Meddylfryd Llywodraeth Cymru tuag at y Gymraeg yn newid - Drakeford

Mae gwneud "pethau bach" yn Gymraeg yn medru "normaleiddio defnydd" o'r iaith meddai Mark Drakeford
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru "ar daith" i newid meddylfryd tuag at y Gymraeg yn fewnol, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.
Dywedodd Mark Drakeford "os ydyn ni eisiau creu gwlad ddwyieithog... bydd yn rhaid i ni ddangos ein bod ni'n ei wneud e'n fewnol hefyd".
Mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth 'Cymraeg: Mae'n perthyn i ni i gyd' - sy'n anelu at eu gwneud yn "sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2050".
Mae hynny'n cyd-fynd â'r weledigaeth, erbyn 2050, i weld miliwn o siaradwyr yn defnyddio'r iaith a dyblu'r ganran o bobl yng Nghymru sy'n siarad ac yn defnyddio'r iaith bob dydd.
Dywedodd mudiad Dyfodol i'r Iaith mai cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle yw "un o'r heriau mawr i bob corff cyhoeddus yng Nghymru".
'Normaleiddio defnydd o'r iaith'
Mae gwneud "pethau bach" yn Gymraeg yn medru "normaleiddio defnydd" o'r iaith meddai Mark Drakeford, ochr yn ochr â phethau mwy sylweddol.
Rhoddodd yr enghraifft o rywbeth "bach" o'i gyfnod fel prif weinidog, pan ddechreuodd "gyflwyno popeth yn Gymraeg" yng nghyfarfodydd Cabinet y llywodraeth.
Mae'r arferiad hwnnw wedi parhau dan arweiniad y prif weinidog presennol, Eluned Morgan hefyd, meddai.

Roedd Alun Davies yn Weinidog dros Addysg Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg yn 2016-2017
Dywedodd cyn-weinidog y Gymraeg, Alun Davies, ym mhwyllgor diwylliant y Senedd fis diwethaf, iddo ef greu strategaeth oedd am "ddau beth yn y bôn".
"Roedd hi'n ymwneud â newid meddylfryd y Cymry Cymraeg a Chymru fel gwlad am y Gymraeg, a lle'r Gymraeg yn ein cenedl ni," meddai.
"Ond hefyd roedd hi'n canolbwyntio ar newid y llywodraeth a sut mae'r llywodraeth yn trin y Gymraeg, a gosod lle gwahanol iddi, os 'dych chi'n licio, yn y llywodraeth."
Gofynnodd i Ysgrifennydd y Gymraeg ydy hynny "wedi digwydd neu yn digwydd, bod y llywodraeth ei hun yn newid eu mindset tuag at y Gymraeg?"
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
"Dwi'n meddwl bod hynny yn digwydd. Mae lot o bethau eraill i'w gwneud, ond ry'n ni ar y daith yna," atebodd Mr Drakeford.
"Ry'ch chi'n gallu gweld hwnna mewn pethau bach ac mewn rhai pethau sy'n fwy na hynny.
"Un enghraifft am bethau bach: pan oeddwn i'n brif weinidog, roeddwn i yn creu'r sefyllfa ble roeddem ni'n rhedeg y Cabinet trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg."
Dywedodd fod "hwnna jest yn rhywbeth i'w drio, i normaleiddio defnydd o'r Gymraeg ym mhopeth ry'n ni'n ei wneud fel llywodraeth."
"Os ydyn ni eisiau creu gwlad ddwyieithog, lle mae pobl yn gallu defnyddio'r Gymraeg bob dydd, bydd rhaid i ni ddangos ein bod ni'n ei wneud e'n fewnol hefyd."

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu prosiect newid ymddygiad 'ARFer' ym Mhrifysgol Bangor
Dywedodd prif weithredwr Dyfodol i'r Iaith, Dylan Bryn Roberts, wrth y BBC fod "polisi'r llywodraeth o sicrhau bod yr holl staff yn 'gallu deall Cymraeg o leiaf' i'w ganmol, a'r nod o gael mwy o staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
"Dyma un o'r heriau mawr i bob corff cyhoeddus yng Nghymru – sut i ddefnyddio rhagor o'r Gymraeg yn y gweithle, fel bod pob siaradwr Cymraeg yn gallu defnyddio'r iaith yn ddirwystr."
Mae gan Lywodraeth Cymru tua 5,700 o staff ar draws 20 safle, ac mae'r nifer sy'n dysgu Cymraeg wedi tyfu o 73 yn 2020 i 653 yn 2025 (cynnydd o 795%).
Ymhlith y pethau sy'n cynorthwyo gweithio dwyieithog, meddai Mr Drakeford, yw bod "Microsoft bellach yn cefnogi 'promptio' yn Gymraeg yn ei gyfleuster deallusrwydd artiffisial Copilot, a hynny cyn llawer o ieithoedd mwy y byd".
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi arian i Brifysgol Bangor (£70,350 yn 2025/26) ar gyfer prosiect newid ymddygiad ARFer, yn seiliedig ar brosiect tebyg mewn gweithleoedd yng Ngwlad y Basg.
Mae ARFer yn annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg mewn gweithleoedd drwy 'addewidion' ymddygiad a chytundebau iaith rhwng unigolion a thimau, gan gynnwys trwy ddefnyddio ap ffôn symudol ARFer.

Mae angen sicrhau bod "pob siaradwr Cymraeg yn gallu defnyddio'r iaith yn ddirwystr" yn y gweithle, yn ôl Dylan Bryn Roberts
Y tu hwnt i Lywodraeth Cymru yn fewnol, dywedodd Mr Drakeford fod "mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol - ein cyllid i'r ganolfan yn y flwyddyn ariannol gyfredol fydd £15.629m".
Roedd mwy na 18,300 o bobl yn dysgu Cymraeg yn 2023/24, cynnydd o 8% o'i gymharu â 2022/23.
Mae'r ganolfan yn cynnig gwersi Cymraeg am ddim i bobl 16–25 oed ac fe wnaeth 2,635 o bobl ifanc fanteisio ar y cynnig hwn yn 2023/24.
Data 2023/24 yw'r diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Cymraeg Gwaith, dolen allanol, rhaglen y ganolfan sy'n darparu cyrsiau sy'n amrywio o gyrsiau blasu hunan-astudio ar-lein i gyrsiau dysgu dwys.
Yn y flwyddyn honno, manteisiodd 578 o gyflogwyr ar gyrsiau a ddarparwyd gan y cynllun.
Yn ystod yr un cyfnod, cymerodd 6,071 o weithwyr ran mewn cyrsiau blasu hunan-astudio, dilynodd 954 gyrsiau dysgu gyda thiwtor neu gyda chefnogaeth tiwtor, a chymerodd 331 gyrsiau dysgu dwys.