Arweinydd Cyngor Caerdydd: Gething wedi'i 'drin yn wahanol'

Huw Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Huw Thomas, mae "teimlad o siom" bod gyrfa wleidyddol Vaughan Gething wedi dod i ben yn gynnar

  • Cyhoeddwyd

Yn ôl arweinydd Cyngor Caerdydd mae yna “chwerwder” am sut ddaeth cyfnod Vaughan Gething fel Prif Weinidog i ben.

Mewn cyfweliad ar raglen BBC Radio Cymru Dros Frecwast, dywedodd Huw Thomas fod yna deimlad bod Gething wedi cael ei drin yn wahanol oherwydd lliw ei groen.

Ychwanegodd fod yna waith i’w wneud o hyd er mwyn sicrhau fod yna le i bobl o gefndir Mr Gething yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Ddydd Sul, cyhoeddodd Vaughan Gething na fyddai’n sefyll yn etholiad Senedd Cymru yn 2026.

“Mae Vaughan wedi bod yn was i’r blaid a’r etholaeth fel aelod o Senedd Cymru ers 2011. Mae wedi gwasanaethu efo ynni a dycnwch a sgil ac wrth gwrs mae e wedi cyrraedd rôl Prif Weinidog Cymru mewn modd hanesyddol," meddai Huw Thomas.

Esboniodd bod Vaughan Gething wedi profi "cyfnod anodd" a bod "teimlad o siom bod ei yrfa wleidyddol e, yn Senedd Cymru yn gorffen yn gynnar".

Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddodd Vaughan Gething ei fod yn ymddiswyddo fel prif weinidog, ar ôl pedwar mis yn y swydd.

Roedd Mr Gething wedi bod o dan bwysau oherwydd rhoddion dadleuol i'w ymgyrch i fod yn arweinydd ei blaid, ac am ddiswyddo un o'i weinidogion.

Cafodd ei holi'n gyson am gyfraniad o £200,000 i'w ymgyrch gan David Neal, dyn busnes a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

Roedd Mr Gething yn mynnu ei fod wedi dilyn y rheolau.

'Angen rôl i bobl o gefndir Vaughan'

Dywed Huw Thomas "ei fod sicr yn credu ei bod yn cael ei ddal i safon uwch nag eraill".

"Yn sicr mae’r teimlad o chwerwder yna yn y gymuned - felly dwi’n credu bod her yna i gymdeithas sifil Cymru ddangos eto fod yna rôl i bobl o gefndir Vaughan mewn cymdeithas wleidyddol yng Nghymru.

"Dwi wedi clywed yn gryf iawn - yn benodol o gymunedau lleiafrifoedd ethnig bod cefnogaeth gref i Vaughan [a bod yna deimlad] ei fod yn cael ei drin yn wahanol i rywun efo croen gwyn," ychwanegodd.