Eryri: Cyflwyno cynllun ynni hydro yng Nghwm Cynfal
- Cyhoeddwyd
Mae cais i ddatblygu cynllun hydro a fyddai'n creu digon o drydan ar gyfer hyd at 700 o gartrefi wedi ei gyflwyno i Barc Cenedlaethol Eryri.
Yn ôl yr ymgeiswyr, byddai'r cynllun 600kW yn ardal Rhaeadr y Cwm yn defnyddio grym afon Cynfal ac yn galluogi rhai trigolion ym Mro Ffestiniog i wneud arbedion ar eu biliau ynni.
Ond mae wedi denu gwrthwynebiad hefyd, gyda rhai asiantaethau yn rhybuddio y byddai'r cynllun yn cael effaith annerbyniol ar fioamrywiaeth yr ardal.
Mae disgwyl i Awrudrod Parc Cenedlaethol Eryri wneud penderfyniad ar y cynllun dros y misoedd nesaf.
'Ymdoddi fewn i'r tirwedd'
Dydy datblygiadau hydro ddim yn ddiarth i'r ardal hon, gyda Gorsaf Bŵer Ffestiniog wedi ei hadeiladu dros 60 mlynedd yn ôl.
Hon oedd yr orsaf bŵer pwmpio a storio cyntaf o bwys i'w hadeiladu yn y Deyrnas Unedig, a hyd heddiw mae'n cynhyrchu digon i gyflenwi holl anghenion ynni gogledd Cymru am sawl awr.
Mae'r cynllun diweddaraf, sy'n un llawer llai o ran maint, wedi ei gyflwyno gan dri o frodyr sy'n ffermio'r tir, sef Dafydd Elis, Elis Dafydd a Moi Dafydd.
Os caiff ei wireddu byddai cored – neu weir dam - yn cael ei chodi yn Afon Cynfal sy'n bwydo Rhaeadr y Cwm ger Llan Ffestiniog.
Ar adegau pan fo digon o lif byddai hyd at 70% o’r dŵr yn cael ei ddargyfeirio o’r rhaeadr mewn peipen danddaearol.
Yn nes ymlaen byddai’r dŵr yn dychwelyd wedyn i Afon Cynfal ar waelod y rhaeadr ar ôl mynd drwy'r tyrbin, gyda weiren arall dan ddaear yn cario’r trydan i’r grid.
Dywedodd Moi Dafydd y byddai'r cynllun yn chwarae ei ran wrth i Gymru anelu at fod yn genedl sero net erbyn 2050.
"Mae'n gynllun ddigon syml i ddweud y gwir, mae cynlluniau hydro yn ymdoddi fewn i'r tirwedd heb i lot o bobl sylwi fod nhw yna," meddai.
"Bydd y llif gwarchodol, yn amlwg, yn cael ei amddiffyn i wneud yn siŵr fod 'na ddŵr yn yr afon ar bob achlysur."
Ychwanegodd y byddai'r cynllun yn gyfle i'w fferm deuluol arallgyfeirio ac y byddai buddion i'r gymuned leol hefyd.
"'Da ni wedi bod yn gweithio gyda Energy Local, sy'n helpu cynhyrchwyr lleol i allu gwerthu'r trydan i gymunedau lleol ac osgoi'r angen i dalu'r grid cenedlaethol i ddosbarthu'r trydan, sy'n golygu fod trydan yn gallu bod llawer rhatach.
"'Da ni wedi comisiynu adroddiad sy'n dangos fod posib i 800 ymuno efo'r clwb egni felly fydd o'n fuddiol i'r gymuned leol."
Dywedodd hefyd fod yr ymateb lleol wedi bod yn "bositif iawn" a bod y "mwyafrif helaeth" mewn sesiwn galw heibio diweddar wedi datgan cefnogaeth.
Mae'n hyderus hefyd na fydd yn cael effaith andwyol ar edrychiad y rhaeadr na llif y dŵr: "Ar ôl gorffen ei adeiladu fydd y rhan fwyaf fydd yn pasio ddim yn sylwi fod hi yno.
