'Brwydr yn streic y glowyr wedi'i threfnu gan y llywodraeth'
- Cyhoeddwyd
Cafodd diwrnod mwyaf gwaedlyd streic glowyr 1984 ei drefnu yn Downing Street gan uwch aelodau o'r Llywodraeth Geidwadol ar y pryd, yn ôl uwch swyddog cyfreithiol Llywodraeth Cymru.
Mae "Brwydr Orgreave", fel mae'n cael ei adnabod, wedi ei ddisgrifio fel un o'r dyddiau mwyaf treisgar yn streic y glowyr ddeugain mlynedd yn ôl.
Mewn cyfweliad arbennig â BBC Cymru, mae Cwnsler Cyffredinol Cymru wedi galw ar y llywodraeth Lafur newydd i gyflawni ei haddewid o ymchwiliad i Orgreave cyn gynted â phosib.
Mae glowyr hefyd wedi galw arnyn nhw i gyflawni'r addewid, oedd ym maniffesto'r blaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig pryd y gallai unrhyw ymchwiliad ddechrau.
Ym Mehefin 1984, ynghanol streic y glowyr, teithiodd Alan Jones, glöwr 26 oed, o'i gartref ym Mhontyberem i Orgreave yn sir De Efrog i ymuno â llinell biced.
Roedd yn un o tua 8,000 o lowyr oedd wedi ymgasglu ar y caeau o gwmpas gwaith golosg y pentref ger Rotherham i geisio atal lorïau rhag gadael y safle ar eu ffordd i ffwrneisi gweithfeydd dur enfawr Scunthorpe.
Yno yn eu disgwyl roedd tua 6,000 o blismyn.
Roedd y gwrthdaro a ddilynodd rhwng y ddwy ochr yn ffyrnig a gwaedlyd, gyda'r heddlu'n defnyddio ceffylau, cŵn, tariannau a batonau i wasgaru'r dorf.
Anafwyd 120 o lowyr a phlismyn.
Fe gafodd 95 o lowyr eu harestio a'u cyhuddo o derfysg ac anrhefn dreisgar, ond fe gafodd y cyhuddiadau yn eu herbyn eu gollwng oherwydd diffyg tystiolaeth.
'Digon i hala ofn ar bawb'
Mae'r diwrnod yn cael ei gofio fel Brwydr Orgreave, ac wedi ei ddisgrifio fel un o'r enghreifftiau gwaethaf o ymddygiad treisgar gan yr heddlu mewn anghydfod diwydiannol cyfoes.
Mae digwyddiadau'r diwrnod hwnnw yn fyw iawn yn y cof i Alan Jones.
Wrth iddo deithio nôl i Orgreave 40 mlynedd ar ôl y streic, mae'n dweud fod y pentref wedi newid bron y tu hwnt i unrhyw adnabyddiaeth.
Ond mae ambell fan yn dod ag atgofion iddo.
Wrth gerdded ar hyd prif stryd hen bentre’ Orgreave a chroesi pont reilffordd mae'r atgofion yn llifo nôl.
"Roedd e yn ddigon i hala ofn ar bawb. Roedd pob un yn sgathru a rhedeg bant," meddai.
"Galla i gofio'r heddlu yn dod mewn â'u batons a bydden nhw jyst yn bwrw pawb, hyd yn oed y bobl oedd wedi cwympo i'r llawr a gwaed yn llifo dros eu pennau.
"Doedd dim trugaredd, na meddwl am godi rhywun lan a'u helpu - roedden nhw yn bwrw pawb."
Galw am ymchwiliad
Mae ymgyrchwyr ers y digwyddiad wedi bod yn galw am ymchwiliad agored llawn, ac atebion i gwestiynau ynglŷn â thactegau'r heddlu a'r amheuon sy'n cael eu lleisio ynglŷn â'r rhan a gafodd ei chwarae gan y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd.
Roedd y Cwnsler Cyffredinol, ac Aelod Senedd Llafur dros etholaeth Pontypridd, Mick Antoniw, yn gyfreithiwr ifanc adeg y streic ac yn cynrychioli rhai o'r glowyr a gafodd eu harestio.
"Mae wedi bod yn amser hir, a rhaid cael cyfiawnder i'r bobl wnaeth ddioddef yn Orgreave," meddai.
