Bachgen 'wedi'i fethu' gan y system cyn i'w nain a'i daid ei ladd - modryb

Cafodd Ethan Ives-Griffiths ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref ei nain a'i daid ar Lannau Dyfrdwy yn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae modryb bachgen a gafodd ei lofruddio gan rieni ei fam yn dweud iddo gael ei "fethu" gan y gwasanaethau cymdeithasol, a'i bod yn credu y dylai gweithwyr cymdeithasol fod wedi cadw golwg fwy manwl ar ei les.
Cafodd Ethan Ives-Griffiths, dwy oed, ei lofruddio gan ei daid a'i nain, Michael a Kerry Ives yn eu cartref yn Garden City, Sir y Fflint. Roedd y bachgen ar gofrestr amddiffyn plant y cyngor sir ar y pryd.
Cafwyd ei fam, Shannon Ives, 28, yn euog o achosi neu o ganiatáu ei farwolaeth, ac o greulondeb i blentyn.
Clywodd yr achos yn erbyn y tri nad oedd gweithwyr cymdeithasol wedi gallu sicrhau mynediad i'r cartref ar adegau, a bod apwyntiadau meddygol Ethan yn cael eu canslo'n rheolaidd.
Mewn deiseb arlein, sydd â dros 34,000 o lofnodion, dywedodd ei fodryb Becky Shone fod Ethan wedi ei "adael i lawr gan system nad oedd wedi'i greu i ymateb pan fo mynediad yn cael ei wrthod i gartref neu pan mae plentyn mewn perygl y tu ôl i ddrysau caeedig".
Dywedodd cyngor Sir y Fflint eu bod yn cydweithio gyda'r adolygiad annibynnol gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
Dywedodd Becky Shone wrth BBC Cymru: "Dylai rhywun fod wedi cael golwg arno bob 10 diwrnod. Ond wnaeth hynny ddim digwydd, a dyna le cafodd ei fethu."
Cafwyd Michael Ives, 47, a'i wraig Kerry, 46, yn euog o lofruddiaeth Ethan ym mis Gorffennaf, yn ogystal ag achosi neu ganiatáu ei farwolaeth, ac o greulondeb i blentyn.
Bu farw Ethan ym mis Awst 2021 ar ôl dioddef anaf trychinebus i'r ymennydd.
Honnodd yr erlyniad iddo gael ei achosi gan un ai ei nain, ei daid, neu'r ddau ohonynt.
Yn ystod y saith wythnos y bu'n byw gyda nhw, roedd Ethan wedi dioddef o ddiffyg maeth difrifol, diffyg dŵr, ac roedd ganddo fwy na 40 o anafiadau ar ei gorff pan fu farw.
Cafodd Ethan ei roi ar y gofrestr amddiffyn plant ar ôl i'w fam Shannon, a'i dad Will Griffiths, wahanu ym mis Mehefin 2021.
Aeth y bachgen ifanc, ei frodyr a'i chwiorydd, a'i fam i fyw gyda Michael a Kerry Ives.

Cafwyd Kerry Ives (chw), Shannon Ives a Michael Ives yn euog yn dilyn achos pum wythnos o hyd yn Llys y Goron yr Wyddgrug
Clywodd yr achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug y dylai Ethan fod wedi cael ei weld bob 10 diwrnod oherwydd ei fod ar y gofrestr plant.
Fodd bynnag, y tro diwethaf iddo gael ei weld gan weithiwr cymdeithasol oedd 22 Gorffennaf, 2021 – dros dair wythnos cyn ei farwolaeth ar 16 Awst.
Roedd gweithwyr cymdeithasol ac ymwelwyr iechyd wedi ceisio sawl tro i weld Ethan, ond ar bob achlysur fe gafon nhw eu gwrthod gan y teulu.
Yn ystod un ymweliad, ar 5 Awst, arhosodd gweithiwr cymdeithasol ar stepen ddrws y teulu am tua 45 munud oherwydd cyfyngiadau Covid, ond ni welodd Ethan o gwbl achos fod Shannon Ives yn mynnu fod ei phlentyn yn cysgu.
Doedd dim ateb pan geisiodd gweithiwr cymdeithasol ac ymwelydd iechyd ymweld â Shannon Ives eto ar 12 Awst.
Ni ymatebodd chwaith i alwad y diwrnod canlynol.
Mae canllawiau cenedlaethol yn dweud y dylai plant sydd ar gofrestr amddiffyn gael eu gweld ar eu pen eu hunain bob 10 diwrnod gan weithiwr cymdeithasol, ac yn y cartref o leiaf bob pedair wythnos.

Mae Becky Shone yn galw am ddeddf newydd yn enw Ethan, er mwyn dal gweithwyr cymdeithasol yn "gyfrifol am fethu â dilyn protocol"
Oherwydd yr hyn ddigwyddodd i Ethan, mae ei fodryb wedi creu deiseb arlein yn galw am gyfeirio achosion "at sylw'r heddlu yn awtomatig i wirio lles y plentyn" os nad yw gweithwyr cymdeithasol yn medru cael mynediad i gartref plentyn ar gofrestr diogelwch.
Os nad yw gweithwyr cymdeithasol yn codi achosion fel un Ethan, mae Ms Shone yn credu y dylai Deddf Ethan, fel mae'n ei galw, ddal gweithwyr cymdeithasol yn "gyfrifol am fethu â dilyn protocol, yn enwedig pan fydd plentyn eisoes ar y gofrestr diogelwch".
Dywedodd Ms Shone: "Y funud y gwnaethon nhw golli'r 10 diwrnod yna, roedd pob diwrnod ar ôl hynny yn gyfle iddyn nhw i godi'r mater yn uwch, i rywun ymweld ag o. Ond wnaethon nhw ddim."
"Fel person, byddech chi'n mynd yn ôl ac yn sicrhau bod y plentyn hwnnw yn ddiogel. Byddech chi'n mynd at yr heddlu ac yn cael nhw i ymweld, i sicrhau bod pob dim yn iawn.
"Chi'n sôn am blentyn diniwed dwy oed wedi'i adael gyda thri oedolyn oedd fod i ofalu amdano a'i drysori. Fe wnaethon nhw'r gwrthwyneb, a rŵan edrychwch ble mae o."

