'Dim llawer o sylw i'r Gymraeg ym margeinion twf y llywodraeth'

Mae Dr Huw Lewis yn dweud bod angen ystyried potensial cynlluniau pellgyrhaeddol i hwyluso mwy o ddefnydd o'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Ychydig iawn o sylw sy'n cael ei roi i'r Gymraeg wrth ddatblygu bargeinion twf rhanbarthol mewn rhannau o Gymru, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth.
Mae canfyddiadau adroddiad, dolen allanol yr academydd Dr Huw Lewis yn dangos mai "ystyriaeth ymylol iawn fu i'r Gymraeg" wrth ddatblygu bargeinion twf yn y gogledd, y canolbarth a'r de-orllewin.
Pecynnau ariannol i gefnogi twf a chreu swyddi yw'r Bargeinion Dinesig a Thwf, ac maen nhw'n cael eu hariannu gan lywodraethau Cymru a'r DU.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r rhaglen ARFOR wedi "cefnogi'r ardaloedd lle mae'r iaith Gymraeg yn gadarn", ac mae Llywodraeth y DU yn dweud bod y "prosiectau hyn yn cefnogi'r iaith Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru".

Cafodd yr ymchwil ei gynnal gan ymchwilwyr o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar y cyd â chwmni ymchwil Wavehill
Mae'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno'r cynlluniau hyn yn cael ei arwain gan gonsortiwm o awdurdodau.
Ond yn ôl ymchwil Dr Huw Lewis o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, dydy'r broses ddim yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i waith y rhaglen ARFOR.
Menter ar y cyd oedd ARFOR gan gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn, oedd â'r nod o ddatblygu'r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg.
Daeth i ben ym mis Mawrth eleni.
Wrth siarad am ei ganfyddiadau, dywedodd Dr Lewis, "er bod ARFOR wedi'i greu gydag amcanion iaith penodol" dim ond un rhaglen economaidd "ydy hwn o blith nifer helaeth o ymyriadau".
Ychwanegodd: "Gellir tybio y bydd effaith hirdymor mentrau eraill, megis y Bargeinion Dinesig a Thwf, yn llawer mwy pellgyrhaeddol nag unrhyw beth y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol o raglen ARFOR, o ystyried y lefelau llawer mwy o fuddsoddi cyhoeddus a phreifat sydd ynghlwm â hwy.
"Fodd bynnag, hyd yma, ymddengys mai dim ond ystyriaeth ymylol iawn fu i'r Gymraeg fel rhan o ddatblygiad y cynlluniau hyn."
'Hybu trafodaeth bellach'
Mae astudiaeth Dr Lewis hefyd yn awgrymu y bu gwelliant yn lefel yr ystyriaeth i'r Gymraeg yn strategaethau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod rhwng 2002-21.
Ond, mae'n dangos fod y duedd honno wedi newid yn 2023 pan gafodd strategaeth ddiweddaraf y llywodraeth ei chyhoeddi.
Dywedodd Dr Lewis, "o ystyried pa mor allweddol yw'r economi i ragolygon yr iaith Gymraeg" ei fod yn gobeithio y gall canfyddiadau'r ymchwil "hybu trafodaeth bellach ar sut i brif ffrydio ystyriaeth o'r iaith i holl raglenni datblygu economaidd Llywodraeth Cymru a'n hawdurdodau lleol".
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd29 Mai
- Cyhoeddwyd13 Mai
Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod y rhaglen ARFOR, a ariennir ganddyn nhw gwerth £11m, wedi "ceisio cyflawni ystod o ymyriadau economaidd gyda'r nod o gefnogi'r ardaloedd lle mae'r iaith Gymraeg yn gadarn, a pheilota ffyrdd arloesol o wneud hynny".
Fe nododd Llywodraeth y DU bod y "Bargeinion Dinas a Thwf yng Nghymru yn cyflawni prosiectau buddsoddi mawr" a bod y "prosiectau hyn yn cefnogi'r iaith Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru i ffynnu a helpu siaradwyr Cymraeg i chwarae rhan lawn a gweithredol yn eu heconomïau lleol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.