'Ofn colli trysorfa wych os gwanhau'r Gymraeg ar S4C'
- Cyhoeddwyd
Mae actores a chyflwynwraig yn dweud ei bod yn poeni am "golli'r drysorfa wych" sydd gan S4C wrth gyfeirio at bwysigrwydd safon y Gymraeg.
Yn ei hunangofiant sy’n cael ei lansio yr wythnos hon, dywedodd Marged Esli fod angen sicrhau “parch dyledus i’n hiaith.”
Wrth siarad â rhaglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru, ychwanegodd nad oedd hi'n gwybod "i ble mae S4C yn mynd".
Dywedodd llefarydd ar ran S4C ei bod yn bwysig i "Gymraeg cywir, graenus a chlir" gael ei chlywed ond bod "lle i gyfranwyr llai hyderus eu Cymraeg".
- Cyhoeddwyd26 Mai 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
Mae Marged Esli o Ynys Môn wedi bod yn actores flaenllaw ar lwyfan ac ar deledu yn Gymraeg a Saesneg ers degawdau.
Mi ddechreuodd ei gyrfa gyda Chwmni Theatr Cymru cyn ymddangos mewn ffilmiau fel Teisennau Mair - a enillodd wobr am y ffilm orau yn Yr Ŵyl Geltaidd - a Madam Wen.
Bu’n chwarae rhan Nansi Furlong yng nghyfres Pobol y Cwm am flynyddoedd a Sheila Gordon yn Tipyn o Stad hefyd.
Wrth gyhoeddi ei hunangofiant, mae'n codi pwyntiau am yr iaith Gymraeg ar y sianel.
'Ofn colli trysorfa wych'
“Dwi ofn i ni golli y drysorfa wych sydd gynnon ni a hefyd mae o mor ofnadwy o bwysig," dywedodd ar Post Prynhawn.
"Gan fod gynnon ni iaith sydd yn medru cael ei datblygu i bob oes, mae’r eirfa gynnon ni, mae bob dim gynnon ni."
"Ond os nad ydy hi'n cael ei chlywed ac os nad ydan ni’n defnyddio’r geiriau dydy’r genhedlaeth nesa' ddim yn mynd i wybod y gair na lle i’w roi o," ychwanegodd.
"Dyna sut ydan ni i gyd yn dysgu iaith... iaith sy’n perthyn i ni a 'dan ni wedi ei dysgu hi gan y bobl sydd wedi dod o’n blaena' ni.
"Pam da ni 'isio torri’r llwybr yna sydd wedi bod mor anhygoel am ganrifoedd?”
'Os gwanio, yna colli allan'
Mae hi’n derbyn bod yr iaith ac S4C yn perthyn i bawb.
“Ond,” ychwanegodd, “os y gwnawn ni wanio un iaith i edrych ar ôl un o ieithoedd mwyaf poblogaidd y byd 'dan ni’n mynd i golli allan yn dydan.”
Yn yr hunangofiant 'Ro’n i’n arfer bod yn rhywun' gan Wasg y Bwthyn mae hi hefyd yn dweud y dylai S4C ystyried ail ddangos rhai o raglenni cynharaf y sianel.
“Mae’n biti nad ydan ni’n gallu gweld mwy o hen gynyrchiadau – nid am eu bod nhw’n arbennig o wych ond am eu bod nhw’n rhan o’r llwybr sydd wedi’n cario ni i gael ein sianel.
"Weithiau mae’n rhaid edrych yn ôl i symud ymlaen a dwi ddim yn gwybod yn onest i ble mae S4C yn mynd rwan,” meddai.
'Lle i gyfranwyr llai hyderus eu Cymraeg'
Dywedodd llefarydd ar ran S4C fod Marged Esli "yn codi pwyntiau pwysig ynglŷn â pharhad y Gymraeg a datblygiad yr iaith hefyd.
“Mae’n bwysig bod Cymraeg cywir, graenus a chlir yn cael ei defnyddio ar raglenni S4C.
“Ond mae lle hefyd i glywed gan gyfranwyr llai hyderus eu Cymraeg.
“Ein bwriad yw denu mwy o bobol at S4C er mwyn i’r Gymraeg fod yn rhan o’u bywydau, a hybu a chefnogi pobl i ddysgu’r iaith hefyd.”
Bydd llyfr Marged Esli yn cael ei lawnsio yn swyddogol yng Nghanolfan Glanhwfa Llangefni nos Fercher.
Bydd y sgwrs lawn ar gael i'w chlywed ar Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru brynhawn Llun.