Mam pedoffeil o heddwas yn cyfaddef ei helpu

Plediodd Lewis Edwards yn euog i 160 cyhuddiad o gam-drin plant yn rhywiol a blacmel
- Cyhoeddwyd
Mae mam cyn-blismon a gafodd ei garcharu am oes am 160 cyhuddiad o gam-drin plant yn rhywiol, wedi pledio’n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe wnaeth Lewis Edwards o Ben-y-bont ar Ogwr flacmelio a bygwth merched dan oed i anfon lluniau anweddus o'u hunain ato ar Snapchat.
Cafodd ei ganfod gyda 4,500 o ddelweddau anweddus o blant.
Roedd rhieni’r dyn 24 oed - Rebekah a Mark Edwards - wedi cael eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder trwy guddio tri ffôn symudol dros gyfnod o chwe mis, rhwng Chwefror ac Awst 2023.
Fe gyfaddefodd Rebekah Edwards, 47, y cyhuddiad, tra bo Mark Edwards, 51, wedi pledio'n ddieuog, ac fe gafodd yr achos yn ei erbyn ei ollwng.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth tan ei gwrandawiad dedfrydu.
Carcharu heddwas dargedodd 200 o ferched ar Snapchat
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023
Heddwas wedi gofyn am luniau o blant mewn gwisg ysgol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
Heddwas wedi'i ddal â lluniau anweddus o 200 o blant
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2023
Fe ymddangosodd ei mab Lewis Edwards hefyd yn y llys ddydd Iau trwy gyswllt fideo o Garchar Parkhurst.
Roedd eisoes wedi cael ei ddedfrydu i oes yn y carchar ar ôl meithrin perthynas amhriodol â dros 200 o ferched rhwng 10 ac 16 oed ar-lein.
Plediodd yn euog ddydd Iau i bedwar cyhuddiad pellach - gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy guddio ffonau symudol a thri achos arall o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant.
Bydd Rebekah a Lewis Edwards yn cael eu dedfrydu ar 22 Tachwedd.