Carcharu Lewis Edwards am droseddau rhyw yn erbyn plant
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-heddwas gyda Heddlu De Cymru a gafodd ei ddal â miloedd o luniau anweddus o blant, wedi cael dedfryd oes o garchar.
Fe wnaeth Lewis Edwards, 24 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, ddefnyddio ap cymdeithasol Snapchat i feithrin perthynas â dros 200 o ferched ifanc.
Bydd Edwards dan glo am o leiaf 12 mlynedd cyn i'r bwrdd parôl ystyried ei ryddhau.
Roedd wedi pledio'n euog i 160 o droseddau, gan gynnwys annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, annog plentyn i wylio gweithred rywiol, blacmel a chreu delweddau anweddus o blant.
Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke mai dim ond dedfryd o garchar sy'n briodol oherwydd difrifoldeb y troseddau.
Clywodd y llys fod Edwards wedi bod mewn cyswllt â chyfanswm o 210 o ferched rhwng 10 ac 16 oed - gyda lluniau o 207 ohonyn nhw wedi eu darganfod ar ei wahanol ddyfeisiau.
Cafodd ei ddal gyda dros 4,500 o luniau anweddus o blant - 700 o'r rheiny yn y categori mwyaf difrifol.
Clywodd yr achos gan un ferch 13 oed a ddywedodd bod Edwards wedi ei bygwth hi a'i theulu.
Dywedodd: "Ddoi fyth dros y trawma yma."
Roedd merch 12 oed wedi hunan-anafu ar ôl cael ei thargedu gan Edwards, a dywedodd ei mam wrth y llys bod ei merch "ddim yr un plentyn mwyach".
Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng Tachwedd 2020 a Chwefror 2023 - pan gafodd ei arestio yn ei gartref.
Roedd y mwyafrif llethol wedi cael eu cyflawni ar ôl i Edwards ymuno â Heddlu De Cymru yn Ionawr 2021.
Cafodd ei wahardd rhag plismona yn dilyn gwrandawiad camymddwyn.
Ychwanegodd Ms Ustus Lloyd-Clarke fod yna batrwm clir i ymddygiad Edwards: "Byddai'r diffynnydd yn cysylltu â merch ar-lein ac yn ffugio ei fod yn fachgen tua'r un oed.
"Byddai'n meithrin perthynas â'i ddioddefwyr ac yn eu cam-drin yn feddyliol tan fod ganddo reolaeth ohonyn nhw.
"Yn aml, yn sgil pryder am eu diogelwch eu hunain neu eu teuluoedd, byddai'r dioddefwyr yn gwneud yr hyn yr oedd Edwards yn ei ofyn - fel arfer yn y gobaith y byddai ef yn gadael llonydd iddyn nhw.
"Os nad oedd hynny'n digwydd, byddai wedyn yn eu bygwth - hyd yn oed pan roedd y merched yn ymbil mewn dagrau arno i ddod a'r gamdriniaeth i ben.
"Mae hi'n hanfodol bwysig fod pawb, yn enwedig y dioddefwyr a'u teuluoedd, yn deall nad ydyn nhw wedi gwneud un rhywbeth o'i le.
"Mae'r bai, a'r cyfrifoldeb, i gyd yn disgyn ar y diffynnydd."
'Niwed sylweddol i enw da'r heddlu'
Yn ôl Ms Ustus Lloyd-Clarke mae natur "creulon" y troseddau yn waeth wrth ystyried bod y diffynnydd yn arfer bod yn swyddog heddlu.
"Does dim amheuaeth bod ei weithredoedd wedi achosi niwed sylweddol i enw da Heddlu De Cymru, a'r heddlu yn fwy cyffredinol.
"Ond dylid cofio mai swyddogion Heddlu De Cymru wnaeth ymchwilio i'r achos yma hefyd."
Roedd gan Edwards "sawl dyfais", meddai Tracey Rankin o dîm ymchwilio ar-lein yr heddlu.
"Ffonau, ffonau symudol, gliniaduron, offer storio data. Ond y ffordd yr oedd popeth wedi cael ei gysylltu, doedd hi ddim mor syml a thynnu'r plwg a chymryd popeth oddi yno.