"Fel cyfreithiwr ifanc ar y pryd fy argraff gignoeth i yw pa mor agos ddaethon ni at fod yn wladwriaeth heddlu - yn police state.
"Roedd hyn yn gamddefnydd o bŵer y wladwriaeth."
'Maggie's Boys'
Fe wnaeth Robert Griffiths, cyn-heddwas o Ddinbych, wirfoddoli i weithio yn Orgreave.
Dywedodd ei fod yn ofni am ei fywyd y diwrnod hwnnw, a dywedodd fod trais ar y ddwy ochr.
"Dechreuodd taflegrau fwrw glaw arnom - ballbearings, briciau a darnau o fetel," meddai.
"Nes i droi at gydweithiwr, Stan, a dwi'n cofio dweud, 'dwi'n meddwl bod ni'n mynd i farw yma'.
"Adeg Orgreave roedd fy mhlant yn bump a thair. Beth pe bawn i'n mynd adref mewn bag corff?
"Roedd hi mor ddrwg â hynny'r diwrnod hwnnw."
Dywedodd Robert ei fod yn cofio rhai glowyr yn targedu ceffylau heddlu.
"Fe ddyrnodd geffyl yr heddlu yn ei wyneb," meddai.
"O fewn eiliad neu ddwy, tynnodd reidiwr yr heddlu yr awenau i'w dde, ac aeth pen y ceffyl yn malu yn syth i mewn i'r glöwr hwnnw."
Dywedodd Robert fod y glöwr yn gofyn iddo "beth ydych chi'n mynd i'w wneud am hynny?"
Dywedodd Robert ei fod wedi ateb, "dim byd o gwbl, roeddech chi'n haeddu hynny".
Ychwanegodd: "Bu'n rhaid ennill y rhyfel gyda'r glowyr.
"Ro'n i'n un o Maggie's Boys, ro'n i'n gwybod 'mod i'n declyn oedd yn cael ei ddefnyddio gan y llywodraeth i guro'r glowyr."
Mae Robert yn credu na ddylai fod ymchwiliad - "mae'n hanes, a dwi'n credu y dylid ei adael fel hanes".
"Byddai'n rhaid iddyn nhw hefyd edrych ar ochr y glowyr, beth wnaethon nhw, nid dim ond ochr yr heddlu," meddai.
'Aros am gyfiawnder'
Mae Alan Jones yn teimlo fod angen i "rywun dalu am be' ddigwyddodd yn Orgreave" a bod angen ymchwiliad llawn ar fyrder.
"Ma' ishe i rywbeth gael ei 'neud yn gloi. Ma' 40 mlynedd 'di mynd heibio, ond dyw hi ddim yn rhy hwyr i gael ymchwiliad.
"Ma' ishe gwybod pwy oedd wedi gorchymyn yr heddlu i 'neud be 'naethon nhw ar y diwrnod yna. Mae'n anodd iawn credu'r peth."
Ychwanegodd Mick Antoniw bod yna gwestiynau mawr i'w hateb.
"Roedd Orgreave yn ddigwyddiad ledled y Deyrnas Unedig. Mae angen ymchwiliad y Deyrnas Unedig yn gyfan arnom ni i gyrraedd y gwir," meddai.
"Allwn ni ddim aros yn hirach. Mae llawer o lowyr wedi marw eisoes.
"Ond mae llawer yn dal i aros am gyfiawnder ac mae hawl gyda ni i wybod pwy wnaeth roi'r gorchmynion a phwy oedd yn gyfrifol am wyrdroi cwrs cyfiawnder.
"Pwy sy'n gyfrifol am gamddefnyddio pŵer y wladwriaeth?"
Fe wnaeth yr Arglwydd Heseltine, a oedd yn weinidog yng nghabinet Margaret Thatcher ar y pryd, wrthod cais BBC Cymru am gyfweliad.
Mewn datganiad fis yma, dywedodd Heddlu De Swydd Efrog: “Ni fyddai’n briodol i Heddlu De Swydd Efrog heddiw geisio esbonio nac amddiffyn gweithredoedd yr heddlu ym 1984 gan fod pawb fu’n ymwneud â phlismona streic y glowyr wedi ymddeol ers tro ac nid yw’r wybodaeth sydd gennym wedi’i hasesu’n gywir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd2 Mai
- Cyhoeddwyd29 Mai