Aaron Ramsey yn tynnu'n ôl o garfan Cymru gydag anaf

Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Aaron Ramsey â'r Pumas ym Mecsico yn yr haf

  • Cyhoeddwyd

Mae Aaron Ramsey wedi tynnu'n ôl o garfan Cymru i wynebu Lloegr a Gwlad Belg dros yr wythnos nesaf oherwydd anaf.

Fe fydd Cymru'n herio Lloegr mewn gêm gyfeillgar yn Wembley ddydd Iau, cyn croesawu Gwlad Belg i Gaerdydd mewn gêm ragbrofol allweddol ar gyfer Cwpan y Byd nos Lun nesaf.

Cafodd y chwaraewr canol cae 34 oed ei adael allan o dîm Pumas UNAM ddydd Sul, gydag adroddiadau ym Mecsico yn nodi ei fod wedi cael anaf tra'n ymarfer ddydd Iau.

Mae rheolwr Cymru, Craig Bellamy, wedi ychwanegu Isaak Davies a Rubin Colwill o Gaerdydd i'w garfan, i gymryd lle Ramsey a Dan James - wnaeth dynnu nôl o'r garfan yr wythnos ddiwethaf.

Rubin Colwill Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rubin Colwill yn ymuno â'i frawd Joel yng ngharfan Cymru

Cafodd Ramsey ei enwi yng ngharfan Craig Bellamy yr wythnos ddiwethaf, ag yntau heb chwarae pêl-droed rhyngwladol ers mis Medi 2024.

Mae Colwill, 23, yn ymuno â'i frawd Joel yn y garfan, gan gynyddu nifer y chwaraewyr Caerdydd sydd yn y garfan i bump.

Ymunodd Ramsey â'r Pumas yn yr haf ac mae wedi chwarae chwe gêm i'r tîm gan sgorio unwaith.

Mae wedi dioddef rhestr hir o anafiadau i'r goes yn ystod ei yrfa 19 mlynedd.

Bydd ei absenoldeb diweddaraf yn ergyd i Bellamy, a ddywedodd yr wythnos ddiwethaf bod "pêl-droed yn Ramsey o hyd".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.