200 o sefydliadau am wella'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle

Manon Humphreys, Cydlynydd y Gymraeg gydag Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amgueddfa Cymru yn ceisio dysgu rhagor am y defnydd o iaith o fewn y sefydliad, yn ôl Manon Humphreys

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd i drafod sut i ddatblygu a gwella'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.

Mae disgwyl y bydd cynrychiolwyr o dros 200 o sefydliadau yn y digwyddiad sydd wedi ei drefnu ar y cyd rhwng Comisiynydd y Gymraeg a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Y bwriad yw rhoi cyfle i rannu arferion da a hyrwyddo dulliau newydd o weithio sy'n rhoi'r Gymraeg wrth galon gwaith o ddydd i ddydd.

Mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi nodi'r gweithle fel maes sydd angen ei ddatblygu dros y pum mlynedd nesa.

Un o'r sefydliadau fydd yn y digwyddiad yw Amgueddfa Cymru, sy'n ceisio dysgu rhagor am y defnydd o iaith o fewn y sefydliad.

''Mae gyda ni ddata eithaf trylwyr o ran niferoedd [sy'n siarad Cymraeg] a hefyd ar ba lefel maen nhw ar eu taith iaith - falle bo' nhw'n dechrau dysgu, falle bo' nhw'n gwbl rugl,'' meddai Manon Humphreys, Cydlynydd y Gymraeg gydag Amgueddfa Cymru.

''Ond be ni ddim yn gwybod yw beth yw ystyr hynny o ran defnydd. Beth yw realiti pobl sy'n gallu siarad Cymraeg o fewn y gweithle? Ydyn nhw'n gallu defnyddio eu hiaith o ddydd i ddydd?

"A dyna ran fawr o'r prosiect i ni, yw mesur y defnydd 'na, deall beth yw'r rhwystrau, a thrio bod yn fwy targedol wrth gael gwared ar y rhwystrau yna."

Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon Humphreys yn dweud bod amrywiaeth yn y defnydd o'r Gymraeg ar hyd safleoedd Amgueddfa Cymru

Ychwanegodd Ms Humphreys: ''Un o'r pethau sy'n ddiddorol am Amgueddfa Cymru yw bod ni'n amgueddfa aml safle.

"Allwch chi gymharu Amgueddfa Lechi Cymru, sy'n gweithredu yn gyfan gwbwl trwy gyfrwng y Cymraeg, ma' hwnnw yn hollol wahanol i ddemograffeg rhywle fel Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon.

"Felly, ma'n nhw'n wahanol, a ma pethau allwn ni weithio gyda nhw a dysgu rhagor o'r amgueddfa lechi a'r amgueddfa wlan yn y gorllewin."

Osian Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gweithle yn "ofod allweddol" wrth ddarparu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, meddai Osian Llywelyn

Mae'r gynhadledd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn cael ei drefnu ar y cyd rhwng Comisiynydd y Gymraeg a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg.

Yn ôl Osian Llywelyn, y Dirprwy Gomisiynydd Iaith, "mae'r gynhadledd hon yn un amserol".

''Mae'r gweithle yn ofod allweddol os y'n ni'n mynd i roi cyfle i bobl allu defnyddio'r Gymraeg," meddai.

"Ry'n ni newydd basio Bil y Gymraeg ac Addysg, bydd hwnnw'n dod yn ddeddf maes o law. A nod y bil hwnnw yn sicrhau bod pobl sy'n gadael addysg statudol yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

"Yr her gyda'r agenda yma yw, sut y'n ni'n sicrhau bod y bobl yna, pan ma'n nhw'n gadael y byd addysg ac yn symud i fyd gwaith, bod 'na gyfleoedd naturiol iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg."