Troi arferion dyddiol yn yrfa lwyddiannus ar TikTok ac Instagram

Carys yn ei chegin. Mae hi'n gwisgo siwmper glas tywyll ac mae ganddi ei gwallt tywyll mewn byn. Mae hi'n gwenu ar y camera.Ffynhonnell y llun, Carys Harding
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys Harding nawr yn ennill cyflog drwy'r cyfryngau cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd

Fel unrhyw riant gyda phlant ifanc, mae trefn a strwythur yn bwysig i Carys Harding o Abertawe.

Ond yn wahanol i nifer, mae Carys, 27, yn rhannu ei bywyd dyddiol i filoedd o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn ennill cyflog yn y broses.

Mae'r fam i dri wedi denu mwy na 60,000 o bobl i'w thudalen Instagram yn rhannu ei harferion glanhau a threfnu - cynnwys sy'n tyfu'n fwyfwy poblogaidd yn y byd digidol.

"Wnes i erioed feddwl am un funud mai'r arferion a'r strwythur sydd gen i yn fy mywyd fyddai'n rhywbeth y byddai gan bobl ddiddordeb ynddo," meddai.

Carys gyda'i thri bachgen ifanc. Mae dau o'r bechgyn gyda'u mam yn edrych ar eu brawd bach mewn pram. Mae'r teulu ar lan y môr ac yn mwynhau yn yr haul.Ffynhonnell y llun, Carys Harding
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Carys ydy "ysbrydoli" eraill i wneud eu bywydau bob dydd yn haws

"Ni'n joio byw bywyd," meddai Carys, sydd â chefndir yn y byd marchnata.

"Ni'n treulio amser gyda'n gilydd a wedyn yn rhoi routines mewn i helpu hwnna."

Ar ôl iddi roi'r plant i'w gwely mae hi'n treulio 20 munud yn "chwipio o gwmpas" y tŷ, yn glanhau'r arwynebau, yn cadw pethau ac yn paratoi ar gyfer y diwrnod wedyn.

Mae Carys yn ffilmio'r gwaith ac yn ei droi'n fideos byr ar gyfer ei chyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Mae nifer fel Carys nawr yn gwneud bywoliaeth ar-lein yn rhannu eu bywydau dyddiol, gyda mwy na 11 miliwn o luniau a fideos yn ymwneud â'r hashnod 'glanhau'.

'Real a realistig'

Yn ôl Dr Ceri Bradshaw, seicolegydd academaidd ym Mhrifysgol Abertawe sy'n astudio ein perthynas â'n ffonau clyfar, mae cynnwys ar-lein am lanhau yn apelio oherwydd bod tacluso a thwtio yn realistig i'r rhan fwyaf o bobl.

"Mae'n rhywbeth y gallwn ei reoli mewn byd anhrefnus lle na allwn reoli unrhyw beth arall," meddai.

Yn y llun yma mae Emily Jones yn gwenu wrth edrych ar y camera. Mae hi'n gwisgo crys glas a mae ganddi wallt brown.Ffynhonnell y llun, Emily Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily Jones yn rhannu ei chyngor glanhau a threfnu ar ei chyfryngau cymdeithasol

Un arall sy'n rhannu cynnwys am lanhau ar y cyfryngau cymdeithasol ydy Emily Jones o Rydaman.

Dywedodd ei bod yn bwysig iddi fod yn "100% tryloyw" wrth rannu ei thriciau glanhau gyda'r 13,000 o bobl sy'n ei dilyn ar Instagram.

"Mae'n dueddol o fod y peth dyddiol yma o ailosod y tŷ a glanhau a thacluso," meddai Emily, 32, sy'n fam i ddau o blant.

"Rwy'n ceisio gwneud pethau lle os oes gen i hanner awr neu lle mae'r babi'n napio, dwi'n meddwl 'iawn, dwi am wneud hanner awr', oherwydd i mi mae hynny'n real a realistig.

"Allwch chi ddim glanhau drwy'r dydd. Mae'n amhosib.

"Rwy'n fam. Rwy'n ceisio gweithio ar yr un pryd. Mae gen i ddau o blant ifanc. Mae gen i'r holl bethau mae pawb arall yn eu gwneud yn eu bywydau."

'Dyddiau lle dyw pethau ddim yn berffaith'

Dywedodd Dr Stephanie Alice Baker, athro mewn cymdeithaseg ym Mhrifysgol City St George yn Llundain, fod glanhau yn rôl yr oedd menywod "yn nodweddiadol" yn ei chyflawni.

Dywedodd y gallai creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar lanhau felly gynnig "ymdeimlad o reolaeth".

"Maen nhw'n gallu ennill arian ar rywbeth y bydden nhw'n draddodiadol wedi'i gwblhau fel llafur di-dâl."

Dywedodd Dr Baker, er bod cynnwys ffordd o fyw yn cynyddu mewn poblogrwydd, dyw diddordeb y gynulleidfa ddim yn newydd.

"Roedd y math hwn o gynnwys yn bodoli cyn cyfryngau cymdeithasol - dim ond bod cyfryngau cymdeithasol yn ei wneud yn llawer mwy hygyrch," meddai.

"Mae'r cyfryngau a'r cynulleidfaoedd wedi newid ond mae'r pryderon am hunan-wella wedi bodoli dros genedlaethau."

Esboniodd Dr Ceri Bradshaw fod yna risg fod pobl "yn cael ein twyllo'n hawdd" i beidio â sylweddoli bod fideos bachog 60 eiliad yn cymryd oriau o waith i'w creu, ac yn cael eu golygu'n drwm.

"Rwy'n meddwl ein bod ni hefyd yn cael ein twyllo'n hawdd i feddwl y dylen ni fod yn debycach i'r bobl rydyn ni'n eu gwylio," meddai.

Yn ôl Carys Harding mae cael y cydbwysedd yn ei chynnwys yn hollbwysig iddi.

"Fi yn cael dyddiau lle dyw pethau ddim yn berffaith," meddai.

"Dydw i byth eisiau iddo ddod ar draws fy mod eisiau cadw fy nhŷ yn lân am unrhyw reswm arall heblaw ei fod yn gwneud fy mywyd yn haws.

"Dydw i ddim eisiau i bobl edrych ar fy nhudalen a theimlo'n llai o berson."