'Pryder' am ddefnydd isel o'r Gymraeg ym mhwyllgorau'r Senedd

SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae defnydd isel o'r Gymraeg ym mhwyllgorau'r Senedd yn "parhau yn destun pryder" i'r corff sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd.

Dim ond 9% o'r cyfraniadau oedd yn Gymraeg yn y pwyllgorau yn 2024-25 - yr un ganran â 2023-24.

Dywedodd Comisiwn y Senedd: "Byddwn yn parhau gyda'n hymdrechion i sicrhau bod Aelodau ac eraill sy'n cymryd rhan mewn trafodion yn ymwybodol o'u hawl i ddefnyddio'u dewis iaith mewn trafodion, ac yn hyderus i wneud hynny."

Roedd 29% o'r cyfraniadau yn y cyfarfod llawn - lle mae'r 60 Aelod o'r Senedd yn cwrdd - yn Gymraeg yn 2024-25, sydd 1% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

Tra bod cyfraniadau ASau mewn cyfarfodydd llawn yn cael eu cyfieithu ar gyfer cofnod y Senedd, mae trawsgrifiadau o'r pwyllgorau yn cynnwys cyfieithu o Gymraeg i Saesneg yn unig.​

'Angen i ni ddeall yn well y rhesymau'

Dywed Comisiwn y Senedd bod trefniadau pwyllgorau "eisoes yn cael eu cryfhau".

Meddai: "Cynigir sgript safonol i bob cadeirydd, i annog cyfraniadau Cymraeg, a byddwn yn datblygu ar y cyd â Fforwm y Cadeiryddion gynllun i ehangu defnydd y Gymraeg mewn pwyllgorau i'w beilota yn 2025-26."

Fel rhan o'u paratoadau ar gyfer y Seithfed Senedd wedi'r etholiad ym mis Mai 2026, dywed y Comisiwn y "bydd angen i ni ddeall yn well y rhesymau dros y lefelau isel o gyfraniadau Cymraeg, a thrafod pa fath o gefnogaeth fyddai'n annog cyfranogwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn trafodion".

Mae 17 o bwyllgorau yn y Senedd, ac mae eu swyddogaethau yn cynnwys craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru, dwyn y gweinidogion i gyfrif, a chraffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig.

Heledd Fychan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heledd Fychan o Blaid Cymru yn dweud bod y mater yn bryderus

Fe wnaeth ASau "nodi" yr adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25 brynhawn Mercher.

Dywedodd Heledd Fychan, AS Canol De Cymru, bod y defnydd isel o'r Gymraeg yn y pwyllgorau yn "bryderus".

Meddai: "Mi roeddem ni'n cael y drafodaeth yma y llynedd, o ran sut rydym ni'n mynd i atgoffa cadeiryddion pwyllgorau, sut rydym ni'n mynd i fod yn annog tystion, ac ati, i fod yn defnyddio Cymraeg."

'Rigmarôl'

Dywedodd Siân Gwenllian, AS Arfon: "Fel un sydd yn defnyddio'r Gymraeg yn y Siambr yma 100% o'r amser, dydw i ddim bob tro yn hollol gyfforddus yn defnyddio'r Gymraeg drwy'r amser mewn cyd-destun pwyllgorau.

"Mae hyn yn rhannol oherwydd y dechnoleg.

"Mae rhywun yn gweld pobl yn rhoi'r clustffonau ymlaen y funud dwi'n dechrau siarad, ac maen nhw'n eu tynnu nhw i ffwrdd, ac mae yna ryw rigmarôl, ac rydych chi'n colli llif y drafodaeth ar adegau.

"Dwi'n siŵr bod yna dechnolegau gwell ar gael erbyn hyn mewn cyd-destun pwyllgor, lle dydy'r person sydd yn siarad Cymraeg ddim yn teimlo eu bod nhw rywsut yn tarfu ar bethau.

