Prinder tatws: Glaw yn 'drychinebus' i'r diwydiant

Llun o fferm dan ddwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai ffermwyr yn dweud nad ydyn nhw wedi gweld cymaint o law ers blynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai ffermwyr yn y gogledd wedi rhannu eu pryderon ynghylch dyfodol y diwydiant amaeth a'r gadwyn gyflenwi wrth i'r glaw effeithio ar dyfu cynnyrch a chadw anifeiliaid.

Mae tyfwyr tatws yn benodol wedi dweud wrth raglen Dros Frecwast eu bod nhw ar ei hôl hi gyda phlannu tatws, a rhai hyd yn oed heb allu plannu o gwbl eleni oherwydd y glaw.

Yn ôl Roger Tebbutt, ffermwr o Ynys Môn, mae'r tymor tyfu eleni wedi bod yr anoddaf eto.

"Mae hi wedi bod yn wlyb diwrnod ar ôl diwrnod... mae'n torri calon rhywun yn y diwedd," meddai.

Mae Tudur Roberts o Dudweiliog yn rhannu'r un farn, gan ddweud ei fod yn teimlo fel petai hi wedi bwrw yn ddi-dor ers mis Medi.

Heb os, mae hi wedi bod yn fisoedd gwlyb iawn yng Nghymru, gyda'r gyfradd glawiad wedi bod yn uwch na'r cyfartaledd dros y misoedd diwethaf.

Fis Mawrth, fe welodd rhai lleoliadau ddwywaith eu glawiad cyfartalog.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Roger Tebbutt fod y tywydd wedi ei gwneud hi'n gyfnod "trychinebus" i dyfwyr tatws

Mae Roger Tebbutt a'i deulu wedi bod yn cynhyrchu tatws ar ei fferm yn Llanbedrgoch, Ynys Môn ers y 1950au, ac yn gwerthu'r rhan fwyaf o'r tatws yn lleol.

Dywedodd: "Mae'n drychinebus i'r farchnad sydd yn arfer codi tatws yr adeg yma o'r flwyddyn.

"Mae'r rhan fwyaf o'r ardaloedd [sy'n tyfu tatws] - Cernyw, Sir Benfro - mae pawb ar ei hôl hi."

Ynghyd â'r tatws, maen nhw hefyd yn cadw gwartheg.

Dywedodd Mr Tebbutt: "Mi ydan ni'n cadw'r buches sugno allan, ac maen nhw'n dod â lloeau dros y gaeaf, a 'dw i erioed yn cofio blwyddyn pan maen nhw wedi dioddef cymaint wrth fod allan.

"Maen nhw wedi colli gwedd. Dydyn nhw ddim yn edrych cystal oeddwn i'n ei ddisgwyl ar yr amser yma o'r flwyddyn."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tudur Roberts yn arfer tyfu tatws, ond wedi methu eu plannu eleni

Nid ym Môn yn unig mae'r glaw wedi effeithio ar ffermwyr.

Ym Mhen Llŷn, mae Tudur Roberts a'i deulu yn Nhudweiliog wedi gweld effaith fawr y glaw.

Roedd o'n arfer tyfu tatws, ond wedi methu eu plannu eleni.

"Mi oedd hi'n mynd yn bellach ac yn bellach, mi oedden ni'n disgwyl... ond glaw eto," meddai.

"Yn y diwedd roedd yn rhaid anghofio. Doedd gennym ni ddim mynadd cwffio yn erbyn y tywydd ddim mwy.

"Mae 'na un neu ddau yn yr ardal wedi plannu tatws diweddar, ond mi oedden nhw ryw bythefnos yn hwyrach yn eu rhoi nhw lawr - ambell un dair wythnos yn hwyrach - gan fod y tywydd ddim wedi bod efo ni.

"Does dim dwywaith, mi fydd yn rhaid i'r prisiau godi, mi fydd yna lai ohonyn nhw, ac mae prinder, fel mae pawb yn gwybod, yn gwneud i'r prisiau fynd fyny hefyd.

"Dwi'm yn gwybod be' 'di'r ateb i ddweud y gwir."

Ffynhonnell y llun, UNDEB AMAETHWYR CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Phillip Jones ydy llywydd cangen Caerfyrddin, Undeb Amaethwyr Cymru

Mae'r undebau amaeth yng Nghymru wedi bod yn rhan o gynhadledd gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i drafod effaith y glaw ar y diwydiant.

Roedd Undeb Amaethwyr Cymru yn rhan o'r gynhadledd honno, ac yn ôl Phillip Jones o'r undeb, mae'r glaw wedi creu llawer o gymhlethdodau.

"Mae'r gadwyn fwyd yn rhywbeth bregus a dyw hi ddim yn argoeli'n dda y daw yna lawer o fwyd o'r cyfandir chwaith," meddai.

"Yn y tymor byr, mae'n anodd iawn i wybod pwy fath o gymorth gall y llywodraeth roi, ond mae'n rhaid i ni ystyried y ddau beth sydd wedi'u cyhoeddi eisoes, sydd yn gwmwl anferthol uwch ben y ffermwyr - rheolau NVZs a'r cynllun ffermio cynaliadwy.

"Wrth feddwl am y gwlypter ry'n ni wedi'i gael nawr, wrth gwrs dyw e ddim yn gyfuniad da - slyri a mwy fyth o ddŵr glaw.

"Os ydy'r lle'n brin, mae'n fwy tebygol o orlifo."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: "Dwi’n ymrwymo i barhau i wrando ar ffermwyr a'r holl randdeiliaid a gweithio gyda nhw, i ddatblygu cynllun a fydd yn ein helpu i wireddu'n huchelgais i wneud Cymru'n arweinydd byd ym maes ffermio cynaliadwy.

"Mae £20m wedi'i ymrwymo ar gyfer dau gynllun i gefnogi ffermwyr i gydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021."