Cymeradwyo ysgol uwchradd Gymraeg i Sir Drefaldwyn
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr ym Mhowys wedi cymeradwyo cynllun i droi ysgol yn Sir Drefaldwyn i fod yn un Gymraeg ei hiaith.
Dim ond ym mis Medi'r llynedd y cafodd ysgolion cynradd ac uwchradd Llanfair Caereinion eu huno i greu Ysgol Bro Caereinion, sy'n ysgol dwy ffrwd i blant 4-18 oed.
Ond yn ystod cyfarfod o gabinet yr awdurdod ddydd Mawrth, fe gefnogwyd galwadau i ail-ddosbarthu Ysgol Bro Caereinion yn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Wedi cychwyn y broses statudol, bydd y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn dirwyn i ben yn raddol.
Yn ôl y cyngor, bydd yn dechrau gyda'r dosbarthiadau derbyn a Blwyddyn 7 o Fedi 2025.
Dywedodd y rheolwr trawsnewid ysgolion, Marianne Evans, wrth y cyfarfod: "Yn hanesyddol bu galw am ysgol uwchradd benodedig Gymraeg yng ngogledd Powys/Sir Drefaldwyn ers amser maith.
"Daeth Ysgol Bro Caereinion yn ganolog i'n meddylfryd i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg."
Ond yn sgil twf addysg Gymraeg y blynyddoedd diwethaf ar lefel cynradd yn y dalgylch, dywedwyd fod hyn wedi ysgogi'r cyngor i gymryd y cam nesaf.
'Y cyflymder wedi ein synnu'
Dywedodd y cynghorydd sir annibynnol dros Lanfair Caereinion, sydd hefyd yn lywodraethwr yn yr ysgol, eu bod yn "awyddus iawn i fynd ar hyd continwwm yr iaith Gymraeg".
"Mae'r cyflymder wedi ein synnu rhywfaint - ond nid yw wedi lleihau'r brwdfrydedd," ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Jones.
Fe ofynnodd hefyd am gefnogaeth i'r ysgol gyda'r broses o drochi disgyblion yn y Gymraeg, yn ogystal â chaniatáu i staff ddysgu'r Gymraeg.
"Mae angen sicrwydd arnom y byddwn yn cael y gefnogaeth ac na fydd gennym ddiffyg [cyllideb] o'r fath fel na fyddwn yn gallu mantoli ein llyfrau."
Ychwanegodd Marianne Evans: "Rwy'n gwybod bod pryderon ymhlith rhieni yn ffrydiau cyfrwng Saesneg Bro Caereinion ac Ysgol Rhiw Bechan fod hyn yn rhy fuan, ac nad ydynt yn barod.
"Ond mae angen i ni gymryd y tarw wrth y cyrn, felly byddwn yn rhoi'r holl gefnogaeth sydd ei angen i wneud i hyn ddigwydd."
Croesawodd arweinydd grŵp Plaid Cymru, y Cynghorydd Elwyn Vaughan, sydd hefyd yn gadeirydd panel addysg cyfrwng Cymraeg y cyngor, y penderfyniad.
Eglurodd fod diffyg ysgol uwchradd Gymraeg wedi achosi llawer o "boen a gofid" yn yr ardal dros 30 mlynedd.
"Haleliwia! Mae wedi bod fel clwyf agored ac mae'r argymhelliad hwn heddiw yn gam cadarnhaol ymlaen," meddai.
Ychwanegodd y bydd Ysgol Gymraeg y Trallwng ac Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd yn "hanfodol" i gynaladwyedd Bro Caereinion yn y tymor hir.
Cymeradwyodd y cabinet yr adroddiad yn unfrydol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2015
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019