"Mae'n gwneud i ni, y siaradwyr Cymraeg, deimlo ein bod ni o dan anfantais mawr yn y pwyllgorau.

"Dwi'n meddwl bod fan hyn [Siambr y Senedd] yn well, ac mae gweithio'n rhithiol wedi newid pethau hefyd.

"Nid yw rhywun yn meddwl ddwywaith yn rhithiol am ddefnyddio'r Gymraeg, ond mae eisiau edrych ar y gwaith yn y pwyllgorau."

Siân Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae siaradwyr Cymraeg yn gallu teimlo "ein bod ni o dan anfantais mawr yn y pwyllgorau" meddai Siân Gwenllian

Dywed adroddiad blynyddol y Comisiwn: "Gall Aelodau o'r Senedd baratoi ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau yn eu dewis iaith.

"Mae'r timau integredig ar gyfer y pwyllgorau unigol yn paratoi dogfennau briffio yn unol â dymuniad aelodau'r pwyllgorau.

"Bydd yr holl ddogfennau a baratoir ar gyfer trafodion y pwyllgorau yn ddwyieithog, a gall Aelodau ddewis cyfrannu a thrafod yn eu dewis iaith.

"Gall Aelodau sy'n derbyn cefnogaeth gan y Tîm Ieithoedd Swyddogol drefnu sesiynau i baratoi ar gyfer trafodion.

"Mae hyn yn aml yn cynnwys ymarfer ar gyfer cyflwyno datganiad 90 eiliad, gofyn cwestiwn yn y cyfarfod llawn, neu holi tyst mewn cyfarfod pwyllgor."

Mae'r Comisiwn hefyd yn darparu hyfforddiant i ddatblygu neu wella sgiliau iaith Gymraeg Aelodau a'u staff cymorth.

"Rhan annatod o'r gwaith hwn yw chwilio am ffyrdd i gefnogi Aelodau i barhau i ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg yn hyderus mewn cyfarfodydd ac mewn digwyddiadau ar yr ystâd," meddai'r Comisiwn.

Cwynion

Mae'r Comisiwn hefyd yn adrodd eu bod wedi derbyn tri chŵyn eleni yn ymwneud â'r iaith:

  • Roedd aelod newydd o staff cymorth yn dymuno cael cyfeiriad e-bost a rhyngwynebau TGCh [technoleg gwybodaeth a chyfathrebu] Cymraeg, ac mae'r Comisiwn yn cydnabod "ni wnaed cofnod priodol o ddewis iaith swyddogol yr unigolyn fel rhan o'r broses o wneud cais am offer TGCh".

  • Yn dilyn sesiwn graffu gan un o bwyllgorau'r Senedd, cytunwyd y byddai llythyr yn cael ei anfon gyda chwestiynau a sylwadau pellach at y tyst. Dywed y Comisiwn: "Yn anffodus, anfonwyd y llythyr yn Saesneg yn unig gyda'r Gymraeg yn dilyn yn hwyrach. Fodd bynnag, roedd y sawl oedd yn derbyn y llythyr wedi rhoi gwybod i ni mai Cymraeg oedd eu dewis iaith swyddogol."

  • Derbyniwyd cwyn ynghylch y ffaith fod Comisiwn y Senedd yn defnyddio asiantaeth i recriwtio i swyddi uwch swyddogion a phenodiadau cyhoeddus, ac nad oedd pob elfen o ddarpariaeth yr asiantaeth yn cyd-fynd â gofynion y Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Meddai'r Comisiwn: "Wedi ymchwilio, daethpwyd i'r casgliad nad oeddem wedi cydymffurfio â gofynion y Cynllun Ieithoedd Swyddogol o ran y gwasanaeth a ddarparwyd ar ein rhan gan drydydd parti, a hynny er gwaetha'r ffaith ein bod wedi amlinellu ein disgwyliadau o ran dwyieithrwydd i'r asiantaeth."