Farage: 'Reform i ennill nifer o seddi yn etholiadau'r Senedd'

Nigel FarageFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nigel Farage ei ethol i San Steffan am y tro cyntaf eleni

  • Cyhoeddwyd

Bydd Reform UK "yn ennill nifer o seddi" yn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru, yn ôl arweinydd y blaid Nigel Farage.

Yn siarad ar drothwy cynhadledd Reform yn Birmingham, dywedodd Mr Farage y byddai Reform yn cymryd yr etholiad "o ddifrif".

Does gan y blaid ddim Aelodau yn Senedd Cymru ar hyn o bryd.

Ond mae'r blaid yn gobeithio manteisio ar y drefn bleidleisio gyfrannol fydd yn cael ei defnyddio i ethol gwleidyddion i Fae Caerdydd yn 2026.

Fe enillodd Reform bum sedd yn yr etholiad cyffredinol diweddar, gyda Nigel Farage ei hun yn cael ei ethol i San Steffan am y tro cyntaf ar ei wythfed ymdrech.

Ond doedd yr un o'r seddi yna yng Nghymru.

Daeth Reform yn ail mewn 13 o'r 32 etholaeth Gymreig wrth i'r blaid sicrhau 16.9% o'r bleidlais ar draws y wlad - cynnydd o 11.5% o'i gymharu â 2019 pan safodd y blaid fel y Brexit Party.

Disgrifiad o’r llun,

"Polisïau synnwyr cyffredin" Reform wnaeth ddenu Alan Slade i'r blaid

Un o'r etholaethau ble daeth y blaid adain dde yn ail oedd Torfaen, ble sicrhaodd y blaid ei chynghorwyr cyntaf yn fuan wedi'r etholiad, pan benderfynodd tri chynghorydd annibynnol ffurfio grŵp Reform.

Dywedodd un ohonyn nhw, Alan Slade, ei fod wedi ei ddenu gan bolisïau "synnwyr cyffredin" y blaid.

Roedd maniffesto Reform ar gyfer yr etholiad cyffredinol, gafodd ei gyhoeddi ym Merthyr Tudful, yn cynnwys addewidion i rewi mewnfudo na sy'n angenrheidiol, torri trethi i fusnesau bach a diddymu targed y Deyrnas Unedig ar gyfer torri allyriadau.

"Dwi'n credu bod Reform angen cyfle i ddangos ei bod hi'n blaid sy'n fwy na geiriau, ac mae hynny'n siwtio fi achos dyna dwi'n meddwl dwi'n ei wneud," ychwanegodd Mr Slade.

Disgrifiad o’r llun,

Wedi'r etholiad cyffredinol, dywedodd Oliver Lewis, ymgeisydd y blaid ym Maldwyn a Glyndŵr, fod "cyfle go iawn" i Reform fod yn "rym wleidyddol pwerus yng Nghymru"

Pan ofynnwyd i Mr Slade am y feirniadaeth gan rai bod Nigel Farage yn boblyddwr (populist) sy'n annog teimladau gwrth-mewnfudwyr, atebodd: "Dydw i ddim yn 'nabod Nigel o gwbl... ond pan mae pobl yn dweud populist, be mae hynny'n ei olygu?

"I fi mae'n golygu gwneud pethau mae pobl eu heisiau."

Dywedodd Mr Slade bod yr ymateb i ffurfio'r grŵp Reform ar Gyngor Torfaen wedi bod yn gymysg, a bod y cynghorwyr wedi derbyn rhai sylwadau "fitriolaidd".

Ond mae "llawer o gefnogaeth" wedi bod hefyd, meddai.

Golygon ar 2026

Roedd cyfran y bleidlais a enillodd Reform yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol yn uwch na chyfran Plaid Cymru, a enillodd bedair sedd, a'r Democratiaid Rhyddfrydol a enillodd un.

Mae'r blaid yn gobeithio bydd ei pherfformiad yn yr etholiad cyffredinol yn golygu ei bod wedi gosod seiliau cadarn ar gyfer yr etholiad nesaf i Senedd Cymru yn 2026 pan fydd Reform yn gobeithio manteisio ar y drefn etholiadol gyfrannol fydd yn cael ei defnyddio i ethol 96 o wleidyddion i Fae Caerdydd.

Yn ôl Dr Jac Larner o Brifysgol Caerdydd, dylai Reform fod yn "hyderus iawn" wrth edrych ymlaen at yr etholiad nesaf ble mae'r arolygon barn yn awgrymu gallai'r blaid ennill "rhwng 14 ac 17 sedd".

Os ydy Reform yn ennill seddi yn y Senedd, byddai hynny'n fuddugoliaeth fawr arall i Nigel Farage ym Mae Caerdydd.

Fe oedd arweinydd UKIP pan enillodd y blaid honno saith sedd yn 2016, cyn i'r grŵp chwalu o ganlyniad i ffraeo mewnol dros y blynyddoedd canlynol.

Mr Farage oedd arweinydd y Brexit Party oedd â chynrychiolaeth yn y Senedd hefyd. Fe newidiodd enw'r Brexit Party i Reform UK yn ddiweddarach.

Disgrifiad o’r llun,

Doedd poblogrwydd Reform yn Llanelli ddim yn syndod i Nadeen Butler

Llanelli oedd yr etholaeth ble daeth Reform agosaf at gipio sedd yn yr etholiad cyffredinol.

Doedd hynny'n ddim syndod i Nadeen Butler, sy'n berchen ar siop drin gwallt yn y dre, er wnaeth hi ei hun ddim pleidleisio dros y blaid.

"Mae lot i 'neud gyda beth oedd yn digwydd lan yn Stradey Park," meddai, gan gyfeirio at y protestiadau a fu dros gynlluniau i gartrefi ceiswyr lloches mewn gwesty lleol.

"Mae shwt gymaint o bobl o wledydd eraill wedi dod mewn i Lanelli nawr, mae pobl wedi cael digon."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Audrey Williams yn poeni am lwyddiant diweddar Reform yn ardal Llanelli

Yn ôl Ms Butler, fe wnaeth "llwyth" o'i chwsmeriaid hi gefnogi Reform "achos so Llafur yn neud dim byd i Lanelli".

Ar y stryd fawr dywedodd Audrey Williams, a gefnogodd Plaid Cymru, ei bod hi'n "poeni am y ffaith bod Reform wedi gwneud mor dda".

"Dyw e ddim yn adlewyrchu'n dda ar Lanelli," meddai, "'sdim byd positif am byti nhw."