Dau fachgen yn pledio'n ddieuog i lofruddio tad 38 oed

Llun o Kamran AmanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kamran Aman yn dad i un plentyn

  • Cyhoeddwyd

Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi pledio'n ddieuog i lofruddio dyn 38 oed yn Y Barri fis diwethaf.

Bu farw Kamran Rasool Aman ar 1 Gorffennaf 2025, o ganlyniad i un clwyf ar ôl cael ei drywanu yn ei frest.

Fe glywodd Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am aflonyddwch, ychydig cyn hanner nos ar 30 Mehefin ar Ffordd y Barri ble roedd yn byw a bu farw yn oriau mân y bore.

Ni all y diffynyddion 16 a 17 oed o Lanilltud Fawr, Bro Morgannwg, gael eu henwi oherwydd eu hoedran.

Cafodd y ddau wybod y byddan nhw'n wynebu achos llys, sydd fod i ddechrau ar 11 Tachwedd.

Roedd aelodau o deulu Mr Aman hefyd yn bresennol yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Dywedodd ei deulu mewn teyrnged fod Mr Aman yn "ŵr ffyddlon, yn dad cariadus ac yn fab, brawd, ewythr a ffrind arbennig".

Pynciau cysylltiedig