeni pobl yr etholaeth?
O gaffi Rosita's yng nghanol tref Caerffili, mae golygfa wych o'r castell sy'n denu ymwelwyr o bob cwr.
Mae'r rheolwr, Alan Parry Tomos, wedi croesawu twristiaid o Shanghai, Los Angeles a'r Caribî yn ddiweddar.

Mae tref Caerffili "ar i fyny", medd Alan Parry Tomos, ond mae'n awyddus i weld gwelliannau i systemau trafnidiaeth lleol
Mae'r dref "ar i fyny", yn ôl Alan, gyda nifer o fwytai a bariau newydd wedi agor a gwaith cynnal a chadw ar y castell hefyd wedi ei gwblhau.
Ond fel un sy'n teithio i Gaerffili o Gaerdydd bob dydd, mae e am weld gwelliannau i'r cysylltiadau trafnidiaeth.
"Mae'r trên yn ideal - mae'n cymryd chwarter awr o ganol Caerdydd i ddod yma.
"Ond wedyn ar lot o'r amseroedd maen nhw'n rhoi bws yn lle trên achos bod yna broblem efo'r lein felly tasa nhw'n gallu sortio hwnna ella fasa lot mwy o fusnes a pobl yn gweld hi'n haws dod i fewn i Gaerffili."

Mae costau byw ymhlith pynciau llosg yr ymgyrchu i ethol AS newydd, medd Aneurin Minton
Yn ôl Sion Dafydd, myfyriwr o bentref Nelson, mae pobl eisiau gweld trafnidiaeth a iechyd "yn gweithio".
"Mae teimlad o austerity parhaol yn y gymuned..." meddai, "ac mae teimlad o ddirywiad yn y gymuned."
Costau byw, llwybrau bysys a dyfodol y llyfrgelloedd lleol yw'r prif pynciau llosg, yn ôl Aneurin Minton o Benpedairheol, sy'n cydnabod bod mewnfudo hefyd yn destun pryder i rai.
"Mae pobl just yn teimlo wedi blino," meddai.
Yn debyg i dŵr enwog y castell felly, ydy etholwyr Caerffili'n gwyro i gyfeiriad arall?
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 Hydref
- Cyhoeddwyd1 Hydref