"Roedd y systemau cadw lluniau... wedi eu trefnu yn ôl oedran. Roedd pob ffolder felly yn cynnwys deunydd gan bobl ifanc o grŵp oedran arbennig - ac roedd gweld pa mor drefnus oedd y cyfan yn frawychus."
'Troseddau erchyll'
Dywedodd Esyr Jones, Uwch-arolygydd gyda Heddlu'r De: "Mae'r troseddau a gyflawnwyd gan Lewis Edwards yn ddirmygus ac mae'n siŵr y bydd y cyhoedd mewn sioc fod y fath droseddau erchyll wedi'u cyflawni gan heddwas."
Dywedodd bod Edwards wedi ei wahardd a'i ddiswyddo "cyn gynted ag oedd yn bosib", ond bod ei ymddygiad yn "niweidiol i hyder y cyhoedd mewn plismona" ac yn tanseilio gwaith swyddogion heddlu sy'n gwasanaethu "gyda dewrder a balchder yn ddyddiol".
"Ry' ni'n deall y bydd yna bobl yn gofyn sut y gallai Edwards fod wedi ymuno â'r heddlu ar yr un pryd ag yr oedd yn cyflawni'r troseddau ofnadwy hyn.
"Pan ymunodd â Heddlu De Cymru, roedd yr ymholiadau i'w gefndir yn glir a doedd dim i ddangos ei fod yn gysylltiedig â throseddau mor ffiaidd."
Snapchat 'wedi cyflwyno rhybudd'
Dywedodd Snapchat mewn datganiad bod unrhyw gamdriniaeth o blant a phobl ifanc yn "erchyll ac yn anghyfreithlon, ac rydyn ni wir yn cydymdeimlo gyda'r dioddefwyr yn yr achos yma".
"Rydyn ni'n gweithio mewn sawl ffordd i ddod o hyd i, ac atal y fath yma o gamdriniaeth gan ddefnyddio technoleg adnabod arloesol - yn ogystal â gweithio gyda'r heddlu i gefnogi ymchwiliadau.
"Mae 'na systemau ychwanegol mewn lle i amddiffyn pobl dan 18 oed, ac yn ddiweddar rydyn ni wedi cyflwyno rhybudd i bobl ifanc os ydy rhywun diarth yn cysylltu â nhw.
"Mae ein canolfan teulu hefyd yn galluogi rhieni i weld â phwy yn union y mae eu plant yn siarad."
Dywedodd llefarydd ar ran NSPCC Cymru ei bod hi'n erchyll meddwl bod y troseddau yma wedi eu cyflawni gan Edwards tra'i fod o'n gweithio fel heddwas.
"Ei rôl oedd amddiffyn pobl fregus, a byddai ef wedi bod yn ymwybodol o'r effaith ofnadwy y mae camdriniaeth o'r fath yn gallu ei gael ar bobl ifanc."
Mae'r elusen hefyd yn mynegi pryder ynglŷn â pha mor hawdd ydy hi i droseddwyr dargedu plant ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae'r achos yma yn dangos yn glir pam fod y Mesur Diogelwch Ar-lein, sydd ar fin dod yn gyfraith, mor bwysig - gan y bydd yn gorfodi cwmnïau technoleg i gynllunio eu gwefannau gyda diogelwch plant yn flaenoriaeth."
Yn ôl Dr Mair Edwards, seicolegydd clinigol sy'n arbenigo mewn gwaith gyda phlant a theuluoedd, mae camdriniaeth rithiol yn gallu bod "yr un mor niweidiol, os nad yn fwy niweidiol na chamdriniaeth gorfforol".
"'Da ni 'di clywed y dystiolaeth bod nifer yn sôn bod eu bywydau wedi dinistrio am byth, ac wrth gwrs, 'sa rhywun eisiau gofalu bod nhw'n gallu cael yr help therapiwtig fel bod nhw'n gallu gweld bo' ganddyn nhw fywyd i fyw, a bo' 'na ffordd ymlaen," meddai.
"Ond mae gwasanaethau iechyd meddwl dan bwysau aruthrol - ac os oes 'na ganran uchel o'r plant yma yng Nghymru - mae'n anodd gwybod sut y mae'r angen yma yn mynd i gael ei ddiwallu.
"Mae rhywun yn gobeithio bod 'na gefnogaeth yn mynd i fod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd1 Medi 2023