Warren Gatland i ystyried ei ddyfodol fel prif hyfforddwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn dweud ei fod am ystyried ei ddyfodol ar ôl cyfarfod â phenaethiaid Undeb Rygbi Cymru (URC) yn ystafell newid Stadiwm Principality wedi'r golled yn erbyn Awstralia.
Dywedodd Gatland, 61, y bydd yn cytuno â "beth bynnag yw'r penderfyniad gorau i rygbi Cymru" yn dilyn cwestiynau dros ei swydd.
Mae Cymru wedi colli 11 gêm brawf o'r bron am y tro cyntaf erioed yn dilyn y golled o 20-52 yn erbyn Awstralia ddydd Sul.
Dywedodd Gatland iddo siarad â chadeirydd URC Richard Collier-Keywood a'r cyfarwyddwr gweithredol rygbi Nigel Walker ar ôl y gêm.
"Beth bynnag yw'r penderfyniad gorau i rygbi Cymru, dwi'n fwy na chyfforddus gyda hynny," meddai.
"Os ydy hynny amdana i'n gadael a dyna'r penderfyniad gorau, yna gwnewch y penderfyniad.
"Fe wnawn ni siarad am hynny a gwneud hynny gyda'n gilydd."
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd
Nid yw Cymru wedi ennill gêm brawf ers dros 13 mis ac mae'r tîm wedi llithro i'r 11eg safle yn netholion y byd.
"Mae 'na gymaint o negyddiaeth o gwmpas y gêm o ran yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ar y cae ac oddi arno," meddai Gatland.
“Yr hyn dwi’n poeni amdano’n aruthrol yw rygbi Cymru a dyfodol y gêm.”
Gofynnodd Gatland a fyddai newid nawr yn cael effaith ar ffawd rygbi Cymru.
"Os ydych chi'n mynd i fy newid i, pwy ydych chi'n mynd i ddod i mewn a sut maen nhw'n mynd i newid pethau?" gofynnodd.
“Efallai y bydd gwneud newid yn helpu i liniaru rhywfaint o’r negyddiaeth oherwydd bydd yn newid pethau a bydd y ffocws ar rywbeth arall.
"Ond a fydd hynny'n gwella'r gêm? Ydych chi'n mynd i ddod o hyd i'r person iawn i wneud rhywbeth arall?
"Neu ydyn ni'n well ein byd yn rhoi ein pen i lawr, bwrw ymlaen a gobeithio - rhoi rhai pethau yn eu lle a all, gobeithio, wneud rhai gwelliannau ar lefel ranbarthol ac yn y system, a all fod o fudd i ni."
Roedd Gatland wedi derbyn llawer o feirniadaeth cyn gêm Awstralia gan gyn-chwaraewyr.
Dywedodd ei fod wedi gofyn i'w hun a oedd angen y drafferth, ac y byddai'n siarad am ei sefyllfa gyda'i deulu, ond mynnodd fod ganddo'r uchelgais i barhau.
"Mae'n heriol ar hyn o bryd, y mwyaf heriol mae wedi bod," cyfaddefodd Gatland.
“Rwyf wedi bod yn ôl ers dwy flynedd, byddwn yn dweud bod un o’r blynyddoedd, gyda’r hyn a wnaethon ni gyflawni yng Nghwpan y Byd, yn weddol lwyddiannus,” meddai.
“Roedd yna lawer o bobl yn dweud na fydden ni’n dod allan o’n grŵp yng Nghwpan y Byd achos doedden ni ddim yn ddigon da.
"Fe wnaethon ni ennill y grŵp yn y diwedd a dylen ni fod wedi cyrraedd rownd gynderfynol. Roedden ni'n siomedig.
"Nid yw'r 12 mis diwethaf wedi bod yn llwyddiannus. Rydym wedi colli llawer o brofiad ac rydym yn gwybod bod cyfnod ailadeiladu i fynd drwyddo."
'Pwy chi'n mynd i ddod mewn?'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun dywedodd cyn-chwaraewr Cymru Emyr Lewis bod cyfuniad o ffactorau wedi arwain at drafferthion y tîm.
Dywedodd fod ymddeoliad chwaraewyr profiadol dros y blynyddoedd diwethaf wedi chwarae rhan, a bod yr "oes aur" o chwaraewyr dros y degawd diwethaf wedi cuddio'r ffaith nad oes digon o chwaraewyr ifanc wedi datblygu'n sêr rhyngwladol.
Ychwanegodd fod gormod o chwaraewyr ifanc Cymru yn mynd i academïau yn Lloegr, "a ma’ nhw tu allan i radar Cymru wedyn a ni’n colli nhw i’r Saeson".
Dywedodd nad oes pwrpas galw ar Gatland i adael heb i gynllun gwell fod mewn lle.
"Does dim pwrpas i ni jyst dweud, ma’ rhaid i Warren Gatland fynd," meddai.
"Y cwestiwn nesaf yw - pwy chi'n mynd i ddod mewn? Faint o effaith ma' fe'n mynd i gael?
"A beth sydd mynd i ddigwydd o fan’na 'mlaen, achos mae'n rhaid i ni edrych hwn pump, 10, 15 mlynedd i’r dyfodol."
Mae pencampwyr y byd De Affrica yn dod i Gaerdydd ddydd Sadwrn nesaf.
Mynnodd Gatland y bydd carfan Cymru yn benderfynol o drawsnewid pethau’r penwythnos nesaf.
"Pan ydych chi'n ymwneud â chwaraeon proffesiynol, dyna'r heriau sy'n eich diffinio chi fel unigolyn," meddai Gatland.
Rhoddodd Gatland neges angerddol i gefnogwyr Cymru yn dilyn y golled yn erbyn Awstralia.
"Rydyn ni'n brifo'n fawr heddiw," meddai.
“Mae’r cefnogwyr wedi bod yn wych gyda’r gefnogaeth maen nhw wedi ei rhoi i ni dros y blynyddoedd.
"Mae'n debyg ein bod yn eu siomi ychydig. Felly mae angen i ni fynd allan yr wythnos nesaf a chywiro hynny trwy roi perfformiad y gallant fod yn falch ohono."