"Mewn cyfnodau o dywydd sych, pan fydd pobl yn fwy tebygol o fod allan, fydd y cynllun ddim yn gweithio am na fydd digon o ddŵr yn yr afon.
"Fydd o'n fwy tebygol o weithio ar y nosweithiau gwlyb yn y gaeaf pan fydd pobl mewn ac angen y trydan, fydd o'n cynhyrchu trydan pan fydd pobl wir ei angen."
'Cymryd risg ofnadwy'
Mae’r cynlluniau eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Tref Ffestiniog, ond mae 'na wrthwynebiad hefyd, gyda rhai yn dweud y byddai’n cael effaith ar fywyd gwyllt.
Ymysg yr asiantaethau i ddatgan pryder dros y cynlluniau yw Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Buglife a Save our Rivers.
Er yn gyffredinol gefnogol o gynlluniau hydro, mae Cymdeithas Eryri yn gwrthwynebu'r cais, ac yn poeni y byddai'n cael effaith andwyol ar edrychiad a sain y rhaeadr.
"Petai'r cynllun yma'n mynd yn ei flaen ac yn dargyfeirio, ar adegau, bron i 70% o'r dŵr drwy bibell, byddai lot llai o ddŵr yn y rhaeadr," meddai Rory Francis o'r gymdeithas.
"Mae hwn yn le sydd gyda'r lefel uchaf o warchodaeth ar gyfer byd natur, mae'n SSSI (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) mewn parc cenedlaethol oherwydd y mwsoglau a llysiau’r afu prin sydd yma oherwydd y lleithder.
"A'r cyfan er mwyn creu swm gweddol fach o drydan.. mi fysa angen 12 cynllun fel hwn i gynhyrchu gymaint o drydan ag un tyrbin gwynt modern.
"'Da ni'n gryf o blaid ynni adnewyddol ond mae angen pwyso a mesur pob cais ac mae'r niwed bysa'r cynllun yma'n ei wneud i safle eiconig yn Eryri yn ormod yn ein barn ni."
Ychwanegodd Mr Francis ei fod yn "bryderus iawn" yn sgil penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i ganiatáu trwydded tynnu dŵr (abstraction license) i'r cynllun.
"Sa fo'n cymryd risg ofnadwy hefo lle arbennig iawn a 'da ni ddim yn gweld pam fod angen cymryd y risg yna.
"Mae 'na gymaint o agweddau o'r cynllun sy'n peri pryder, fydd yn rhaid creu ffos i gladdu'r bibell.
"Ond fydd y ffos yn gorfod croesi o dan yr afon ac mae peryg fydd llif yr afon yn golchi'r pridd a'r cerrig oddi ar y bibell, bydd hyn yn edrych yn hyll ac yn peri problemau llygredd yn bellach lawr yr afon."
'Mae balans i'w daro yma'
Tra'n cydnabod fod gwrthwynebiad i'r cynllun, dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd fod angen pwyso a mesur yr holl ffactorau.
"Mae ‘na deulu lleol yn cynnig datblygu prosiect fydd yn creu ynni rhatach i'r gymuned leol,” medd Mabon ap Gwynfor.
"Mae'n rhaid i ni gofio fod ardal Bro Ffestiniog, wrth edrych ar ardal Tanygrisiau er enghraifft, hefo'r tlodi tanwydd gwaethaf ym Mhrydain er bod yr ardal yn cynhyrchu gigawatts o ynni sy'n mynd allan o'r ardal, a'r pres hefyd.
"Wrth gwrs mae balans i'w daro yma, mae 'na bryderon ecolegol ac mae'n rhaid eu hystyried, ond rhaid i'r ymgeiswyr drio sicrhau bod y pryderon yna'n cael eu hateb orau posib.
"Os ydym o ddifrif am ynni annibynol a sicrhau ein bod yn cael budd lleol a chymunedol o brosiectau cynhyrchu ynni, dyma'r math o brosiect mae'n rhaid i ni weld."
Does dim disgwyl penderfyniad am beth amser wrth i swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri drafod y cynlluniau dros y misoedd i ddod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi
- Cyhoeddwyd30 Awst
- Cyhoeddwyd24 Awst