Carcharu mam pedoffeil o heddwas am guddio'i ffôn mewn bedd cath
- Cyhoeddwyd
Mae mam cyn-blismon a gafodd ei garcharu am oes am 160 achos o gam-drin plant yn rhywiol, wedi cael ei charcharu ei hun am geisio'i helpu a chladdu un o'i ffonau symudol yn eu gardd.
Fe wnaeth Lewis Edwards, 25 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, flacmelio a bygwth merched dan oed i anfon lluniau anweddus o'u hunain ato ar Snapchat.
Cafodd ei ganfod gyda 4,500 o ddelweddau anweddus o blant.
Fe gafodd ei fam, Rebekah Edwards, 48, ei charcharu am ddwy flynedd ddydd Mawrth wedi iddi bledio'n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder mewn gwrandawiad blaenorol.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Rebekah Edwards wedi cuddio tri ffôn symudol.
Roedd hi wedi claddu un ohonyn nhw yn eu gardd, ger ble roedd anifeiliaid anwes y teulu wedi'u claddu.
Clywodd y gwrandawiad dedfrydu ddydd Mawrth bod yr heddlu wedi cael gwybod yng Ngorffennaf 2023 - pum mis ar ôl i Lewis Edwards gael ei arestio - bod rhywun wedi ei glywed yn siarad gyda'i fam am sawl ffôn symudol.
Dywedodd Roger Griffiths ar ran yr erlyniad bod Rebekah Edwards wedi gofyn i'w mab beth ddylai hi wneud gyda'r ffonau, a bod Lewis wedi ateb: "Claddu'r un du."
Ym mis Awst 2023 cafodd Rebekah Edwards ei harestio ac fe roddodd dau o'r ffonau i'r heddlu, ond ni wnaeth hi grybwyll yr un yn yr ardd tan i'r plismyn ei holi'n benodol am hynny.
Dywedodd Mr Griffiths bod rhieni Lewis, Rebekah a Mark Edwards, wedi edrych ar ei gilydd, cyn iddi hi gyfaddef: "'Nes i gladdu'r ffôn yn yr ardd, lle 'nes i gladdu'r gath."
Mewn gwrandawiad blaenorol fe wnaeth Mark Edwards, 51, bledio'n ddieuog i wyrdroi cwrs cyfiawnder, ac fe gafodd ei ganfod yn ddieuog wedi i'r erlyniad ddweud na fydden nhw'n cyflwyno tystiolaeth yn ei erbyn.
Ond fe wnaeth Rebekah Edwards bledio'n euog.
Clywodd y llys fod un o'r ffonau yn cynnwys lluniau o gam-drin plant yn y categori mwyaf difrifol, gyda rhai mor ifanc â 10 oed.
Doedd dim modd gwybod beth oedd ar y ffôn a gafodd ei gladdu yn yr ardd am ei fod wedi cael ei ddifrodi.
Dedfryd arall i Lewis Edwards
Hefyd ddydd Mawrth cafodd Lewis Edwards ei ddedfrydu ymhellach i ddwy flynedd ac wyth mis dan glo, wedi iddo bledio'n euog i fod â rhagor o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Roedd eisoes wedi cael dedfryd oes, gydag isafswm o 12 mlynedd dan glo.
Bydd y ddedfryd newydd yn cael ei gwneud yr un pryd â'i ddedfryd bresennol, gan olygu na fydd yn treulio mwy o amser yn y carchar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023