Roedd lluniau teulu o Ethan cyn iddo symud at ei nain a'i daid yn dangos ei fod yn blentyn cymharol iach a hapus
Mae hi hefyd eisiau i blant ar y gofrestr diogelwch gael eu gwirio'n amlach nag unwaith bob 10 diwrnod.
"Dwi am weld bod y dyddiau rhwng ymweliadau yn cael eu lleihau i bump neu i saith diwrnod, ac os na chaiff y protocol ei ddilyn oherwydd nad yw'r adolygiadau wedi'u gwneud, yna mae angen bod pobl yn atebol," ychwanegodd.
Dywedodd Dylan Rhys Jones, cyn-gyfreithiwr a sylwebydd ar y gyfraith, fod protocolau awdurdodau lleol yn ganllawiau sydd ddim wedi'u cadarnhau mewn cyfraith, ac "o ganlyniad i hynny mae yna sefyllfaoedd, fel yr un yma, lle mae yna fethiannau'n gallu digwydd".
Galwodd ar yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol i adolygu polisïau i geisio atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
"Bu farw Ethan mewn ffordd drasig," meddai.
"Rhaid gofyn cwestiynau am y protocol yn Sir y Fflint ac yn ehangach o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru ac a yw'r rheiny'n addas, ac a ydynt yn addas yn yr oes hon, ac a ydynt yn gweithio ac yn ymarferol."

Bu farw Ethan Ives-Griffiths saith wythnos ar ôl symud i gartref ei nain a'i daid
Dywedodd fod yna "gwestiynau ynghylch yr adnoddau sydd gan yr awdurdodau lleol, y diffyg adnoddau, y diffyg swyddogion sy'n gweithio o fewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol".
"A yw'n bosibl iddynt allu delio â llwyth achosion sylweddol lle mae goblygiadau difrifol iawn wrth golli ychydig ddyddiau o ymweliadau, colli diwrnodau adrodd, colli cyfleoedd i weld plentyn...
"Dwi'n credu bod yn rhaid gofyn cwestiynau am y prosesau hynny a sut y gellir eu gwella nhw."

Mae Dylan Rhys Jones yn cwestiynu a yw'r adnoddau gan awdurdodau lleol i ddelio gydag achosion fel un Ethan Ives-Griffiths
Dywedodd David Niven, arbenigwr amddiffyn plant a chyflwynydd podlediad The Social World Podcast, fod "straen enfawr" ar weithwyr proffesiynol yn ystod cyfnod Covid.
Ond dywedodd "os cafodd y gweithiwr cymdeithasol eu gwrthod rhag cael mynediad... a rhywun arall yn dweud nad oedd ateb ar un achlysur chwaith, dylai hynny fod wedi codi cwestiynau, beth bynnag fo'r amgylchiadau".
Ychwanegodd: "Nid oes gan weithwyr cymdeithasol unrhyw bŵer o gwbl i fynd i mewn i gartref rhywun heb ganiatâd.
"Yr unig bobl all wneud hynny yw'r heddlu, a dim ond o dan rai amgylchiadau.
"Mae gweithwyr cymdeithasol yno a dylent fod wedi trosglwyddo hynny i'r heddlu pe bai'r lefel yna o bryder am y plentyn ar y diwrnod hwnnw.
"Dydw i ddim yn siŵr a fyddai'r gweithwyr cymdeithasol eisiau'r pwerau ychwanegol."
Fe wnaeth Mr Niven annog bobl i "gofio, mai ei nain a'i daid a laddodd y plentyn," gan ychwanegu: "Os oedd methiannau proffesiynol, gadewch iddynt gael eu delio'n iawn.
"Ond ar yr un pryd... cofiwch fod diogelu yn fater cymunedol."
Cyngor yn 'cydweithredu â'r adolygiad'
Dywedodd Cyngor Sir y Fflint fod marwolaeth Ethan wedi "syfrdanu a dychryn cymuned y sir" a bod eu "meddyliau'n parhau gyda phawb a garodd ac a gefnogodd Ethan yn ystod ei oes fer".
Ychwanegodd: "Yn unol â'n penderfyniad i amddiffyn y rhai sydd fwyaf ein hangen, mae Cyngor Sir y Fflint yn cydweithredu â'r adolygiad ymarfer plant annibynnol gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru, sy'n arwain adolygiad aml-asiantaeth o'r achos trasig hwn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ein meddyliau gyda phawb a oedd yn caru Ethan. Mae Adolygiad Ymarfer Plant yn cael ei gynnal a fydd yn archwilio gweithredoedd yr holl asiantaethau.
"Byddwn yn ystyried yn ofalus y gwersi a nodwyd gan yr adolygiad ac yn sicrhau bod hyn yn cael ei symud yn ei flaen."
Bydd Michael a Kerry Ives, sy'n wreiddiol o Wolverhampton, yn cael eu dedfrydu gyda'u merch Shannon ar 3 Hydref.