Cymru 'mewn lle gwell' er gwaethaf colli pob gêm yng Nghwpan y Byd - Lynn

Dim ond un gêm allan o 10 mae Sean Lynn wedi ennill ers cymryd yr awenau
- Cyhoeddwyd
Er i Gymru golli pob gêm yng Nghwpan y Byd, mae'r prif hyfforddwr Sean Lynn yn mynnu bod y tîm mewn sefyllfa llawer gwell nag yr oeddent ar ôl y Chwe Gwlad.
Collodd Cymru bob un o'r pum gêm yn y bencampwriaeth yn gynharach eleni cyn i golledion yn erbyn yr Alban, Canada a Fiji eu condemnio i waelod Grŵp B.
"Fe wnaethon ni ddangos cymeriad yn y gêm a welais i ddim hynny yn y Chwe Gwlad," meddai Lynn.
"Rydyn ni wedi dangos ein bod ni'n ddewr ac yn gallu symud y bêl, ond mae gennym ni gryfder wrth yrru ymlaen hefyd."
Fe wnaeth Lynn hefyd ailadrodd y geiriau cyntaf a ddywedodd pan gafodd ei ddatgelu fel olynydd Ioan Cunningham yn gynharach eleni.
"Dwi'n Gymro balch," meddai gydag emosiwn.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
"Mae'n anodd, mae pawb eisiau sicrhau ein bod ni'n cael canlyniadau, ond rydw i yn ei chanol hi ac rydw i wedi dweud wrth y chwaraewyr y byddwn ni i gyd yn sefyll gyda'n gilydd.
"Mae yna gyfnodau anodd, ond rydyn ni mewn lle llawer gwell nag yr oedden ni ar ôl yr Eidal o ran y cymeriad a'r unigolion, roedd llawer o welliant.
"Ond mae gennym ni ffordd bell i fynd o ble rydw i eisiau i ni fod."
Bydd gan y chwaraewyr wythnos i ffwrdd cyn mynd yn ôl i'r gwersyll i adolygu eu perfformiad yng Nghwpan y Byd. Byddan nhw wedyn yn dychwelyd i'w clybiau ar gyfer dechrau'r tymor newydd.
Dywedodd Lynn y bydd sut mae ei chwaraewyr yn cael eu rheoli yn haen uchaf Lloegr yn allweddol i unrhyw lwyddiant Cymru yn y dyfodol.
"Mae angen iddyn nhw fod yn chwarae," meddai.
"Gallwch chi edrych arno a dweud 'mae'r holl chwaraewyr yn chwarae yn y PWR ac yn rhan o raglenni PWR', ond faint ohonyn nhw sy'n chwarae mewn gemau dan bwysau, neu ydyn nhw yn y garfan yn unig? Dyna rywbeth sydd angen i ni fod yn edrych arno."
'Paratoi ar gyfer y Chwe Gwlad'
Mae'r Celtic Challenge, sy'n cynnwys dau dîm o Gymru, yr Alban ac Iwerddon, hefyd yn uchel ar agenda Lynn, ar ôl cynhyrchu chwaraewyr fel Seren Lockwood, Alaw Pyrs a Maisie Davies.
"Mae angen i'r rhaglen sicrhau ein bod ni'n adlewyrchu'r hyn fydd hi mewn gemau prawf," meddai Lynn.
"Rydw i wedi edrych ar y rhaglen [ar gyfer Brython Thunder a Gwalia Lightning] a byddwn ni'n edrych ar bwynt cyswllt canolog.
"Bydd chwaraewyr yn dod i mewn a byddaf yn edrych ar redeg rhywfaint o hynny hefyd."
Yn y cyfamser mae Lynn a'r chwaraewyr yn mynd adref i lyfu eu clwyfau, ac er bod y cyfan yn teimlo'n amrwd ar hyn o bryd, mae Lynn yn parhau i fod yn bositif.
"Mae yna optimistiaeth, ond mae o am sicrhau ein bod ni'n rheoli'r chwaraewyr ac yn eu paratoi ar gyfer y Chwe Gwlad," meddai.
Mae ganddyn nhw chwe mis tan i'r bencampwriaeth ddechrau'r Gwanwyn nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.