Dau fachgen yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth tad, 38

Roedd Kamran Aman yn 38 oed ac yn dad i un plentyn
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn ifanc wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth tad 38 oed o'r Barri.
Ymddangosodd y bechgyn, 16 a 17 oed o Lanilltud Fawr - nad oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol - yn Llys Ynadon Caerdydd fore Iau.
Bu farw Kamran Aman wedi i'r heddlu gael eu galw i achos o drywanu yn Y Barri ychydig cyn hanner nos, nos Lun 30 Mehefin.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Aman ei fod yn "ŵr ffyddlon, yn dad cariadus ac yn fab, brawd, ewythr a ffrind arbennig".

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad ar Heol Y Barri nos Lun 30 Mehefin
Cadarnhaodd y diffynnydd 16 oed, a ymddangosodd yn y llys mewn crys-t du, ei enw a'i gyfeiriad wrth y llys a safodd drwy gydol yr achos.
Syllodd yn syth ar y clerc wrth i'r cyhuddiad o lofruddiaeth gael ei ddarllen iddo.
Safodd y diffynnydd 17 oed, a oedd yn gwisgo siwmper lwyd, wrth i'r cyhuddiad gael ei ddarllen iddo yntau hefyd, gan adrodd ei enw a'i gyfeiriad wrth y llys.
Ni blediodd y diffynyddion, a chafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa ieuenctid.
Byddan nhw'n ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Wrth i'r diffynnydd 16 oed adael y doc gwaeddodd aelodau o'i deulu, "dwi'n dy garu di" a "cymera ofal yna, iawn boi".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl