Senedd 2026: Reform fydd y 'prif heriwr' i Lafur, medd Farage
- Cyhoeddwyd
Mae Nigel Farage yn dweud mai plaid Reform fydd y “prif heriwr” i Lafur yn etholiad y Senedd yn 2026.
Bu'n annerch cynhadledd Gymreig y blaid yng Nghasnewydd ddydd Gwener, ddiwrnod ar ôl hedfan adref o’r Unol Daleithiau ar ôl cefnogi ymgyrch arlywyddol lwyddiannus Donald Trump.
Mae disgwyl i Mr Farage fod yn rhan fawr o ymdrechion Cymreig Reform ymhen 18 mis, ond dywedodd ei fod hefyd yn rhagweld y byddai'r blaid yn penodi arweinydd Cymreig.
Daeth yn Aelod Seneddol ar yr wythfed ymgais yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, ac mae'n cynrychioli Clacton yn Essex.
Dywedodd Mr Farage: “Yn ystod yr etholiad cyffredinol, fe wnaethom lansio ein Cytundeb gyda’r Bobl ym Merthyr Tudful."
Gan ddisgrifio Reform fel "y prif heriwr i Lafur yng Nghymru bellach", ychwanegodd: "Mae ein cynhadledd yng Nghasnewydd heddiw yn nodi dechrau ein hymdrechion i gyflwyno dewis newydd i bleidleiswyr sydd wedi cael eu siomi'n arw.
"Mae angen Reform ar Gymru."
Mae disgwyl i Reform gynyddu'r pwysau ar Lafur dros y 18 mis nesaf, gan awgrymu bod pobl yng Nghymru wedi talu’r pris am “fethiant ar ôl methiant” gan lywodraethau Llafur olynol.
Fe fyddan nhw’n dadlau bod Llafur, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn cynnig “yr un hen addewidion a pholisïau”.
Nid yw Reform wedi cyhoeddi rhestr o bolisïau sy'n benodol i Gymru ar gyfer yr etholiad hyd yma.
- Cyhoeddwyd20 Medi
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
Dywedodd Mr Farage wrth BBC Cymru mai etholiad y Senedd fydd "o bell ffordd, ein blaenoriaeth fwyaf" yn 2026.
Ychwanegodd na fyddai ei blaid yn dod i gytundeb gyda'r Ceidwadwyr Cymreig cyn yr etholiad.
"Gallan nhw wneud beth maen nhw eisiau. 'Dyn ni am fod yn yr etholiadau hynny, a bod y brif her i Lafur - dyna'r targed."
Ychwanegodd Mr Farage ei fod yn rhagweld y bydd gan Reform arweinydd Cymreig erbyn 2026.
Deellir bod y blaid yn targedu sicrhau o leiaf 16 Aelod o'r Senedd yn 2026, gyda Mr Farage wedi dweud o’r blaen y byddai Reform yn ennill “llawer o seddi”.
Ni enillodd Reform yr un sedd yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol mis Gorffennaf, ond daeth yn ail mewn 13 o’r 32 sedd a sicrhau 16.9% o’r bleidlais.
Mae disgwyl i system newydd y Senedd - 16 o etholaethau a phob un yn dychwelyd chwe Aelod o'r Senedd - fod yn fwy ffafriol i'r blaid na’r system cyntaf i’r felin a ddefnyddir ar gyfer etholiadau San Steffan.
Pe bai Reform yn ennill seddi yn 2026, byddai'n nodi llwyddiant gwrth-sefydliadol arall i Mr Farage ym Mae Caerdydd.
Ef oedd arweinydd UKIP pan enillodd y blaid honno saith sedd yn 2016, cyn i frwydro mewnol weld y grŵp yn disgyn yn ddarnau dros gyfnod y Senedd.
Yn ddiweddarach arweiniodd Mr Farage Blaid Brexit, oedd hefyd â grŵp yn y Senedd. Newidiodd Plaid Brexit i Reform UK yn ddiweddarach.
Mae gan y blaid hefyd gynghorwyr yng Nghymru am y tro cyntaf, gyda thri aelod annibynnol o gyngor Torfaen yn newid i Reform yn fuan ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.
'Ceidwadol yn gymdeithasol'
Mae Reform a'i gyfran gymharol uchel o'r bleidlais yn her i Lafur a'r Ceidwadwyr yng Nghymru, ond dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wrth BBC Cymru y byddai gan Reform heriau eu hunain wrth dargedu pleidleiswyr.
Meddai: “Dyn canol oed fyddai pleidleisiwr cyffredin Reform. Felly mae eu pleidleiswyr yn iau, yn llawer iau na'r pleidleisiwr Ceidwadol cyffredin.
“Maen nhw'n eithaf ceidwadol yn gymdeithasol, ond mewn gwirionedd maen nhw'n eithaf adain chwith yn economaidd.
"Dyw hi ddim yw’n glir i mi a ydy Reform yn meddwl bod angen iddyn nhw ddarparu ar gyfer y math hwnnw o elfennau mwy i'r chwith ym myd-olwg eu pleidleiswyr, oherwydd dyw hynny ddim yn rhywbeth 'da chi'n ei gysylltu efo’r bobl sy’n ariannu Reform.”