Pwy oedd y seren snwcer, Agnes Davies?

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Agnes a Terry GriffithsFfynhonnell y llun, Eiddon Davies
Disgrifiad o’r llun,

Agnes a'r pencampwr snwcer Cymreig, Terry Griffiths - roedd Agnes yn ffrindiau gyda nifer o chwaraewyr enwog

Chwaraewr snwcer o Rydaman yw'r ddynes ddiweddaraf i dderbyn plac porffor.

Dyma yw'r 20fed plac sydd wedi ei osod ar draws Cymru i gofio am, ac i ddathlu merched arbennig.

Roedd Agnes Davies wedi dechrau chwarae snwcer yn 15 oed, yn neuadd biliards ei thad ym mhentref Saron ger Rhydaman. Yn yr amser yma, doedd dim llawer o groeso i ferched mewn nifer o neuaddau snwcer, ac yn aml, hi oedd yr unig ferch oedd yn chwarae yn yr ardal.

Yn 1937 pan oedd hi ddim ond 17 oed, daeth hi'n Bencampwraig Amatur Menywod Cymru – heb golli ffrâm. Enillodd y teitl y ddwy flynedd nesaf hefyd.

Dechreuodd chwarae'n broffesiynol yn 1940, gan ennill Pencampwriaeth Snwcer Proffesiynol Menywod Prydain yn Leicester Square, Llundain yn 1949.

Agnes yn ennill cwpanFfynhonnell y llun, Eiddon Davies
Disgrifiad o’r llun,

Agnes (trydydd o'r chwith) yn ennill ei gwobr ar ôl ennill Pencampwriaeth Snwcer Proffesiynol Menywod Prydain yn Leicester Square yn 1949

Cymerodd saib am 30 mlynedd, cyn ailgydio yn y ciw snwcer yn yr 1970au. Erbyn hynny, roedd hi yn ei 50au.

Enillodd deitl snwcer Cymdeithas Biliards y Merched yn 1978 a chyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Agored y Byd i Ferched yn 1980.

Cariodd ymlaen i chwarae yn gystadleuol, ac yn 1985, cafodd ei hethol yn llywydd Cymdeithas Biliards a Snwcer Menywod y Byd.

Roedd Agnes yn credu fod chwarae snwcer wedi ei helpu ar ôl i'w gŵr, Dick, farw yn 1996, ac yn weithgaredd da i'w wneud i symud y corff a'r meddwl.

Hi oedd un o'r chwaraewyr hynaf ym Mhencampwriaeth Menywod y Byd Embassy yn 1998, pan oedd hi'n 77 oed.

Agnes DaviesFfynhonnell y llun, Eiddon Davies

Mae ei mab, Eiddon Davies, yn cofio chwarae snwcer gyda hi ers iddo fod yn blentyn bach, a doedd hi byth yn gadael iddo ennill, hyd yn oed pan oedd Eiddon yn ifanc, meddai:

"Wnes i erioed ei churo hi nes iddi fod yn ei 80au. Doedd hi ddim yn hoffi colli hyd yn oed bryd hynny. Byddai'n dweud, 'Tria di chwarae gyda cataract ar dy lygaid'."

Cariodd Agnes ymlaen i chwarae yn ardal Rhydaman nes ei bod yn 82 oed, a bu farw yn 90 oed yn 2011.

Roedd Agnes wedi chwarae snwcer yn rhyngwladol dros Gymru am dros 60 o flynyddoedd. Mae'r plac porffor yn cael ei ddadorchuddio yn Neuadd Les Saron, er cof am ei chyfraniad arbennig i'r gamp.

Geirfa

enwog / famous

chwaraewr / player

diweddaraf / latest

derbyn / receive

plac / plaque

gosod / place

dathlu / celebrate

nifer / many

yn aml / often

pencampwraig / champion (female)

pencampwriaeth / championship

chwith / left

cymryd / take

saib / time off

ailgydio / take up again

ciw snwcer / snooker cue

rownd derfynol / final

agored / open

cystadleuol / competitively

ethol / elected

llywydd / president

gweithgaredd / activity

corff a'r meddwl / body and mind

hynaf / oldest

gadael / leave

curo / beat

colli / lose

bryd hynny / at that time

dadorchuddio / unveil

er cof / in remembrance

cyfraniad / contibution

camp / sport

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.